Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Llwyfan gyrfaoedd a recriwtio ar-lein yn sicrhau £275,000 mewn cylch cyllido dan arweiniad Banc Datblygu Cymru

Sarah-Smith
Swyddog Buddsoddi Cynorthwyol
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Digital Profile

Mae porth gyrfaoedd ar-lein newydd gyda'r nod o helpu pobl i gael mynediad at swyddi a hyfforddiant wedi derbyn cefnogaeth o £275,000 gan Fanc Datblygu Cymru, y buddsoddwr preifat, Giles Phelps, a Chyngor Caerdydd.

Mae Digital Profile sydd wedi'i leoli yn y TramShed Tech yng Nghaerdydd, yn caniatáu i ddefnyddwyr greu CV digidol byw. Mae hefyd yn caniatáu i gwmnïau hysbysebu cyfleoedd yn uniongyrchol i ysgolion a darparwyr addysg. Wedi'i lansio ym mis Mehefin 2016, mae gan Digital Profile dros 450 o fusnesau cymeradwy eisoes a mwy na 3000 o unigolion yn defnyddio eu system yn barod. 


"Roeddem am greu llwyfan ymgysylltiol sy'n caniatáu i bobl newid ac addasu eu CV neu eu proffil yn hawdd," esboniodd sylfaenydd Digital Profile Dan Lewis. "Mae ein system yn caniatáu i ymgeiswyr deilwra ceisiadau yn syml ac addasu eu proffil wrth iddynt ennill mwy a mwy o brofiad. Mae hefyd yn caniatáu i gyflogwyr a darparwyr hyfforddiant dargedu cyfleoedd priodol tuag at nifer fawr o ymgeiswyr posibl am gost llawer mwy fforddiadwy a thrwy hynny leihau'r amser gweinyddol sydd ei angen i reoli'r broses. Rydym eisoes wedi cael nifer o ysgolion, awdurdodau lleol a chyflogwyr yn cofrestru ar y llwyfan." 

"Mae gan Dan a'r tîm gynnyrch hynod o gyffrous a hawdd i’w ddefnyddio," meddai Sarah Smith, y Swyddog Buddsoddi gyda Banc Datblygu Cymru, a strwythurodd y fargen: "Mae'n dyst i arloesedd y llwyfan fod cymaint o bobl a busnesau eisoes wedi ymrwymo i'w ddefnyddio.

"Gyda diogelwch preifatrwydd y llwyfan, mae Digital Profile mewn sefyllfa berffaith i fynd i'r afael â'r pryderon y bydd cyflogwyr yn eu hwynebu pan fydd y rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol yn dod i rym ym mis Mai eleni."

Mae Cyngor Caerdydd nid yn unig yn defnyddio'r system ond maent hefyd wedi buddsoddi yn y cylch cyllido ddiweddaraf. Dywedodd y Cynghorydd Russell Goodway, yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu yng Nghyngor Caerdydd: 

''Rydym yn falch o ymuno â Banc Datblygu Cymru wrth wneud buddsoddiad yn Digital Profile. Mae'r cwmni wedi bod yn allweddol wrth ddatblygu a gweithredu Digital Profile arloesol a fydd wrth wraidd menter Ymrwymiad Caerdydd wrth ganiatáu i ysgolion, disgyblion a busnesau rannu gwybodaeth a chyfleoedd mewn gofod digidol diogel. Mae'r ddyfais wedi cael derbyniad da gan y sector breifat ac awdurdodau lleol eraill ac fe all ei botensial fod yn arwyddocaol. Mae hefyd yn dangos y sylfaen gadarn o sgiliau digidol sydd gennym yng Nghaerdydd ac ar draws Rhanbarth y Ddinas a rôl y Tramshed Tech yn Grangetown ar gyfer meithrin sgiliau digidol.''

Mae unig gwmni FTSE 100, sef cwmni yswiriant mawr Admiral, Caerdydd, hefyd wedi ymuno â'r system. 

"Mae gan llwyfan Digital Profile gydbwysedd gwych o ran yr hyn y mae cyflogwyr ei angen a'i eisiau o lwyfan gan gynnwys anghenion yr ymgeiswyr," meddai Luke Tooze, Rheolwr Recriwtio Digidol yn Admiral. "O safbwynt y cyflogwr, mae'r system yn ein galluogi i hyrwyddo, rheoli a chael lefel wych o wybodaeth reoli yn ôl. 

"Mae'n braf gweld llwyfan mor gyffrous ar gyfer ymgeiswyr a chyflogwyr ill dau ac mae'n rhywbeth yr ydym yn edrych ymlaen yn fawr at fod yn rhan ohono yma yn Admiral."
Mae Devopsguys sydd yn seiliedig yn Ne Cymru hefyd wedi defnyddio'r llwyfan mewn ymgyrchoedd recriwtio diweddar. Dywedodd Ryan Cullen, People Partner gyda'r Devopsguys: "Mae'n wych gweld ateb arloesol i'r farchnad lafur sy'n newid, yn enwedig yn y dirwedd gwaith technoleg sy'n parhau i fod yn heriol. 

"Mae Digital Profile yn cynnig rhywbeth newydd ac unigryw ac maent yn cynnig buddion ychwanegol o ran gwerth i gyflogeion ac i gyflogwyr. Gyda rhai cyflogwyr mawr yn ymgysylltu â'r llwyfan, rwy'n siŵr ei bod hi'n debygol o ddenu llawer o'r doniau gorau sydd â diddordeb mewn gweithio yn y maes. Gallaf weld yn bersonol bod twf parhaus Digital Profile yn mynd i gynyddu yn sgil ei straeon llwyddiant o ei hun."

Cynghorwyd Digital Profile gan Loosemores Solicitors a chynghorwyd y Banc Datblygu gan Capital Law.