Mae Banc Datblygu Cymru wedi penodi Cyfarwyddwr Cyllid newydd

David-Staziker
Prif Swyddog Ariannol
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
David Staziker

Mae Banc Datblygu Cymru yn falch o gyhoeddi ei fod wedi penodi Cyfarwyddwr Gweithredol ac aelod newydd ar y Bwrdd. Mae David Staziker wedi cael dyrchafiad i'r swydd Cyfarwyddwr Cyllid a bydd yn ymgymryd â'i rôl newydd ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Bydd yn rhannu ei amser rhwng pencadlys Wrecsam a'r swyddfa bresennol yng Nghaerdydd. Bydd David yn cymryd lle Kevin O'Leary sy'n bwriadu camu i lawr yn 2018 wedi iddo dreulio 12 mlynedd yn y rôl, gan gynnwys blwyddyn fel Prif Weithredwr dros dro yn 2015.

Wrth gyhoeddi'r penodiad, dywedodd Giles Thorley, Prif Weithredwr Banc Datblygu Cymru "Rwy'n falch iawn o groesawu David ar y Bwrdd. Bydd ei brofiad buddsoddi sylweddol a'i frwdfrydedd dros gefnogi busnesau yng Nghymru yn amhrisiadwy wrth i ni gynyddu'n graddfa a chyflawni mwy fyth dros Gymru.

Hoffwn hefyd ddiolch i Kevin am ei flynyddoedd lawer o ymroddiad a'i gyfraniad hanfodol tuag at adeiladu'r sefydliad sydd gennym heddiw."

Mae'r penodiad hwn yn dilyn proses recriwtio a gafodd ei hysbysebu'n genedlaethol a gefnogwyd gan Robert Half Finance & Accounting.

Mae David wedi bod gyda'r cwmni ers 2002, fel Swyddog Buddsoddi i ddechrau gyda'r Tîm Mesanîn. Ers hynny mae o wedi cyflawni nifer o swyddi rheoli, yn fwyaf diweddar fel Cyfarwyddwr Buddsoddi lle bu'n goruchwylio'r gwaith o gyflawni'r strategaethau buddsoddi a phortffolio. Ef oedd yn gyfrifol am weithredu Cymorth i Brynu (Cymru) a chodi arian ar gyfer Cronfa Eiddo Cymru.

Y tu allan i'r banc datblygu mae'n gyfarwyddwr anweithredol y People Group. Mae'n raddedig o Brifysgol Reading ac yn Gymrawd o'r Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig, roedd mewn swyddi yn flaenorol gyda PwC a Gambit Corporate Finance.