Mae Bangor Tire Services Limited yn newid perchnogaeth gyda'r Meistr Dechnegydd cymwysedig, Stuart Thomas, yn prynu busnes ei Dad allan ar ôl 32 mlynedd mewn busnes.
Sefydlodd Gwyn Thomas a'i bartner Dewi Roberts Bangor Tyre Services ym 1986. I ddechrau, roedd y busnes wedi'i leoli y tu ôl i hen Westy'r Rheilffordd ger Gorsaf Reilffordd Bangor. Mae'r busnes ers hynny wedi symud i safle mwy ar Ffordd Caernarfon ac mae'n darparu nifer o wasanaethau gan gynnwys; gosod teiars ac alinio 4 olwyn trwy ddull 3D, atgyweiriadau mecanyddol cyffredinol, diagnosteg arbenigol, profion MOT ar gyfer Dosbarthiadau 4, 5 a 7, Profion Hacni a gwasanaeth galw allan 24 awr y dydd. Gallant hefyd ddarparu ceir cwrteisi os ydych yn archebu hynny ymlaen llaw.
Bydd y cyfarwyddwyr a sefydlodd y cwmni yn awr yn ymddeol. Mae mab Gwyn, Stuart, sy'n 32-mlwydd oed, wedi sicrhau benthyciad chwe ffigwr gan y Banc Datblygu Cymru i'w prynu allan trwy ddefnyddio cerbyd pwrpasol arbennig o'r enw SRT Holdings.
Esboniodd Gwyn Thomas: "Mae Stuart wedi gweithio yn y busnes ers y 15 mlynedd diwethaf felly mae'n adnabod ein tîm a'n cwsmeriaid yn dda iawn. Mae o hefyd wedi bod yn rhedeg ei fusnes ei hun ar wahân, sy'n golygu ei fod wedi cael y cyfle i ehangu ei brofiad masnachol.
"Mae Dewi a minnau wedi gweithio'n galed iawn i adeiladu'r busnes fel ei fod yn llwyddiannus fel y mae heddiw. Mae'r gefnogaeth gan y Banc Datblygu Cymru yn golygu ein bod ni yn awr yn gallu ymddeol gyda'r sicrwydd y bydd Stuart yn cael y cyfle i ddatblygu ac ehangu'r busnes ymhellach. Bydd Gwyn yn parhau fel gweithiwr gyda Bangor Tyre Services mewn rôl ymgynghorol."
Ychwanegodd Stuart Thomas: "Dros y 32 mlynedd ddiwethaf, mae Dad a Dewi wedi datblygu busnes ffyniannus sy'n darparu cyflogaeth i bobl leol ac mae ein cwsmeriaid yn ffyddlon iawn. Rwy'n falch o ddweud bod ein cwsmeriaid yn cynnwys pobl leol cenhedlaeth gyntaf ac ail genhedlaeth, busnesau lleol a chenedlaethol a'r gwasanaethau brys.
"Roeddwn yn awyddus i gymryd drosodd ganddyn' nhw ond doedd hi ddim yn dasg hawdd cael mynediad at yr arian. Fe wnaeth ffrind i mi argymell fy mod i'n siarad â Banc Datblygu Cymru. Fe wnes i gysylltu â nhw a chyn i mi droi rownd, roedd yr arian yn ei le ac roedd y fargen yn un addas ac yn deg. Mae'r cymorth a'r gefnogaeth gan Rhodri Evans a'r tîm yn y banc datblygu wedi bod yn wych ac ni allaf ddiolch digon iddynt. Rwy'n falch iawn o fod yn cymryd drosodd gan fy Nhad a Dewi. Y Banc Datblygu sydd wedi gwneud i hynny ddigwydd i ni ac rwy'n edrych ymlaen at gynnal y lefel uchel o wasanaeth y mae fy Nhad a Dewi wedi ei gynnal ers blynyddoedd."
Rhodri Evans yw Rheolwr Rhanbarthol Banc Datblygu Cymru. Meddai yntau: "Mae dod o hyd i'r strategaeth ymadael iawn yn broblem gyffredin ond gall yr ateb fod yn syml iawn yn aml gyda'r arian sydd ar gael i helpu i gyllido pryniannau rheoli a buddsoddiad teuluol. Mae'n un o'r nifer o ffyrdd y gall ein Cronfa Busnes Cymru helpu perchnogion busnesau bach. Felly rydym wrth ein bodd ein bod wedi gallu hwyluso gwerthiant Bangor Tyre Services ar gyfer Dewi a Gwyn ac rydym yn awr yn edrych ymlaen at weithio gyda Stuart wrth iddo gymryd cyfrifoldeb dros dwf a chyfeiriad y busnes yn y dyfodol. Mae'n sefyllfa lle mae pawb sy'n gysylltiedig ar eu hennill."