Mae gwaith ehangu yn mynd rhagddo mewn datblygiad porthdai moethus gyda Chymorth y Banc Datblygu.

Richard-Easton
Swyddog Portffolio
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Cynllunio busnes
Twf
Seven Springs

Mae gan gyrchfan ymwelwyr o bwys yng nghanol Gorllewin Cymru gynlluniau i ehangu diolch i gymorth gan Fanc Datblygu Cymru.

Wedi’i lleoli ym mhentref Llanon yng Ngheredigion gyda golygfeydd o’r môr ar draws Bae Ceredigion ac yn ymestyn i fyny at Benrhyn Llŷn, mae Seven Springs yn galluogi cwsmeriaid i brynu neu osod porthdai mewn lleoliad arfordirol delfrydol, gan roi troedle trwy gydol y flwyddyn i ymwelwyr mewn rhan syfrdanol o Cymru.

Wedi i ganiatâd cynllunio gael ei roi, mae'r parc porthdai wedi dechrau ar y gwaith o ddatblygu tir newydd ar gyfer 38 o borthdai moethus newydd. Cefnogwyd prynu’r tir ychwanegol ar gyfer datblygu’r porthdai newydd gan fenthyciad o £200,000 gan Fanc Datblygu Cymru drwy Gronfa Busnes Cymru.

Dyma’r eildro i’r Banc Datblygu gefnogi Seven Springs Limited, yn dilyn buddsoddiad cychwynnol o £150,000 yn 2019 i ariannu gwaith seilwaith ar y safle presennol.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Steve Clapperton: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi dechrau gweithio ar y safle newydd, a fydd yn golygu y gallwn gynnig y porthdai moethus mewn amgylchedd arfordirol hardd i hyd yn oed rhagor o ymwelwyr.

“Rydym wedi bod yn edrych ar gynyddu’r lle a’r nifer o gabanau sydd gennym ers tro, felly roedd y gefnogaeth rydym wedi’i chael gan y Banc Datblygu a chael y caniatâd sydd ei angen i ddechrau’r gwaith yn rhyddhad enfawr.

Ychwanegodd Steve: “Roedd gweithio gyda’r Banc Datblygu ddeg gwaith yn haws na gweithio gyda banciau eraill. Fyddwn i ddim wedi gallu ehangu heb eu cefnogaeth – fe wnaethon nhw’n union beth maen nhw wedi’i sefydlu i’w wneud.”

Dywedodd y Cyfarwyddwr Richard Cross “Rydym wrth ein bodd bod yr Awdurdod Cynllunio Lleol wedi penderfynu edrych yn gadarnhaol ar ein cais cynllunio, a gyda chymorth Banc Datblygu Cymru bydd ein gweledigaeth ar gyfer yr ehangiad nodedig hwn yn awr yn cael ei gwireddu.

“Rydym ni a’n tîm cynllunio rhagorol wedi treulio’r ddwy flynedd ddiwethaf yn llunio cais cynllunio wedi’i ystyried yn ofalus ar gyfer 38 o borthdai moethus ychwanegol a fydd yn ychwanegu at y datblygiad sydd eisoes yn llwyddiannus yn Seven Springs. Rydyn ni i gyd yn hapus iawn gyda'r canlyniad."

Dywedodd Richard Easton, Swyddog Portffolio gyda Banc Datblygu Cymru: “Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda Steve a Richard, a’r tîm ehangach yn Seven Springs, ac rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu cefnogi eu cynlluniau twf drwy cyllid ychwanegol o Gronfa Busnes Cymru.

“Mae’n braf gweld busnes twristiaeth arall yn tyfu, gyda chynlluniau i ddod â hyd yn oed mwy o ymwelwyr i’r rhan hardd hon o Gymru.”

Mae Cronfa Busnes Cymru yn darparu cyllid ar gyfer bargeinion rhwng £50,000 a £5 miliwn, gyda benthyciadau, cyllid mesanîn a buddsoddiad ecwiti ar gael a thymhorau’n amrywio o un i saith mlynedd.