Mae Hybrisan o Bort Talbot wedi ymuno â'r frwydr yn erbyn pandemig Cofid 19 wedi iddo sicrhau buddsoddiad ecwiti o £500,000 gan Fanc Datblygu Cymru, buddsoddwyr preifat a grant Smart Cymru gan Lywodraeth Cymru.
Mae Hybrisan yn cynhyrchu glanweithydd hylif ac yn defnyddio nanodechnoleg ddatblygedig i gynhyrchu deunydd datblygedig iawn, wedi'i thrwytho â'r glanweithydd hylif er mwyn ei ddefnyddio mewn offer amddiffynnol personol (OAP) o ansawdd uchel ar gyfer y GIG a gweithwyr rheng flaen eraill. Mae'r glanweithydd hylif a ddatblygwyd gan Hybrisan 99.999% yn effeithiol wrth ladd coronafirws heb alcohol, hyd yn oed ar arwynebau.
Wedi'i sefydlu yn 2014 gan y Prif Weithredwr Dr Lee Bridgeman a'i dîm i gynnal ymchwil yn y sector gwyddorau bywyd, mae Hybrisan wedi symud ei holl waith cynhyrchu dros dro i frwydro yn erbyn Cofid-19.
Ar ôl datblygu rysáit electrodroelli yn ddiweddar sy'n caniatáu i'r hylif glanweithydd gael ei nyddu gan beiriant blaengar yn ffibrau mân-mân (nanoffibrau), mae Hybrisan bellach yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru a gweithgynhyrchwyr Offer Amddiffynnol Personol eraill i gynyddu cynhyrchiad yr hidlwyr wedi'u electrodroelli i'w defnyddio mewn masgiau wyneb.
Mae'r busnes wedi defnyddio cyfalaf menter gan Fanc Datblygu Cymru a buddsoddwyr preifat, yn ogystal â chyllid Smart Cymru. Mae'r grant Smart Cymru ar gyfer ariannu datblygu y deunyddiau gwrthficrobaidd nad ydynt wedi'u gwehyddu ymhellach. Mae'r rhain yn sail i'r systemau hidlo y maent yn eu datblygu i'w defnyddio mewn masgiau wyneb. Ac mae buddsoddiad y Banc Datblygu wedi cael ei ddefnyddio i brynu peiriant electrodroelli newydd, i'w galluogi i gynyddu cynhyrchiant.
Yn ogystal, mae’r busnes wedi defnyddio’r cyfalaf menter gan Fanc Datblygu Cymru, buddsoddwyr preifat a chyllid Smart Cymru i brynu peiriant ‘electrodroelli’ newydd a fydd yn eu galluogi i gynyddu gweithgynhyrchu hidlwyr masg wyneb.
Dywedodd Dr Lee Bridgeman, Prif Weithredwr: “Mae wedi ei gofnodi’n dda bod deunydd nanoffibrog - fel y rhai a ddatblygwyd gan Hybrisian - yn amddiffyn rhag bacteria niweidiol. Rydym wedi astudio'r priodweddau hyn yn fanwl ac erbyn hyn rydym wedi datblygu cynhyrchion sy'n profi'n hynod effeithiol yn erbyn bacteria a firysau niweidiol. Mae ein harbenigedd yn y maes hwn wedi ein paratoi ar gyfer yr heriau a gyflwynir gan y pandemig coronafirws ac rydym yn falch ein bod wedi gallu datblygu cynhyrchion a fydd o gymorth.”
Mae gan Dr Chris Mortimer, Cyfarwyddwr Technegol, PhD mewn nanodechnoleg, gydag arbenigedd mewn electrodroelli ar raddfa ac mewn deunyddiau gwrthficrobaidd. Mae'n arwain ar gynyddu cynhyrchiant eu cynhyrchion i'w defnyddio mewn OAP. Meddai: “Mae’r cymorth a gawsom gan y Banc Datblygu a Smart Cymru yn rhan annatod o’n hymdrechion i helpu i frwydro yn erbyn Cofid 19. Gyda’r gefnogaeth a gawsom rydym wedi gallu archebu ein peiriant electrodroelli cyntaf. Mae hyn yn trawsnewid cynlluniau'r busnes yn llwyr ac yn caniatáu inni ddatblygu nanoffibrau sy'n addas ar gyfer masgiau wyneb sy'n hidlo (hyd at lefel FFP3). Yn dilyn hyn byddwn yn dychwelyd at ein cynlluniau busnes gwreiddiol lle gallwn chwyldroi’r farchnad gofal clwyfau gyda’n dresin gwrthficrobaidd newydd ar gyfer clwyfau cronig.”
Dywedodd y Gweinidog dros yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Fe wnaethom ofyn i ddiwydiant yng Nghymru chwarae eu rhan wrth ein helpu i ymateb i’r heriau niferus a gyflwynir gan coronafirws a darparu cyflenwadau critigol i’n harwyr gofal iechyd ar y rheng flaen.
“Rwy’n falch iawn, gyda chymorth ein cynllun SMART Cymru a buddsoddiad gan Fanc Datblygu Cymru, fod Hybrisan wedi addasu ei strategaeth fusnes a’i weithdrefnau gweithio i wneud yn union hynny.
“Rydym yn croesawu eu cynhyrchiad o amrywiaeth o ddatrysiadau glanweithiol, ac fe all gwaith yn datblygu hidlwyr a deunyddiau masg wyneb arloesol fod yn ganolog wrth sefydlu cadwyn gyflenwi ddibynadwy a chydnerth yng Nghymru ar gyfer y math hanfodol hwn o OAP.
“Hoffwn ddiolch i Hybrisan am eu hymrwymiad i’n hymdrechion i gefnogi’r GIG a helpu i achub bywydau wrth i ni weithio i drechu’r firws hwn.”
Dywedodd Sarah Smith, Swyddog Buddsoddi Technoleg gyda Banc Datblygu Cymru: “Mae busnesau technoleg ym mhobman wedi mynd i'r afael â'r her o ymladd y pandemig coronafirws cyfredol. Mae technoleg ddatblygedig Hybrisan yn arloesol nid yn unig am ei allu i fod yn effeithiol yn erbyn Coronafirws ond gyda chymwysiadau cyffrous eraill hefyd. Rydym yn falch iawn o allu eu cefnogi wrth iddynt gynyddu eu gweithgynhyrchiant i helpu i gefnogi'r frwydr yn erbyn Cofid-19 gydag Offer Amddiffynnol Personol effeithiol. Mae ein buddsoddiad ecwiti wedi rhoi hyder i'r busnes gynyddu a masnacheiddio ei dechnoleg. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda'r tîm ar eu hymdrechion presennol ac yn y dyfodol."
Cynghorodd Leanne Thomas o Greenaway Scott (rhan o GS Verde Group) Hybrisan ac fe weithredodd Catherine Golledge o Capital Law ar ran Banc Datblygu Cymru.
Bydd y masgiau hidlo cyntaf ar gael yn ystod yr wythnosau nesaf, gyda'r datrysiad glanweithydd hylif ar gael i'w brynu ar-lein yn https://www.hybrisan.com/shop-1