Diweddariad pwysig: Mae angen cwblhau pob cais erbyn hanner nos 16 Medi 2025 os ydych chi am ddefnyddio ein system ymgeisio bresennol. Darllen mwy

Mae meithrinfa gofal dydd llawn Cymraeg gyntaf Casnewydd yn agor gyda chyllid gan Fanc Datblygu Cymru

Donna-Strohmeyer
Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Ariannu
Twf
Cynaliadwyedd
Wibli Wobli

Mae’r feithrinfa gofal dydd Gymraeg gyntaf wedi agor yng Nghasnewydd ar gyfer plant 2-5 oed gyda chyllid yn cael ei ddarparu gan Fanc Datblygu Cymru.

Wedi’i lleoli yn Nhŷ-du, mae Meithrinfa Wibli Wobli wedi’i chofrestru ar gyfer hyd at 40 o blant y dydd ac yn cynnig gofal dydd cyfrwng Cymraeg a lleoedd mewn clwb gwyliau ynghyd â sesiynau Ti a Fi Cymraeg am ddim ar ddydd Sadwrn. Mae micro-fenthyciad o £35,000 gan y Banc Datblygu wedi'i ddefnyddio i ariannu'n rhannol y gwaith o adnewyddu'r adeilad a'r costau gosod, gan gynnwys adeiladu mannau chwarae dan do ac awyr agored pwrpasol, cegin newydd a chyfleusterau toiled. Mae deg swydd newydd wedi'u creu hyd yma a dwy arall wedi'u hamserlennu ar gyfer mis Medi.

Sefydlodd y cyn gyfreithiwr Natasha Baker Wibli Wobli ar ôl cael trafferth dod o hyd i ofal plant Cymraeg i’w phlant ei hun. Cyn hynny roedd hi wedi cynnal dosbarthiadau iaith i blant ar draws Casnewydd a Chaerdydd ac wedi dysgu Cymraeg ei hun cyn cael ei chyflwyno i’r Banc Datblygu gan Busnes Cymru.

Dywedodd perchennog y feithrinfa, Natasha Baker: “Rwyf wastad wedi bod yn angerddol am ieithoedd ac wrth fy modd yn gweld sut mae plant yn dysgu iaith yn naturiol o oedran mor ifanc.

“Fel meithrinfa gofal dydd llawn Cymraeg cyntaf Casnewydd, rydym yn helpu i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg a chwrdd ag anghenion rhieni sy’n gweithio, yn enwedig y rhai sy’n dymuno i’w plentyn fynychu darpariaeth cyfrwng Cymraeg neu hyd yn oed dim ond rhoi mantais iddynt mewn bywyd gyda manteision bod yn agored i iaith arall ar gam holl bwysig yn eu datblygiad. Mae’r gefnogaeth gan Busnes Cymru a’r Banc Datblygu wedi golygu ein bod wedi gallu agor y feithrinfa a dechrau meithrin plant ifanc i ddysgu a thyfu trwy iaith a chwarae.”

Mae Donna Strohmeyer yn Swyddog Buddsoddi gyda'r Banc Datblygu. Meddai: “Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed ar gyfer y Gymraeg – miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ac i ddyblu nifer y bobl sy’n siarad Cymraeg o ddydd i ddydd – felly mae ond yn iawn i ni weithio gyda’n cydweithwyr yn Busnes Cymru. cefnogi busnesau sy’n helpu twf yr iaith a chreu swyddi i siaradwyr Cymraeg.

“Un o’r prif ffyrdd o gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yw datblygu’r ddarpariaeth a’r nifer sy’n manteisio ar addysg cyfrwng Cymraeg. Fel meithrinfa Gymraeg, mae Wibli Wobli yn darparu gwasanaeth o ansawdd uchel sy’n creu swyddi ac yn annog dysgu ac ymdeimlad o gymuned.”

Daeth y benthyciad ar gyfer Wibli Wobli o Gronfa Micro Fenthyciadau Cymru gwerth £32.5 miliwn a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae benthyciadau rhwng £1,000 a £50,000 ar gael i fusnesau bach, masnachwyr unigol a mentrau cymdeithasol yng Nghymru.