Mae perchnogion Madhav yn hongian eu ffedogau am y tro olaf wrth i'r Banc Datblygu gefnogi allbryniant rheolwyr o’r caffi Indiaidd llysieuol a’r farchnad fach boblogaidd yng Nghaerdydd

John-Babalola
Swyddog Buddsoddi Cynorthwyol
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Prynu busnes
Madhav

Mae Dnyaneshwar Gaikwad, 89, a’i wraig Pushpa, 78 wedi ymddeol o’u caffi Indiaidd llysieuol a’r farchnad fach boblogaidd yng Nghaerdydd ar ôl 43 mlynedd yn dilyn allbryniant rheolwyr sydd wedi’i ariannu’n rhannol gyda benthyciad o £100,000 gan Fanc Datblygu Cymru .

Wedi’i sefydlu gyntaf yn 1980 ar Lower Cathedral Road yng Nghaerdydd, mae Madhav yn gweini bwyd stryd Indiaidd llysieuol cartref. Mae'r cogydd Maruti Satpe a'i wraig Sadhana sy'n rheolwr y siop wedi cymryd drosodd y busnes ar ôl gweithio gyda'r Gaikwad's am y deng mlynedd diwethaf.

Gyda sgôr gyfartalog o 4.5 ar TripAdvisor a Google, bydd Maruti a Sadhana yn parhau i weini prydau blasus, iach a maethlon wrth dyfu’r siop groser gydag amrywiaeth o gynhyrchion arbenigol nad ydynt i’w cael yn unman arall yng Nghaerdydd a chynyddu gallu’r caffi i greu bwyty.

Maruti a Sadhana Satpe : “Ers dod o India i’r DU ym 1963, mae Dnyaneshwar a Pushpa Gaikwad wedi gweithio’n galed i adeiladu bywyd i’w teulu. Ymgartrefodd y ddau yng Nghaerdydd yn gynnar yn 1970 a phrynu siop fach yn 1980 ac fe wnaethant ei henwi yn Madhav ar ôl tad Mr Gaikwad. Fel dywed yr hen ystrydeb ‘mae’r gweddill yn hanes’ ac mae Madhav bellach yn siop groser a chaffi Inidan sefydledig y mae pobl leol yn ei adnabod ac yn ei garu.

“Rydym wedi cael y fraint o weithio gyda’r Gaikwad’s dros y deng mlynedd diwethaf. Ein breuddwyd ni oedd bod yn berchen ar y busnes un diwrnod felly gyda chymorth y Banc Datblygu, rydym bellach wedi gwneud i hynny ddigwydd. Rydyn ni'n teimlo’n gyffrous iawn ein bod yn parhau i wneud yr hyn rydyn ni'n ei garu, gan weini bwyd Indiaidd traddodiadol wedi'i goginio gartref i'n cwsmeriaid a thyfu'r siop groser.”

Gweithiodd y Swyddog Buddsoddi Cynorthwyol John Babalola gyda Dirprwy Reolwr y Gronfa Jo Thomas i strwythuro cyllid ar gyfer Madhav. Dywedodd John: “Ar ôl ymuno â’r Banc Datblygu yn ddiweddar, mae hwn wedi bod yn fargen gyntaf wych i weithio arno. Mae'n dangos ein cefnogaeth i berchnogion busnes o ethnigrwydd amrywiol ac yn dangos sut y gallwn helpu perchnogion busnes i ymddeol tra'n diogelu etifeddiaeth popeth y maent wedi'i gyflawni.

“Dymunwn bob llwyddiant i’r teulu Satpe wrth iddynt gymryd yr awenau drosodd a pharatoi ar gyfer y 43 mlynedd nesaf fel perchnogion Madhav.”

Daeth y benthyciad ar gyfer Madhav o Gronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru gwerth £500 miliwn. Mae’r gronfa yn cynnig benthyciadau, cyllid mesanîn a buddsoddiadau ecwiti rhwng £25,000 a £10 miliwn, caiff y gronfa ei hariannu’n gyfan gwbl gan Lywodraeth Cymru. Mae cyfnodau o hyd at 15 mlynedd ar gael i fusnesau Cymreig.