Matsudai Ramen at The Bank

Donna-Strohmeyer
Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Twf
Matsudai

Mae bwyty Ramen Japaneaidd traddodiadol James Chant yn mynd â’ch bryd ar fwyd Caerdydd i’r lefel nesaf wrth i’w becynnau ramen ‘DIY’ rhowch y pryd at ei gilydd eich hunan gartref dderbyn canmoliaeth feirniadol gan arwyr coginio gan gynnwys Jay Rayner, Tom Parker Bowles, Melissa Thompson a Pippa Middlehurst.

Wedi'i leoli yn hen fanc NatWest ar Clare Road yn Grangetown, agorodd Matsudai Ramen ei ddrysau ym mis Awst 2022. Mae'r adeilad 1700 troedfedd sgwâr wedi'i ddodrefnu’n briodol wedi iddynt gael  micro fenthyciad o £50,000 gan Fanc Datblygu Cymru.

Dechreuodd Matsudai Ramen ei fywyd am y tro cyntaf ym mis Medi 2019; ar y dechrau fel siop greadigol ‘pop yp’ dros dro ar gyfer y sylfaenydd James Chant, nad oedd ar y pryd erioed wedi gosod troed mewn cegin broffesiynol. Fel y cwmni cyntaf a’r unig gludwr yng Nghymru o ramen go iawn, heb unrhyw fath o dorri corneli gyda’r cynnyrch, roedd Matsudai yn hynod o boblogaidd ar unwaith, gyda digwyddiadau’n gwerthu allan mewn ychydig funudau – ond roedd angen iddo addasu’n gyflym pan gyrhaeddodd y pandemig yn 2020.

Nid oedd y gair digalonni yn rhan o’i eirfa, ac fe ddechreuodd y criw cwlt ramen gynhyrchu citiau ramen, ac ar ddechrau 2021 lansiodd wasanaeth dosbarthu cenedlaethol. Ers hynny mae Matsudai wedi dosbarthu dros 20,000 o becynnau ledled y DU. Mae'r tîm wedi cael sylw mewn erthyglau yn yr Observer, y Guardian, y Daily Mail, yr Independent a BBC Good Food gyda James hefyd yn cael ei wahodd i ymddangos mewn fideo gyda’r YouTuber cwlt Uncle Roger. Mae’r fideo wedi cael ei gweld dros chwe miliwn o weithiau erbyn hyn.

Pan ddechreuodd cyfyngiadau’r cyfnod clo gael eu llacio yn haf 2021 aeth Matsudai allan 'ar daith', gyda’r pop yps yn gwerthu allan ledled y DU, gan gynnwys cyfnod yn Llundain, lle cymerodd Matsudai awenau cegin Sefydliad Ffilm Prydain yn Soho am fis. Yna, ym mis Awst 2022 gyda chymorth y Banc Datblygu, agorodd James fwyty ramen cyntaf Cymru yn Grangetown, Caerdydd.

Gyda 70 o leoedd i bobl fwyta ac yntau erbyn hyn yn cyflogi 24 o staff, mae’r Cyfarwyddwr James Chant yn dweud bod Matsudai Ramen at the Bank wedi bod dan ei sang fyth ers iddo agor: “Mae’r citiau DIY yn dal i fod yn rhan bwysig o’n harlwy ond rydym wedi cael ein synnu gyda pa mor dda mae’r bwyty yn llwyddo.

“Mae cymuned Grangetown wedi bod mor groesawgar ac rydym yn ddiolchgar iawn i’r Banc Datblygu am helpu i ariannu ein hangerdd am ramen gwych. Mewn llai na thair blynedd, rydym wedi tyfu o fod yn fwyty dros dro i fod yn fusnes enwog gyda photensial cyffrous ar gyfer twf yn y dyfodol.”

Dywedodd y Swyddog Buddsoddi, Donna Strohmeyer o Fanc Datblygu Cymru: “Mae hyblygrwydd ein micro fenthyciadau yn eu gwneud yn ddelfrydol ar gyfer busnesau sy’n tyfu fel Matsudai sydd eisiau cymryd y cam nesaf ar eu taith.

“Mae James wedi adeiladu carfan o ddilynwyr ffyddlon mewn cyfnod byr o amser gyda Matsudai yn dod yn ‘y lle i fynd’ i gael Ramen Japaneaidd traddodiadol. Mae’r busnes dosbarthu yn ffynnu gyda chitiau ramen o safon bwyty ac erbyn hyn mae’r bwyty yn ychwanegiad i’w groesawu i Grangetown fel cyrchfan bwyd amlddiwylliannol llewyrchus.”

Mae micro fenthyciadau rhwng £1,000 a £50,000 ar gael gan Fanc Datblygu Cymru gyda thelerau ad-dalu yn amrywio o un i ddeng mlynedd. Gall busnesau bach, masnachwyr unigol a mentrau cymdeithasol sydd wedi’u lleoli yng Nghymru, neu sy’n barod i symud yma wneud cais am y cyllid sy’n cynnwys gwasanaeth llwybr cyflym.