Mazuma yn strwythuro ar gyfer twf x10

Kabitah-Begum
Uwch Swyddog Portffolio
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
mazuma founders and directors

Rydyn ni'n rhannu straeon trydydd parti perthnasol ar ein gwefan ni. Ysgrifennwyd a chyhoeddwyd y datganiad hwn gan Mazuma.

Mae Mazuma, aflonyddydd cyfrifeg, wedi cryfhau ei Fwrdd Cyfarwyddwyr yn sylweddol trwy benodi Cadeirydd newydd a Chyfarwyddwr Anweithredol sy'n brofiadol yn y sector, ac maen nhw hefyd wedi penodi Cyfarwyddwr Gweithrediadau ar gyfer eu cynlluniau twf uchelgeisiol. Sicrhawyd cyfalaf twf ychwanegol gan syndicet profiadol o fuddsoddwyr proffesiynol ochr yn ochr â chyllid dilynol gan ein partner twf presennol Banc Datblygu Cymru.

Dywedodd y Cyd-sylfaenydd Lucy Cohen. “Ers sefydlu’r busnes gyda fy ffrind o'm plentyndod, Sophie Hughes yn 2006 gyda’n gwasanaeth cyfrifo cyntaf yn seiliedig ar danysgrifiadau, mae’r farchnad gyfrifeg wedi datblygu’n sylweddol ond nid yw’n cyflawni’n effeithiol ar gyfer yr unig fasnachwr, partneriaethau na chwmnïau bach cyfyngedig yn effeithiol. Mae cynhyrchion meddalwedd fel Quickbooks neu Xero yn dal i fod angen i berchennog y busnes eu “gyrru”. Mae cyfrifwyr traddodiadol yn ddrud ac nid ydynt wedi'u halinio mewn gwirionedd â'n sylfaen cleientiaid ni, ac mae'r cwmnïau cyfrifeg mawr yn cael anhawster gwirioneddol i wasanaethu anghenion y farchnad. (Cyhoeddodd KPMG y byddai ei fenter gyfrifo busnesau bach yn cau ym mis Chwefror 2019). Gyda chyhoeddiadau diweddar Cyllid a Thollau EM ynghylch Gwneud Treth yn Ddigidol (MTD), mae mwy fyth o bwysau ar berchnogion busnesau bach i sicrhau eu bod yn rheoli eu gwaith cyfrifo o ddydd i ddydd yn effeithiol. Amser ein cleientiaid ni yw eu hadnodd mwyaf gwerthfawr. Mae pob munud y maen nhw'n ei dreulio ar gyfrifeg weinyddol yn funud na allan nhw fod yn cyflawni ar gyfer cwsmeriaid neu'n llwyddo i ddenu busnes newydd."

Dywedodd Ashley Cooper, (Cyd-sylfaenydd Catalyst Growth Partners, Entrepreneur, a darparwr Cyfalaf Smart) Cadeirydd y Bwrdd a Phrif Fuddsoddwr ar gyfer y buddsoddwyr preifat, “Mae Mazuma wedi creu busnes cryf iawn gyda sylfaen cleientiaid sylweddol, gan ddatrys problem wirioneddol i berchnogion micro fusnesau. Gyda newidiadau deddfwriaethol sydd ar ddod (Gwneud Treth yn Ddigidol - GTD), bydd y galw o du'r farchnad yn tyfu'n sylweddol. Fe fyddaf i fy hun a fy nghyd-gyfarwyddwr anweithredol, a'r grŵp buddsoddwyr ehangach, yn gweithio'n agos gyda'r Sefydlwyr a'r Tîm Rheoli i gyflymu twf y busnes.”

Mae Mervyn Ham, (Sylfaenydd Iridium Corporate Services, Prif Weithredwr, Entrepreneur a Buddsoddwr) yn ymuno â'r Bwrdd fel Cyfarwyddwr Anweithredol. Meddai “Fel cyfrifydd cymwys, rwy’n gyfarwydd iawn â’r broses feddwl draddodiadol ac ystrydebol sy’n aml yn cael ei chymhwyso i’r sector. Yn Mazuma, gwelaf awydd gwirioneddol i gyflawni dros eu cwsmeriaid mewn ffordd sy'n cyd-fynd yn llwyr â'u hanghenion. Gyda datblygiadau technolegol ym meysydd ACO (adnabod cymeriad optegol) a DP (dysgu â pheiriant) mae gan y busnes lwyfan aruthrol i ddarparu mwy o werth i gleientiaid ac i sbarduno twf sylweddol.”

Un o gamau gweithredu cyntaf y Bwrdd Cyfarwyddwyr oedd hyrwyddo Danielle Lewis FCCA i rôl Cyfarwyddwr Gweithrediadau o'i swydd bresennol fel Rheolwr Ymarfer. Dechreuodd ei gweithiwr #1, Danielle fel ceidwad llyfr rhan amser, fe lwyddodd i gael ei chymwysterau, magu teulu ac mae'n arwain y gad o ran darparu gwasanaeth, gyda chefnogaeth ei thîm ffyddlon.

Mae Banc Datblygu Cymru wedi cefnogi'r busnes ers nifer o flynyddoedd. Dywedodd Kabitah Begum, Swyddog Portffolio “Rydym yn falch iawn o fod yn cefnogi twf parhaus Mazuma gyda chyllid ychwanegol i gefnogi eu cynlluniau twf, ac rydym yn awyddus i groesawu Bwrdd profiadol i weithio gyda’r Sefydlwyr i yrru’r twf hwn.”