Menter newydd yn codi £1.5m ar gyfer prawf gwaed i ganfod canser y coluddyn cynnar

Andy-Morris
Uwch Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Cyllid
Twf
Technoleg
Cansense

Mae CanSense – cwmni o Abertawe wedi datblygu prawf gwaed y gobeithir a fydd yn achub bywydau drwy ganfod canser y coluddyn yn gynnar – wedi codi £1.5m gan Mercia, Banc Datblygu Cymru a chwmni biopsi hylif Nonacus.

Mae prawf CanSense, sy’n cyfuno sbectrosgopi laser gyda deallusrwydd artiffisial, yn gyflymach ac yn llai ymwthiol na cholonosgopi ac yn fwy derbyniol i gleifion na phecyn canfod gwaed yn y carthion. Mi all ganfod canser y coluddyn yn gynnar pan mae’n llawer haws i’w drin a phan fydd y siawns o oroesi’n llawer uwch.

Mae astudiaethau wedi dangos y gall ganfod polypau cyn iddynt fod yn falaen, cyn iddynt ddatblygu’n ganser. Gall hefyd ddangos nad oes canser yn bresennol gyda lefel uchel o gywirdeb a gallai felly helpu meddygon teulu i benderfynu pa gleifion i’w hanfon am archwiliadau pellach. Ar hyn o bryd mae llai nag un o bob deg claf sy’n cael colonosgopi sydd â chanser ac amcangyfrifir fod prosesau diangen yn costio tua £300m y flwyddyn i’r GIG.

Bydd y cyllid, sy’n dilyn grant o £1.2m gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd yn 2022, yn galluogi’r cwmni i ddatblygu’r cynnyrch ymhellach ac i gynnal treialon clinigol i gydymffurfio â gofynion rheoleiddiol ac i’w gyflwyno ar y farchnad.

Mae prawf gwaed CanSense yn seiliedig ar ymchwil gan yr Athro Peter Dunstan, yr Athro Dean Harris a Dr Cerys Jenkins o Brifysgol Abertawe a ariannwyd yn rhannol gan Ymchwil Canser Cymru. Ymunwyd â Dr Adam Bryant, entrepreneur a chyn fancwr buddsoddi gyda PhD mewn ffiseg, i sefydlu CanSense yn 2019.

Meddai Adam Bryant, Prif Swyddog Gweithredol y cwmni: “Mae symptomau canser y coluddyn yn amhenodol sy’n ei wneud yn anodd i feddygon teulu ei ganfod. Mae llawer o gleifion yn cael eu hanfon am golonosgopi ond mae’r rhan fwyaf o’r canlyniadau’n negyddol, sy’n creu llwybr aneffeithlon sydd bellach dan straen mawr. Mi allai ein pecyn ni helpu meddygon teulu i wneud y penderfyniadau brysbennu cywir, gan ryddhau gwasanaethau diagnostig a sicrhau bod cleifion â blaenoriaeth uchel yn cael eu gweld cyn gynted â phosib. Drwy ganfod canser y coluddyn mor gynnar â phosibl, mi allai hefyd wella’r rhagolygon yn sylweddol i gleifion.”

Canser y coluddyn yw ail achos mwyaf o farwolaethau o ganser yn y DU, sy’n cyfrif am dros 16,800 o farwolaethau bob blwyddyn. Mae ei ganfod yn gynnar yn holl bwysig - mae gan gleifion sy’n cael diagnosis o ganser y coluddyn cam un siawns o 95% o oroesi am bum mlynedd neu fwy, o’i gymharu â dim ond 5% i rai sy’n cael diagnosis yng ngham 4. Ar hyn o bryd dim ond 15% o achosion sy’n cael eu canfod yn gynnar ond mae cynllun tymor hir y GIG yn gobeithio codi hyn i 75% erbyn 2028.

Ychwanegodd Rafael Joseph, Rheolwr Buddsoddi gyda Mercia: “Mae CanSense yn un o genhedlaeth newydd o offer canfod canser sydd â’r potensial i arbed llawer o fywydau a lleihau’r baich ar y GIG. Mae gan Mercia wybodaeth arbenigol yn y maes hwn ac mae wedi cefnogi llawer o arloeswyr. Mae CanSense yn ddarn arall yn y pos ac mae ei allu i ganfod canser yn y cam cynharaf yn eithriadol o gyffrous.”

Meddai Andy Morris, Swyddog Buddsoddi Gweithredol yn y tîm Buddsoddi mewn Mentrau Technegol gyda Banc Datblygu Cymru: “Rydym yn falch o allu cefnogi CanSense yn ystod y rownd fuddsoddi hon gyda chymorth ecwiti. Mae eu technoleg profion yn dangos potensial mawr, a fydd yn helpu ôl-groniadau’r GIG os caiff ei datblygu’n gyffredinol, ac rydym yn falch o gefnogi gwaith y cwmni hwn gan ei fod yn dod â’i arbenigedd i sector technoleg feddygol Cymru, sy’n cryfhau’n gyflym.”

Meddai Chris Sale, Prif Swyddog Gweithredol Nonacus: “Mae technoleg unigryw sbectrosgopi â phatent CanSense wedi dangos addewid mawr mewn canlyniadau clinigol cynnar fel prawf sgrinio neu frysbennu i ganfod canser yn gynnar. Yn ogystal â hyn mi all y dechnoleg alluogi profion cost isel a thrwybwn uchel sydd eu hangen mewn lleoliadau sgrinio a brysbennu. Yn y dyfodol mi allai technoleg CanSense gael ei defnyddio fel prawf arunig neu mewn cyfuniad â phrawf aml-omeg gyda’n profion DNA sensitif iawn ni’n ôl yr angen.”