Diweddariad pwysig: mae angen cwblhau pob cais erbyn 9am 18 Medi 2025 os ydych chi am ddefnyddio ein system ymgeisio bresennol. Darganfod mwy.

Mentergarwyr ifanc yn agor Canolfan Hyfforddiant Focussed Fitness Wrecsam

Charlotte-Price
Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Twf
Focused Fitness

Mae mentergarwyr ifanc a ffrindiau ffitrwydd Conor McKeogh ac Alex Lloyd wedi agor eu canolfan hyfforddi gyntaf gyda micro-fenthyciad gan Fanc Datblygu Cymru.

Mae Conor, sy’n 24 oed ac Alex, sy’n 30 oed yn hyfforddwyr personol cymwys ac mae’r ddau yn caru helpu eraill i ddod yn ffit, teimlo’n iachach a cholli pwysau. Ar ôl cydweithio’n hunangyflogedig yn flaenorol, mae’r pâr bellach wedi agor Focussed Fitness – uned 3,200 troedfedd sgwâr gyda 2,000 troedfedd sgwâr o arwynebedd llawr i’r gampfa ar Lôn Rhosnesni yn Wrecsam.

Gydag amrywiaeth o offer pwrpasol, mae Focussed Fitness yn cynnig dosbarthiadau a hyfforddiant mewn grwpiau bach. Mae pob sesiwn yn cael ei rhedeg gan un o dri hyfforddwr gydag uchafswm aelodaeth o 100.

Dywedodd Alex Lloyd: “Mae agor ein canolfan hyfforddi ffitrwydd gyntaf yn ddilyniant naturiol ond mae’n gam mawr sefydlu busnes am y tro cyntaf. Fel mentergarwyr ifanc, rydym wedi bod yn falch iawn o'r cymorth yr ydym wedi'i gael i ddechrau’r busnes. Mae Conor a minnau yn cydnabod na fyddem wedi gallu ei wneud heb gefnogaeth y Banc Datblygu. Mae’n gromlin ddysgu gyson ond maen nhw wedi bod gyda ni bob cam o’r ffordd, gan wneud y broses gyfan yn gyflym ac yn hawdd fel ein bod wedi gallu agor yn barod ar gyfer y flwyddyn newydd.”

Dywedodd Conor McKeogh: “Rydym yma i helpu pobl leol i gyflawni eu nodau ffitrwydd. Rydym yn canolbwyntio ar adeiladu cymuned o bobl sy'n helpu ei gilydd i wella eu hunain. Rydym yn adnabod ein holl gleientiaid yn bersonol ac mae hyn yn golygu bod gennym gymuned gynhwysol a chefnogol o bobl o bob oed a gallu. Mae’n ffordd wych o deimlo’n iachach, teimlo’n fwy heini a cholli pwysau.”

Ychwanegodd y Swyddog Buddsoddi Cynorthwyol Charlotte Price: “Mae Conor ac Alex wedi helpu cannoedd o bobl yn y gymuned i gyflawni eu nodau ffitrwydd a gwella eu hiechyd meddwl a’u lles trwy eu hyfforddiant. Mae eu huchelgais i agor eu canolfan hyfforddi ffitrwydd eu hunain a rhedeg eu busnes eu hunain fel mentergarwyr ifanc yn gyffrous iawn, felly rydym yn falch iawn o allu eu cefnogi gyda chyllid i roi hwb i’r busnes godi oddi ar y ddaear, yn enwedig gan fod cefnogi mentergarwyr ifanc yn rhywbeth allweddol rydyn ni’n canolbwyntio arno  eleni.”

Mae micro fenthyciadau rhwng £1,000 a £50,000 ar gael gan Fanc Datblygu Cymru gyda thelerau ad-dalu yn amrywio o un i ddeng mlynedd. Gall busnesau bach, masnachwyr unigol a mentrau cymdeithasol sydd wedi’u lleoli yng Nghymru, neu sy’n barod i symud yma wneud cais am y cyllid sy’n cynnwys gwasanaeth llwybr cyflym.