Micro Fenthyciad o £40,000 ar gyfer y cariad am ‘Dubs’

Donna-Strohmeyer
Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Cynllunio busnes
Twf
Busnesau technoleg
Holbrook Dubs

Mae brwdfrydedd am faniau gwersylla VW a byw yn yr awyr agored wedi ysbrydoli cwpl o’r Bont-faen, Candice a Matt Holbrook i sefydlu a thyfu eu busnes gwerthu a throsi eu hunain.

Wedi’i leoli yn Ystâd Ddiwydiannol Penllyn rhwng Pen-y-bont ar Ogwr a’r Bont-faen, mae Holbrook Dubs yn cymryd ei ysbrydoliaeth o gyfenw’r mentergarwr ifanc a’r llysenw poblogaidd am faniau gwersylla VW. Dechreuodd fasnachu ym mis Ionawr 2020 pan drawsnewidiodd Candice a Matt eu fan wersylla gyntaf yn ystod y cyfnod clo ar ôl gwerthu eu VW eu hunain i helpu gyda chostau.

Mae’r busnes teuluol wedi tyfu’n sylweddol ers hynny gan gynnig pecynnau pwrpasol gan gynnwys rhoi’r dewis i gwsmeriaid ddewis fan ynghyd â thrawsnewidiad pwrpasol a’r steilio / paentio allanol. Bydd micro fenthyciad o £40,000 gan Fanc Datblygu Cymru nawr yn cael ei ddefnyddio i ehangu eu cyfleusterau fel y gall y cwpl recriwtio'n uniongyrchol yn hytrach na dibynnu ar is-gontractwyr a buddsoddi i ehangu'r gweithdy gyda llawr mesanîn newydd. Mae cynlluniau hefyd i agor siop fanwerthu fach ar y safle yn gwerthu nwyddau Holbrook Dubs, uwchraddio dubs a’u steilio.

Dywedodd Candice a Matt: “Mae Holbrook Dubs yn llafur cariad fel y mae pob trawsnewidiad fan wersylla rydyn ni’n ei gwblhau. Rydyn ni wedi cyfuno ein cariad at yr awyr agored a'n hangerdd am VWs er mwyn torri'n rhydd o fywyd gwaith 9-5 a gwneud rhywbeth rydyn ni'n dau yn ei garu.

“Fe wnaethom dreulio ein penwythnos cyntaf i ffwrdd fel cwpl mewn campyrfan VW. Fe wnaethom werthu hi wedyn er mwyn dechrau’r busnes ac mewn llai na dwy flynedd rydym yn tyfu mor gyflym fel ein bod yn trosi tua 50 o faniau gwersylla y flwyddyn. Mae'r benthyciad gan y Banc Datblygu yn golygu bod gennym ni bellach y cyfalaf gweithio i wthio ymlaen ac ehangu ein busnes gan wneud rhywbeth nad oes neb arall yn ei wneud oherwydd mae popeth a wnawn yn gwbl bwrpasol. Mae’r gefnogaeth gan y Banc Datblygu yn golygu bod gennym ni’r hyder a’r arian i gyflawni cymaint mwy.”

Dywedodd Donna Strohmeyer o Fanc Datblygu Cymru: “ Mae micro-fenthyciadau yn ddelfrydol ar gyfer busnesau sydd am gymryd y cam nesaf ac sydd eisiau cynyddu eu graddfa a thyfu . Mae gan Candice a Matt fusnes gwych gyda photensial rhagorol sy'n dechrau ac yn gorffen gyda'u hangerdd dros VW’s. Dyna sy’n gyrru’r gwasanaeth personol, pwrpasol iawn y maent yn ei gynnig a pham eu bod mewn sefyllfa dda i fanteisio ar eu llwyddiant hyd yma a chynyddu’r hyn a gynigir ganddynt ledled y DU .”

Ariennir Cronfa Micro Fenthyciadau Cymru gwerth £32.5 miliwn yn gyfan gwbl gan Lywodraeth Cymru. Mae benthyciadau rhwng £1,000 a £50,000 ar gael gyda thelerau ad-dalu yn amrywio o un i ddeng mlynedd. Gall busnesau bach, masnachwyr unigol a mentrau cymdeithasol sydd wedi’u lleoli yng Nghymru, neu sy’n barod i symud yma wneud cais am y cyllid sy’n cynnwys gwasanaeth llwybr cyflym.