Middletons yr arbenigwyr symudedd yn barod i agor siopau newydd ar hyd a lled Cymru

Bethan-Cousins
Cyfarwyddwr Busnes Newydd
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Middletons

Bydd cwmni sy'n seiliedig yng Nghasnewydd yn ehangu eu cynnig manwerthu ar ôl codi £3.8 miliwn mewn ecwiti gan Fanc Datblygu Cymru a'r Wealth Club.

Mae Middletons, yr arbenigwyr dodrefn hygyrch a symudedd, yn bwriadu agor siopau newydd yng Nghaerdydd, Abertawe a Wrecsam yn dilyn cyd-fuddsoddiad ecwiti o £3.8 miliwn gan Fanc Datblygu Cymru a chleientiaid y Wealth Club Limited sy'n seiliedig ym Mryste. Ar hyn o bryd mae gan y cwmni sy'n seiliedig yng Nghasnewydd siopau yng Nghasnewydd ac ym Mryste.

Fe'i sefydlwyd yn 2013 gan y ddau ffrind Ricky Towler (34) a Thomas Powell (34), mae'r cwmni'n stocio dodrefn hygyrch o safon uchel a sgwteri symudedd. Mae'r cwmni'n canolbwyntio ar wasanaeth personol, sy'n caniatáu i gwsmeriaid gael profiad o a phrofi cynhyrchion symudedd yn eu siopau.

"Roeddwn i'n gweithio yn y sector symudedd ac fe welais i fod yna gyfle i wella profiad cynnyrch symudedd i gwsmeriaid," eglurodd y Rheolwr Gyfarwyddwr Ricky. "Fe wnes i siarad hefo fy ffrind tymor hir Tom ac roedd yntau'n cytuno. Fe ddechreuon ni'r busnes trwy deithio o gwmpas y wlad gyda stoc i ddangos i ddarpar gwsmeriaid. Mae'r rhain yn bryniadau pwysig i bobl sy'n aml yn henoed neu'n wan ac roeddem am wneud yn siŵr ein bod ni’n gallu eu helpu i gael y cynnyrch cywir. Er mwyn gwneud hynny, mae pobl angen gallu ei brofi, gyrru sgwter, dod o hyd i be sy'n gyfforddus a be sy'n gweithio iddyn nhw. Yn fuan, symudodd Tom a minnau i mewn i siopau brics a morter - ac mae ein cwsmeriaid wrth eu boddau gyda rhain.

"Bydd y buddsoddiad hwn gan y banc datblygu a’r Wealth Club yn ein galluogi i dyfu'n gyflym dros y pum mlynedd nesaf, gan gynnig ein cynnyrch a'n gwasanaeth i sylfaen hyd yn oed mwy o gwsmeriaid."

"Wrth gwrdd â Ricky a Tom, roeddem yn gwybod bod hwn yn gyfle ecwiti cyffrous. Fe wnaeth eu hangerdd dros ofal cwsmer a'u gweledigaeth ar gyfer y busnes greu argraff fawr arnom ni," meddai Bethan Cousins, sy'n Ddirprwy Reolwr Cronfa gyda Banc Datblygu Cymru. "Mae ein cyfalaf yn darparu sicrwydd i'r cwmni allu ehangu eu rhwydwaith manwerthu yn gyflym i 22 storfa - sy'n golygu y bydd Middletons yn chwaraewr arwyddocaol yn y farchnad dros y ddwy i dair blynedd nesaf."

Y fargen hon yw'r gyntaf lle mae'r banc datblygu wedi buddsoddi gyda'r Wealth Club.

"Rydym wastad yn edrych tuag at ehangu ein rhwydwaith o gyd-fuddsoddwyr ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda'r Wealth Club yn y dyfodol," ychwanegodd Bethan.

Meddai Alex Davies, Prif Weithredwr y Wealth Club: "Cyn gynted ag y gwelais y cyfle hwn, roeddwn i'n ei hoffi. Mae'r syniad yn wych, mae'r gystadleuaeth yn dameidiog ac mae'n gweithredu mewn marchnad a ddylai dyfu oherwydd y ddemograffeg boed law neu hindda. Mae Ricky a Thomas wedi gwneud gwaith gwych wrth gael y busnes i ble mae o ar hyn o bryd ac mae gen i bob hyder ynddynt i'w symud i'r lefel nesaf. Edrychwn ymlaen at weithio gyda Banc Datblygu Cymru ar fargeinion yn y dyfodol."

Daeth yr arian cyllido ar gyfer y fargen o Gronfa Busnes Cymru, a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru, a Chronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru.