‘Natures Hand’ i ddarparu gofal a chefnogaeth yng Nglynebwy gyda chymorth y Banc Datblygu Cymru

Tara Lee-Fox
Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
nature

Mae asiantaeth gofal cartref newydd ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu ac anabledd corfforol wedi agor ym Mlaenau Gwent.

Gyda swyddfa ym Mharc yr Ŵyl, Glynebwy, mae Natures Hand Care yn weithredol yn cefnogi grŵp o unigolion i gael mynediad at lety byw â chymorth pwrpasol. Mae micro-fenthyciad gan y Banc Datblygu Cymru wedi helpu i ddarparu cyfalaf gweithio yn ystod  y cyfnod cychwynnol hwn.

Bydd y cwmni'n darparu llety â chymorth pwrpasol yn gweithio ochr yn ochr â landlord tai i ddarparu gofal a chymorth i oedolion 18+ oed sydd â diagnosis sylfaenol o anabledd dysgu neu gorfforol. Bydd y ganolfan wedi'i chofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru a'r bwriad yw cyflogi pobl yn yr ardal leol.

Meddai'r Cyfarwyddwr Darren Cook: "Ein nod yw darparu cartref am oes ar gyfer y rhai sydd angen byw gyda chymorth gyda chanolfan pwrpasol sy'n cynnig lleoliadau gydol oes mewn amgylchedd cartrefol gyda phecynnau cymorth personol.

"Mae'r cymorth ariannol gan y banc datblygu wedi helpu i wireddu'r freuddwyd mewn gwirionedd. Maent wedi bod mor gefnogol, gan gymryd yr amser i ddeall ein cynllun busnes a'n gweledigaeth. Mae popeth wedi bod mor syml; ni allem fod wedi gofyn am fwy ac rydym yn awr yn edrych ymlaen at groesawu'r bobl fydd yn cael eu cyfeirio atom gyntaf."

Mae Tara Lee-Fox yn Swyddog Buddsoddi gyda Banc Datblygu Cymru ac mae ei hardal hi'n cwmpasu Casnewydd, Sir Fynwy, Tor-faen a Blaenau Gwent. Ychwanegodd: "Mae Darren wedi datblygu gwasanaeth sydd mawr ei angen a fydd yn rhoi dewis a rheolaeth go iawn i bobl ar sut y maent yn byw eu bywydau gyda'r gefnogaeth sydd ei angen arnynt i gyflawni eu nodau a'u dyheadau personol.

"Mae cyflwyniad y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014 yn golygu bod y ffordd y mae gwasanaethau'n cael eu darparu yn newid - mae gan bobl fwy o lais yn y gofal a'r gefnogaeth maen nhw'n ei gael. Mae Cynllun Gweithredu Economaidd Llywodraeth Cymru hefyd yn canolbwyntio ar bwysigrwydd y sector gofal a dyna pam mae hyd yn oed mwy o bwyslais ar yr angen am help yn y gymuned a byw â chymorth. Mae lansiad Natures Hand wedi cael ei amseru'n berffaith.

"Mae Cronfa Benthyciadau Micro-fusnes Cymru yn ddelfrydol i'r rhai sy'n chwilio am help gyda chostau cychwynnol a chyfalaf gweithio o hyd at £50,000. Cyflwynodd Darren gynllun busnes cadarn a oedd yn cwrdd â'n holl feini prawf benthyca ac mae'n bleser arbennig ein bod yn gallu cefnogi busnes sydd mor werthfawr yn y gymuned a fydd o fudd i rai o'r rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas."