Olew dros Gymru yn adeiladu caffi newydd i dwristiaid a siop yng ngorsaf betrol Nantycaws

Richard-Easton
Swyddog Portffolio
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
oil 4 wales

Bydd gorsaf betrol ar yr A48 brysur ger Caerfyrddin yn cael bywyd newydd fel siop i dwristiaid a chaffi wedi iddynt gael benthyciad o £350,000 gan y Banc Datblygu Cymru.

Mae Olew Dros Gymru, Oil4Wales, cwmni olew annibynnol sy'n cyflenwi ar sail genedlaethol, yn bwriadu adeiladu caffi newydd yn Nantycaws. Byddant yn gwerthu cynnyrch Cymreig o ffynonellau lleol ar y safle sy'n edrych dros Goedwig Brechfa a chadwyn y Mynyddoedd Duon.

Mae'r garej ar y gerbytffordd dwyreiniol ar y prif lwybr ffordd o orllewin Cymru i Gaerdydd a Chasnewydd, ac mae sylfaenydd Olew Dros Gymru a'r rheolwr gyfarwyddwr Colin Owens yn credu bod ganddo botensial mawr i ddenu teithwyr.

"Tydi'r garej heb weld buddsoddiad ers dros 20 mlynedd. Mae'r lleoliad gyda'r olygfa dros gadwyn y Mynyddoedd Duon yn galw allan am fuddsoddiad i ddenu mwy o dwristiaid a phobl leol os gallwn ddarparu'r gwasanaethau, fel caffi a siop i dwristiaid, sydd wedi cael ei stocio â chynnyrch Cymreig," meddai Mr Owens."

Rydyn ni'n credu bod yna gyfle i gynnyrch o Gymru gael ei farchnata'n dda ac i fod yn atyniad i dwristiaid. Mae gennym rannau o gefn gwlad a thraethau sydd gyda'r gorau yn Ewrop, ac mae gennym gyhoeddusrwydd gwych yn awr gyda digwyddiadau yng Nghaerdydd a phopeth arall sy'n digwydd, - erbyn hyn rydym yn dod yn lleoliad gwych i dwristiaid," ychwanegodd Mr Owens.

Bydd y benthyciad gan y Banc Datblygu Cymru yn talu am ailwampio hen orsaf betrol Texaco yn ogystal ag addasu ac ehangu'r siop bresennol i siop dwristiaeth a chaffi newydd.

Wedi'i sefydlu naw mlynedd yn ôl, ethos ei sylfaenydd oedd adeiladu cwmni sy'n gweld ei hun, ac yn cael ei weld, fel rhan o'r gymuned. Gan gadarnhau eu hymrwymiad i'r gymuned, mae Olew Dros Gymru yn falch o fod yn noddi timau rygbi y Scarlets a'r Gweilch ac mae'r chwaraewyr yn falch o weithredu fel llysgenhadon brand ar gyfer y cwmni mewn digwyddiadau a sioeau cymunedol.

"Yr holl strategaeth wrth i ni gael ein creu oedd dod yn gwmni cymunedol Cymreig, ac yn gwmni olew Cymreig sy'n ateb y galw ar draws Cymru gyfan.

"Mae gennym bolisi mai dim ond cyflenwyr o Gymru rydyn ni'n eu defnyddio. Yn amlwg, mae ein holew yn dod o du allan i Gymru, ond ni fyddwn yn defnyddio unrhyw gwmni o'r tu allan i Gymru os oes cwmni o Gymru yn gallu cyflenwi'r gwasanaeth ac mae'n fasnachol gystadleuol," meddai.

Bellach mae gan y cwmni saith depot ar hyd a lled Cymru ac mae'n berchen ar bedair gorsaf betrol. Mae eu 42 tancer yn danfon olew i ffermydd, busnesau a chwsmeriaid domestig ar hyd a lled y wlad. Mae'n gwerthu neu'n darparu oddeutu 140 miliwn litr o olew i 70,000 o gwsmeriaid.

Mae cwsmeriaid masnachol - cludwyr a chwmnïau peirianneg sifil - yn cynrychioli dros 50% o'r busnes, gyda gwerthiannau manwerthu trwy garejis yn 5% gyda'r gweddill yn cael ei rannu'n gyfartal rhwng defnyddwyr amaethyddol a domestig.

Gan gadw'n dryw i ethos cwmni cymunedol mae gan Mr Owens ddiddordeb mewn twf cynaliadwy yn hytrach na thwf cyflym a gwerthiannau cyflym. Mi fydd y blynyddoedd nesaf yn cael eu treulio yn atgyfnerthu pethau, er fe fydd Olew Dros Gymru yn parhau i fod yn agored i gyfleoedd buddsoddi newydd os ac fel y maent yn ymddangos.

Dywedodd Mr Owens ei fod yn ddiolchgar i'r Banc Datblygu Cymru am gefnogi'r buddsoddiad.

"Fe wnaeth Swyddog Buddsoddi y Banc Datblygu argraff dda iawn arnaf i, roedd mor hawdd cyfathrebu gydag o, roedd yn deall yr hyn yr oeddem yn ceisio'i gyflawni gyda'r garej a'r lleoliad," meddai.

Meddai'r Swyddog Buddsoddi o'r Banc Datblygu Cymru, Richard Easton: "Mae Banc Datblygu Cymru wrth ei fodd yn cefnogi Olew Dros Gymru gyda'u cynlluniau arfaethedig i adnewyddu ac ymestyn Gorsaf Betrol Nantycaws.

"Mae Olew Dros Gymru yn fusnes gwych ac rydym yn rhannu'r un angerdd dros Gymru a chefnogi busnesau a chymunedau Cymru.

"Bu'n bleser gweithio gyda Colin, Sally a'r tîm yn Olew Dros Gymru ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio'n agos â nhw yn y dyfodol."

Hoffwn hefyd ddiolch i Gyfrifwyr Clay Shaw Butler am eu cefnogaeth ardderchog."

Meddai Mark Jones, Cyfarwyddwr gyda Clay Shaw Butler: "Roeddem wrth ein boddau yn gwneud y gwaith ar ran ein cleientiaid yn Olew Dros Gymru er mwyn i'r fargen hon rhyngddynt â Banc Datblygu Cymru ddwyn ffrwyth.

"Mae'n brofiad gwych gweithio ochr yn ochr â chleientiaid uchelgeisiol ar eu cynlluniau ehangu a'u gweledigaethau ar gyfer y dyfodol. Rydym yn ymfalchïo bod gennym berthynas hir dymor gyda'n cleientiaid a'u busnesau. Un agwedd allweddol o ran sail ein busnes yw gweithio ar ddysgu gwybodaeth hir dymor llawn am fusnesau. Felly, gallwn helpu cleientiaid i gyflawni eu nodau strategol hir dymor.

"Mae'n wych ein bod wedi gallu helpu Olew Dros Gymru gyda'u huchelgais i gyflawni prosiect allweddol yng Ngorllewin Cymru ac rydyn ni'n dymuno'r gorau iddyn nhw ar gyfer llwyddiant y busnes yn y dyfodol."