Pam mai nawr yw’r amser i brynu neu werthu busnes

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
stephen galvin

Wrth i’r cyfyngiadau symud gael eu llacio, mae llawer o berchnogion busnes sy’n edrych ymlaen at ymddeol yn ystyried eu hopsiynau ar gyfer y dyfodol ac mae trefniadau lle mae’r rheolwyr yn prynu’r busnes yn ddewis poblogaidd.

Gall prisio busnesau fod yn anodd yn ystod cyfnodau cyfnewidiol ond yn rhyfeddol mae’r rhain wedi aros yn gyson i raddau helaeth a phrin yw effaith y pandemig Covid-19 arnynt hyd yma. Yn wir, mae llawer o berchnogion busnes yn credu mai nawr yw’r amser i werthu ac mae trafodion ble mae rheolwyr yn prynu busnesau wedi dod yn eu blaen yn dda yn ystod ac ar ôl y pandemig.

Mae cynllunio olyniaeth yn cymryd amser ac er bod trefniant olyniaeth fel arfer yn broses hirfaith, mae gwerthu i’r tîm rheoli yn opsiwn poblogaidd oherwydd gall aflonyddu llai ar y busnes o gymharu â threfniant gwerthu traddodiadol. Gall hefyd ddarparu cysondeb mawr ei angen o ran cynhyrchiant a gwasanaeth i gwsmeriaid; ffactor sydd i’w groesawu ar ôl misoedd o ansicrwydd.

Fel yr esbonia Stephen Galvin, uwch swyddog buddsoddi o Fanc Datblygu Cymru: “Er gwaethaf Covid-19, rydym yn parhau i weld galw mawr am gyllid olyniaeth rheoli ac mae cyllid ecwiti yn arbennig yn opsiwn poblogaidd i dimau rheoli sy’n chwilio am fuddsoddwr cefnogol, hirdymor.

“Mae perchnogion busnes yn meddwl yn ofalus am eu strategaethau ymadael ac yn paratoi ar gyfer y dyfodol. Rydym yn gweithio’n agos gyda llawer o dimau rheoli i gynnig y cyllid sydd ei angen arnynt i brynu’r busnes oddi wrth y cyfarwyddwyr a’i sefydlodd.”

“Yn wir rydym yma i helpu timau rheoli a chanddynt gynlluniau busnes cadarn i sicrhau cyllid ac ers y cyfyngiadau symud mae cynghorwyr proffesiynol wedi dechrau defnyddio technoleg ddigidol at ddibenion prosesau diwydrwydd dyladwy er mwyn gallu cwblhau trafodion yn ddidrafferth yn ôl yr arfer.”

Mae Banc Datblygu Cymru yn gweithio gydag amrywiaeth o berchnogion busnes a thimau rheoli ar drefniadau olyniaeth wrth iddynt addasu i’r normal newydd a dechrau cael eu traed danynt unwaith eto ar ôl Covid-19. Cwblhaodd Nolan uPVC ei drefniant i reolwyr brynu’r busnes yn fuan ar ôl i’r cyfyngiadau symud ddod i rym yn y DU.

Wedi’i sefydlu ym 1989 gan Nolan Nicholas, mae Nolan uPVC yn fanwerthwr drysau, ffenestri ac ystafelloedd haul alwminiwm ac UPVC sydd wedi ennill sawl gwobr. Gan weithredu ledled Cymru a De-orllewin Lloegr, llwyddodd y tîm rheoli i brynu’r busnes, diolch i gyfuniad o fenthyciad a chyllid ecwiti gan Fanc Datblygu Cymru.

Ychwanegodd Stephen Galvin: “Mae Nolan wedi datblygu busnes hynod lwyddiannus a chadarn y mae cwsmeriaid a chydweithwyr fel ei gilydd yn ymddiried ynddo ac yn ei werthfawrogi. Mae ei angerdd a’i ofal wedi ymdreiddio i’r tîm rheoli sydd wedi gwneud gwaith gwych o ddatblygu’r busnes i ble y mae heddiw.

“Cyllid ar gyfer y math hwn o drefniant prynu gan reolwyr yw’r union reswm pam y sefydlwyd Cronfa Olyniaeth Rheoli Cymru; gan roi'r math cywir o gyllid i ddarpar berchnogion newydd allu prynu busnesau cynhenid a sicrhau eu bod yn cyflawni mwy fyth o lwyddiant.

Mae ein drysau ar agor led y pen i fusnes ac rydym yn annog unrhyw un sy’n ystyried cynllunio olyniaeth ac yn chwilio am gyllid busnes i gysylltu â’n timau cyfeillgar.”

Be' nesaf?

Cysylltwch gyda’n tîm buddsoddi ymroddedig i ddarganfod sut y gallem gefnogi'ch busnes neu os ydych chi'n meddwl eich bod yn barod i gael cyllid, gwnewch gais heddiw.

Cysylltwch â'n tîm Ymgeisio nawr