Mae Banc Datblygu Cymru wedi camu i'r bwlch i achub dau barafeddyg cymwys - Andrea a Gethin Bateman. Maen nhw wedi ymgymryd â menter fusnes newydd ac yn benderfynol o i roi bywyd newydd i dafarn a safle gwersylla’r Rising Sun ym Mhont Pelcomb, Hwlffordd.
Ar ôl gweithio fel parafeddygon rheng flaen i Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, mae Andrea bellach yn gynghorydd clinigol i Wasanaeth 111 GIG Cymru a Gethin yn rheolwr ymchwilio i ddigwyddiadau difrifol gyda Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Fodd bynnag, mae'r ffaith eu bod wrth eu boddau yn gwersylla a charafanio ynghyd â’u bod wedi cael benthyciad o £300,000 gan Fanc Datblygu Cymru yn golygu eu bod bellach hefyd yn berchnogion newydd balch ar Barc Gwyliau Pont Pelcomb sy'n cynnwys bwyty poblogaidd Rising Sun a Grill.
Prynodd y Batemans y safle tair erw sy’n cynnwys y Rising Sun Inn a maes carafanau cysylltiedig sy’n cynnwys nifer o leiniau carafanau a phebyll, cyfleusterau storio ar gyfer y gaeaf, tai chalet (dwy ohonynt yn cael eu defnyddio fel unedau rhentu) a charafán sefydlog.
Mae gwaith adnewyddu ar Fwyty a Gril y Rising Sun eisoes wedi dechrau ac mae’r Batemans wedi recriwtio’r prif gogydd enwog Matthew Cox o Dyddewi, sydd, yn ogystal â datblygu bwydlenni newydd a chyffrous, yn arwain y gwaith o foderneiddio’r gegin fel bod mwy o le i gwsmeriaid.
Mae gwelliannau hefyd yn cael eu gwneud i'r parc gwyliau ac mae'r rhain yn cynnwys cynlluniau i wneud y busnes yn fwy ecogyfeillgar trwy archebu system garthffosiaeth newydd o'r radd flaenaf, gosod paneli solar a phlannu llawer o rywogaethau o goed brodorol ar hyd ffiniau'r safle.
Bydd gan ymwelwyr â’r parc gwyliau a'r bwyty fynediad i barc chwarae newydd sbon i blant, tra gall gwesteion y parc gwyliau edrych ymlaen at ddefnyddio cyfleusterau toiled a chawodydd modern iawn.
Mae pedair swydd, gan gynnwys y Prif Gogydd newydd, eisoes wedi’u creu yn ychwanegiad at y saith aelod o staff a arhosodd gyda’r Batemans ar ôl iddyn nhw brynu’r busnes. Bydd swyddi tymhorol ychwanegol hefyd yn cael eu creu o fis Ebrill ymlaen.
Eglurodd Andrea a Gethin: “Gan bod y ddau ohonom yn hoff o ganolbwyntio ar bobl ac yn mwynhau cyfarfod â phobl newydd, roeddem am ddefnyddio'r sgiliau hyn i roi cynnig ar fenter newydd fydde'n rhoi cyfle i ni fuddsoddi yn ein dyfodol; rhywbeth a gyfunodd ein mwyniant mawr o'r awyr agored, gwersylla, carafanio a bwyd. Roedd The Rising Sun yn ticio pob blwch ac mae'n agos at y trefi lle cawsom ein magu sef Hwlffordd a Thyddewi.
“Hap a damwain ddaeth â ni yma. Gwelsom ar unwaith bod cyfle i roi bywyd newydd i’r busnes a gwireddu ei lawn botensial. Gyda’r cyllid gan Fanc Datblygu Cymru, roedden ni’n gallu prynu'r busnes a bwrw ymlaen â'n cynlluniau i uwchraddio'r cyfleusterau gwersylla ac ailwampio'r Rising Sun.
“Mae rhedeg busnes yn brofiad newydd i ni. Rydym eisoes yn cael adborth gwych ac wedi cael sgôr pum seren ar Trip Advisor. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ein tymor llawn cyntaf fel perchnogion Parc Gwyliau Pont Pelcomb a Bwyty a Gril y Rising Sun ac mae gennym lawer o gynlluniau cyffrous ar gyfer y dyfodol.”
Mae Clare Sullivan yn weithredwr buddsoddi gyda Banc Datblygu Cymru. Dywedodd: “Daeth Andrea a Gethin atom yn gofyn am gymorth i brynu’r busnes proffidiol hwn, busnes sydd eisoes wedi hen ennill ei blwyf er mwyn i’r perchnogion blaenorol allu ymddeol. Fel busnes gweithredol, roedd yn gynnig deniadol oherwydd ei fod yn darparu ffrydiau incwm amrywiol ac roedd cyfle inni helpu i ddiogelu swyddi saith o bobl leol. Heb os, mae ganddynt y sgiliau a'r ymrwymiad i wneud i’r busnes lwyddo ac rydym yn arbennig o falch o'u gweld eisoes yn buddsoddi mewn mesurau bioamrywiaeth ac effeithlonrwydd ynni ar y safle. Bydd hyn yn eu helpu i leihau eu hôl troed carbon. Rydym yn dymuno pob llwyddiant i’r tîm.”
Ariennir Cronfa Busnes Cymru sy’n werth £204 miliwn gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Llywodraeth Cymru. Mae benthyciadau, cyllid mesanîn, a buddsoddiadau ecwiti ar gael ar gyfer bargeinion rhwng £50,000 a £2 filiwn gyda’r telerau’n amrywio o un i saith mlynedd ar gyfer busnesau bach a chanolig (y rhai sydd â llai na 250 o weithwyr) sydd wedi’u lleoli yng Nghymru, neu sy’n barod i adleoli i Gymru.