Parc antur Gogledd Cymru yn caffael safle gyda chefnogaeth y Banc Datblygu a HSBC UK

Chris-Hayward
Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
one planet adventure

Rydyn ni'n rhannu straeon trydydd parti perthnasol ar ein gwefan ni. Ysgrifennwyd a chyhoeddwyd y datganiad hwn gan HSBC UK.

Mae Oneplanet Adventure, canolfan ymwelwyr coedwig yng Ngogledd Cymru, wedi defnyddio pecyn cyllid chwe ffigur gan HSBC UK i brynu'r safle y mae wedi'i brydlesu am y 13eg mlynedd diwethaf.

Mae’r cydberchnogion Jim Gaffney ac Ian Owen wedi defnyddio cyllid HSBC UK, ynghyd â benthyciad gan Banc Datblygu Cymru, i gaffael y ganolfan ymwelwyr a'r meysydd parcio a oedd yn eiddo i Gomisiynwyr Eglwysi Lloegr yn flaenorol. Bydd y caffaeliad yn galluogi'r busnes i ehangu wrth iddynt geisio ateb y galw cynyddol.

Mae Oneplanet Adventure, sydd reit yng nghanol Coedwig 650 hectar Llandegla, yn croesawu 150,000 o ymwelwyr bob blwyddyn i ddefnyddio ei 91km o draciau beicio mynydd, llwybrau cerdded a rhedeg. Dechreuodd Jim ac Ian Oneplanet Adventure yn 2006 i droi eu brwdfrydedd dros feicio mynydd yn fusnes masnachol, gan gynnig gwasanaeth rhentu beiciau, gweithdai a hyfforddiant ar y safle.

Meddai Jim Gaffney, cyd-berchennog Oneplanet Adventure:

“Trwy gaffael yr eiddo rydym wedi'i brydlesu am y 13 mlynedd diwethaf, rydym wedi sicrhau dyfodol y busnes ac mae gennym lawer mwy o reolaeth dros ein cynlluniau ehangu yn y dyfodol. Rydym yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth a gawsom gan ein Rheolwr Cydberthnasau gyda HSBC yn y DU, Denise Gallagher a Chris Hayward a fu'n arwain y cytundeb ar gyfer Banc Datblygu Cymru, sydd ill dau wedi deall ein busnes ac wedi cynnig cymorth wedi'i deilwra.”

Meddai Martin Lyons, Cyfarwyddwr Ardal Bancio Busnes ar gyfer Gogledd Cymru,  HSBC UK:

“Mae Jim ac Ian yn angerddol iawn ynghylch beicio mynydd ac mae wedi bod yn bleser eu cefnogi i sicrhau dyfodol y busnes gyda'r caffaeliad diweddaraf hwn. Mae HSBC UK wedi ymrwymo i gefnogi busnesau bach a chanolig i gyflawni eu huchelgeisiau busnes a dymunwn bob lwc i Oneplanet Adventure wrth i'r tîm ddatblygu ei gynlluniau ar gyfer y flwyddyn nesaf.”

Meddai Chris Hayward, Swyddog Buddsoddi, Banc Datblygu Cymru:

“Mae Oneplanet Adventure yn fusnes sefydledig sydd ag enw da yn y diwydiant. Mae wedi helpu i roi Gogledd Cymru ar y map fel prifddinas awyr agored ac antur y DU ac mae galw mawr amdano. Bydd prynu'r eiddo yn caniatáu i Oneplanet fuddsoddi mewn llwybrau newydd a denu hyd yn oed mwy o ymwelwyr i'r ganolfan a'r rhanbarth. Roeddem yn falch o weithio'n agos gyda HSBC i gyd-ariannu'r cytundeb, gyda'r Rhaglen Twf Cyflym (RhTC) ac Hillyer McKeown.”