Parc gwyliau i bobl anabl yn agor yn Abermaw

Chris-Hayward
Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
barmouth beach club

Mae canolfan newydd sy'n darparu llety gwyliau i bobl anabl a'u gofalwyr wedi agor yn Abermaw, diolch i fuddsoddiad o £225,000 gan Fanc Datblygu Cymru.

Syniad cyn-berchennog clwb nos Anthony Olley a’i ferch Kayleigh yw’r ‘Barmouth Beach Club,’ sydd â gradd mewn iechyd a gofal cymdeithasol a sawl blwyddyn o brofiad yn y sector gofal.

Yn 2011 fe wnaethant brynu adeilad diffaith yn Abermaw ac yn wreiddiol roeddynt yn bwriadu ei drawsnewid yn llety gwyliau i bobl anabl a difreintiedig. Ond yn ystod y prosiect fe wnaethant ddarganfod ei fod wedi dirywio gormod i fod yn addas i gael ei drawsnewid a bu'n rhaid ei ddymchwel. Cawsant ganiatâd cynllunio newydd a chodwyd yr adeilad newydd sydd eisoes wedi croesawu gwesteion cyntaf y clwb traeth.

Oherwydd y manylebau uchel sydd eu hangen ar gyfer llety ac offer i'r anabl, mae adeiladu a ffitio gosodiadau’r ganolfan wedi bod yn ddrud. Mae Anthony Olley a’i gydweithwyr wedi buddsoddi £310,000 o’u harian eu hunain yn y prosiect, gyda chefnogaeth o £225,000 ychwanegol gan y Banc Datblygu, yn ogystal â £60,000 o Gynllun Cymorth Buddsoddi Twristiaeth Llywodraeth Cymru.

Mae'r cynllun yn helpu'r sector preifat a chyhoeddus i weithio gyda'i gilydd i ddatblygu a darparu mentrau cyrchfan arloesol sy'n cyd-fynd â Blwyddyn Darganfod Ymweld â Chymru ar gyfer 2019. Ar gyfer y flwyddyn thematig gyfredol, mae'r pwyslais ar y profiadau y gall pobl eu cael yng Nghymru a gwahodd ymwelwyr i archwilio a darganfod beth sy'n gwneud Cymru yn unigryw.

Wrth siarad am y cyfle newydd y mae’r ganolfan yn ei gyflwyno i’r ardal, dywedodd Anthony Olley: “Ni fyddai mwyafrif ein cwsmeriaid fel arfer wedi gallu aros yn Abermaw, felly bydd y bobl y byddwn ni yn eu denu yn gwsmeriaid ffres i fusnesau lleol eraill hefyd.

“Er mwyn sicrhau eu bod nhw'n cael y profiad gorau o’r ardal, rydw i wedi bod mewn cysylltiad â busnesau lleol, gan gynnwys atyniadau hamdden, i sicrhau eu bod yn barod ar gyfer ymweliadau gan ein gwesteion.”

Yn ystod eu harhosiad yn y Barmouth Beach Club, bydd gwesteion yn gallu ymweld ag atyniadau lleol ac o bosibl gymryd rhan mewn gweithgareddau, gan gynnwys caiacio, dringo mynyddoedd, rhaffau uchel a gweithgareddau eraill.

Mae gan y ganolfan lety ar gyfer 18 o bobl, gan gynnwys ystafell deulu fawr gydag ystafell ymolchi anabl sydd wedi ei gosod â’r cyfarpar llawn pwrpasol a swît sy'n cynnwys ystafell wely ddwbl, ystafell ymolchi anabl fawr, ystafell fyw a gardd breifat.

Ac yn ogystal â darparu seibiant ac atgofion gwych, maen nhw hefyd yn gobeithio gallu darparu cymorth mwy parhaol ac ymarferol.

“Nid cyrchfan wyliau yn unig ydyn ni, rydyn ni'n rhan o system cyfaill, felly unwaith mae pobl yn dod yma, rydyn ni am i bobl gymryd rhan fel rhan o'n rhwydwaith, ac efallai y gallwn ni gael pobl yn ôl i gyflogaeth,” meddai Mr Olley.

Meddai Chris Hayward, Swyddog Buddsoddi, Banc Datblygu Cymru: "Mae’r hyn mae Anthony a'r tîm wedi ei greu yma yn y Barmouth Beach Club, yn lle diogel a hygyrch i bobl anabl a phobl o gefndiroedd difreintiedig, eu teuluoedd a'u gofalwyr i fwynhau ychydig o amser o ansawdd gyda'n gilydd. Mae'r Banc Datblygu yn falch o fod yn cefnogi menter o'r fath a fydd yn cael effaith enfawr ar fywydau'r cwsmer, yn ogystal â darparu mewnlifiad o gwsmeriaid newydd i'r gornel hon o Gymru. Rydym yn dymuno'r gorau i Anthony gyda'r clwb traeth ac yn edrych ymlaen at weld sut mae'r ganolfan yn datblygu dros amser.”

Dywedodd Alan Woodbridge, o Busnes Cymru: “Rwy’n falch iawn fy mod wedi gallu darparu cefnogaeth i fusnes Anthony Olley yn y clwb traeth oherwydd y fo sydd wedi datblygu’r cyfleuster hwn. Roedd Anthony yn meddu ar gymaint o angerdd i ddod â’i weledigaeth i fodolaeth, ac mae hyn wedi golygu ei fod wedi glynu gyda’r prosiect hwn.”

“Canlyniad holl ymdrechion Anthony yw llety gwyliau trawiadol, hygyrch ar arfordir hyfryd Bae Aberteifi, mae o wedi ei osod yn ôl ychydig o ben gogleddol prom Abermaw.”

Daeth cyllid gan Fanc Datblygu Cymru o Gronfa Twf Cyfalaf Cymru.