Pedwar angel arweiniol yn paratoi i fuddsoddi yng Nghymru

Steve-Holt
Cyfarwyddwr Angylion Buddsoddi Cymru
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
angels invest wales

Mae pedwar o brif entrepreneuriaid Cymru wedi cael eu henwi fel y pedwar buddsoddwr arweiniol cyntaf ar gyfer Cronfa Gyd-fuddsoddi Angylion Cymru o £8 miliwn.

Gan ddefnyddio eu gwybodaeth, rhwydweithiau a'u harbenigedd, bydd y prif fuddsoddwyr yn ffurfio syndicadau i gefnogi busnesau sy'n dechrau a busnesau twf mewn sectorau pwysig iawn yng Nghymru. Yn wahanol i gronfeydd eraill y banc datblygu, mae Cronfa Gyd-fuddsoddi Angylion Cymru yn cael ei ‘harwain gan y buddsoddwr’ gyda'r banc yn darparu arian cyfatebol hyd at uchafswm o £250,000 fesul prosiect

Mae cyn brif weithredwr Clwb Peldroed Lerpwl a phennaeth Uwch Gynghrair yr FA, Rick Parry wedi bod yn gynghorydd strategol yn y busnes pêl-droed (yn y Dwyrain Canol) a bu'n gweithio ar gais gemau Olympaidd y DU (cyfeiriwch at ei Fywgraffiad helaeth). Mae wedi cadeirio nifer o ymholiadau cyhoeddus ac mae bellach yn fuddsoddwr gweithredol mewn amryw o fusnesau yng Nghaer a Gogledd Orllewin Lloegr a chysylltiadau Bwrdd yn Deepbridge Capital.

Dechreuodd Doctor John Moon ei yrfa i ddechrau fel metelegwr gyda Corus cyn datblygu amrywiol fuddiannau busnes. Mae'n fwyaf adnabyddus fel sylfaenydd ac yn y pen draw, fel Cadeirydd Strategem, ymgynghoriaeth rheoli trosiant llwyddiannus iawn sy'n werth £14m a gafodd ei werthu i Gwmni Cyhoeddus Cyfyngedig mawr yn 2006. Ers i Strategem gael ei werthu, mae o wedi datblygu nifer o fuddsoddiadau busnes a phortffolio eiddo yng Ngogledd Orllewin Lloegr

Andrew Diplock yw un o'r buddsoddwyr mwyaf gweithredol ar hyn o bryd sydd 'wedi'i gymeradwyo' gydag Angylion Buddsoddi Cymru. Yn dilyn gyrfa lwyddiannus yn y sector cyfleustodau, fe ffurfiodd Andrew, ac ef oedd Rheolwr Gyfarwyddwr UES Energy sy'n seiliedig yng Nghaerffili hyd nes iddo gael ei werthu ddiwedd 2015. Bellach mae ganddo bortffolio cynyddol o'i fuddsoddiadau preifat ei hun.

Mae Mr Diplock yn eiriolwr brwd dros ddatblygu busnesau newydd a busnesau bach a chanolig yng Nghymru ac mae'n bencampwr datblygu ac adfywio economaidd yng Nghymoedd y De - mae'n aelod craidd o Dasglu'r Cymoedd Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru sy'n hyrwyddo adfywiad economaidd ac mae'n Llywodraethwr ar Goleg y Cymoedd.

Mae Ashley Cooper wedi bod yn un o'r buddsoddwyr technegol mwyaf amlwg yn Ne Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ac yntau wedi sefydlu, adeiladu a chyflwyno TES Aviation Group, yn ddiweddar mae o wedi cefnogi, gydag arian parod ac arbenigedd allweddol, portffolio amrywiol o gwmnïau sy'n galluogi technoleg, gan gynnwys Amplify, Simply Do Ideas, a Careercake.

Mae Mr Cooper yn gefnogwr brwd dros ddatblygu economaidd yng Nghymru ac mae'n cynnal swyddogaethau fel cadeirydd Bwrdd Ymgynghorol Rhaglen Twf Cyflymu Busnes Cymru ac fel Cyfarwyddwr Ysgrifennydd y Cabinet fe gefnogodd y fenter CreuSbarc.cymru, sy'n ceisio cysylltu rhanddeiliaid craidd yr ecosystem o'r Llywodraeth, Academia, Busnes, Cyfalaf Risg ac Entrepreneuriaid trwy gyfrwng dull mwy gweladwy a syml.

Mae Nelson Gray wedi bod yn fuddsoddwr Angel Busnes ers dros 20 mlynedd ac wedi derbyn Gwobr 'The Queen's Award for Enterprise Promotion' yn 2015. Meddai: "Er bod angylion unigol yn hynod o bwysig, dim ond hyn a hyn y gall un person ei wneud ar ei ben ei hun. Ychydig o fuddsoddwyr angel sydd â'r amser neu'r adnoddau ariannol i ddarganfod a chyllido portffolio o 10 cwmni neu fwy eu hunain. "Mae syndiceiddio yn fodel profedig ar gyfer buddsoddiadau angel oherwydd mae’n galluogi buddsoddwyr unigol i gyd-rannu llif y cytundeb a'r gwaith diwydrwydd dyladwy, a chronni eu harian a'u harbenigedd gyda'i gilydd er mwyn gwneud buddsoddiadau mwy. Gydag ymagwedd o weithredu fel tîm, gall buddsoddwyr gymhwyso eu sgiliau a'u profiad gwahanol pan fo angen i ddarparu buddsoddiad cyfalaf ehangach dros oes unrhyw fuddsoddiad penodol. Mae hyn wedyn yn creu cyfle llawer gwell o gael ymadawiad llwyddiannus."

Meddai Steve Holt, Cyfarwyddwr Angylion Buddsoddi Cymru: "Yn draddodiadol, mae buddsoddiad angel yn cael ei wneud gan fuddsoddwyr gwerth net uchel mewn meysydd sydd o ddiddordeb i'w profiad busnes personol. Fodd bynnag, yn fwy diweddar, mae'r sector wedi gweld twf mewn syndicyddion angel - sef nifer o angylion busnes yn dod at ei gilydd ar ffurf consortiwm buddsoddi strategol er mwyn creu crynswth o arian cyllido sy'n fwy na'r hyn y gallai neu y byddai'r angylion busnes unigol yn barod i'w fuddsoddi. Mae grwpiau syndiciad yn galluogi portffolio sy'n fwy amrywiol ar gyfer angylion ac mae hynny'n caniatáu i'r buddsoddiad gael ei ymledu a thrwy hynny, leihau'r perygl o risg.

"Mae penodi ein pedwar buddsoddwr arweiniol cyntaf ar gyfer Cronfa Cyd-fuddsoddi Angylion Cymru yn gyfle gwych i helpu twf marchnad yr angylion yng Nghymru trwy fuddsoddi symudol iawn. Yn awr fe fyddwn ni'n gweithio'n agos gyda'r buddsoddwyr i gyflwyno cyfleoedd buddsoddi ychwanegol yng Nghymru trwy eu syndicadau dewisol ar draws ystod o sectorau blaenoriaeth."

Mae Angylion Buddsoddi Cymru hefyd wedi cofrestru 46 o fuddsoddwyr angel ar eu rhwydwaith y flwyddyn ariannol hon. Mae'r rhwydwaith cofrestredig presennol bellach yn cynnwys 152 o fuddsoddwyr angel. Mae hyn yn rhoi llwyfan gwych i ni adeiladu gweithgaredd buddsoddi angylion trwy gyfrwng syndiciadau buddsoddi ar hyd a lled Cymru.