Perchnogion newydd i fwyty Eidalaidd Conwy diolch i gefnogaeth gan Fanc Datblygu Cymru

Will-Jones
Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Prynu busnes
Twf
Marchnata
Alfredo's

Mae bwyty Eidalaidd annwyl yng nghanol Conwy yn cael bywyd newydd gyda pherchnogion newydd yn cymryd yr adeilad gyda chefnogaeth gan Fanc Datblygu Cymru.

Prynwyd Alfredo's, ar Sgwâr Lancaster, Conwy, oddi wrth y perchnogion sy'n ymddeol Pete a Christine Scaletta – a ddechreuodd redeg y busnes o’r dechrau ac sydd wedi bod yn berchen ar y bwyty adnabyddus ers dros 30 mlynedd – gan Richard Reynolds, gyda chefnogaeth benthyciad chwe ffigur.

Mae'r bwyty Eidalaidd wedi'i leoli mewn adeilad mawr o'r 13eg ganrif sy'n dyddio'n ôl i sefydlu'r dref ganoloesol, ac mae'n gadarnle poblogaidd ymhlith bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd.

Mae perchennog newydd Richard hefyd yn berchen ar fwytai adnabyddus eraill yng Ngogledd Cymru gan gynnwys Bwydydd Cymreig Bodnant Welsh Foods, Eglwysbach a physgod a sglodion Tribells yn Llandudno.

Dywedodd Richard: “Mae Alfredo’s wedi bod yn gyrchfan adnabyddus ac uchel ei pharch i ymwelwyr â Chonwy ers degawdau, a hoffwn ddiolch i Pete a Christine nid yn unig am eu holl waith yn adeiladu enw da Alfredo dros y 30 mlynedd diwethaf, ond hefyd am eu cefnogaeth a’u cyngor yn ystod y cyfnod pontio hwn.

“Mae ymgymryd â chwmni Alfredo’s wedi bod yn esmwyth diolch i’w help nhw, sy’n golygu ein bod ni wedi gallu bwrw ati ar unwaith wrth i ni edrych ar dymor prysur yr haf.”

Ychwanegodd: “Hoffwn hefyd ddiolch i Fanc Datblygu Cymru am eu cymorth i brynu’r bwyty. Nid dyma’r tro cyntaf i mi brynu bwyty poblogaidd, ond mae eu cymorth wedi bod yn amhrisiadwy a byddwn yn eu hargymell i unrhyw fusnesau sydd am ehangu neu agor safle newydd.”

Dywedodd Will Jones, swyddog buddsoddi gyda Banc Datblygu Cymru: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi bod yn rhan o roi bywyd newydd i Alfredo's, sydd wedi bod yn hynod boblogaidd ar draws Gogledd Cymru ers degawdau.

“Mae wedi chwarae rhan bwysig iawn yn yr economi lletygarwch ac ymwelwyr yng Nghonwy, ac rydym yn falch iawn ein bod wedi gallu helpu i gadw’r busnes mewn perchnogaeth leol. Bydd mewn dwylo rhagorol gyda Richard, ac edrychwn ymlaen at glywed am ei lwyddiant wrth iddo fynd o nerth i nerth.”

Mae Cronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru yn agored i fargeinion rhwng £25,000 a £10 miliwn, gyda benthyciadau, cyllid mesanîn a buddsoddiadau ecwiti ar gael, gyda hyblygrwydd am hyd at 15 mlynedd.