Prynu cyfarpar newydd ar gyfer eich busnes

Newidwyd:

P'un a ydych chi'n dechrau'ch busnes neu'n ehangu cwmni sefydledig, mae'n bwysig iawn cael yr offer iawn. Gall leihau eich costau, cynyddu'ch gallu, a gwneud eich busnes yn fwy effeithlon.

Efallai bod yna nifer o wahanol resymau pam y buasech angen prynu cyfarpar newydd.

Dyma rai enghreifftiau:

Offer Swyddfa

Beth ydych chi ei angen? Os ydych chi'n dechrau o'r dechrau bydd angen yr holl bethau sylfaenol arnoch chi: Cadeiriau, desgiau, cyfrifiaduron, llungopiwyr a ffonau. Os ydych chi'n uwchraddio'ch swyddfa bresennol efallai y bydd angen i chi fuddsoddi mewn technoleg fwy diweddar. Gwnewch restr o'r hyn 'rydych ei angen mewn gwirionedd a chyfrifo faint mae hynny'n ei gostio.

Yn unigol, gall y costau o brynu offer swyddfa fel cyfrifiaduron, desgiau, ffonau ac argraffwyr fod yn gyraeddadwy. Ond os yw'ch costau'n cynyddu rhwng bob dim, efallai y bydd angen i chi edrych ar ffynonellau allanol er mwyn rhoi hwb i'ch cyllideb. Mae offer swyddfa da, a fydd yn para cryn dipyn o flynyddoedd, yn bwysig iawn.

Offer arbenigol

Efallai y byddwch chi angen offer arbenigol i ddechrau eich cwmni, boed hynny'n rhewgell fawr bwrpasol i werthu hufen iâ neu'n lensys camera uwch-dechnoleg i dynnu lluniau. Mae hi wastad yn werth edrych o gwmpas am offer arbenigol ail law. Ond gall hyd yn oed hynny fod yn ddrud ac mae angen ystyried hyn yn fuan fel rhan o'ch costau dechreuol.

Lleihau faint o waith rydych yn ei osod yn allanol neu ddatblygu ffrydiau incwm newydd

Ar gyfer busnes mwy sefydledig, gall buddsoddi mewn offer newydd helpu i leihau eich gorbenion. Er enghraifft, yn aml fe all contractau allanol daro faint elw a golygu bod eich busnes yn agored i gostau cynyddol cyflenwyr. Drwy ddatblygu eich galluoedd eich hun yn fewnol, bydd gennych fwy o reolaeth dros eich costau a gallech hyd yn oed ddatblygu ffrydiau incwm newydd fel cyflenwr i fusnesau eraill.

Angen rhywfaint o gyfarpar newydd?

Beth bynnag fo'r offer y mae angen i chi ei brynu, gall benthyciad gan y Banc Datblygu Cymru ddarparu ffynhonnell ariannol ddefnyddiol i sicrhau bod gan eich busnes yr holl offer angenrheidiol i  lwyddo.

Os yw'ch busnes yn chwilio am arian i fuddsoddi mewn offer newydd, cofiwch gysylltu â ni