£1 miliwn i Tahdah wrth i'r Banc Datblygu gwblhau cyd-fuddsoddiad cyntaf gydag Alliance Fund Managers

Colin-Batten
Swyddog Buddsoddi Cynorthwyol
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Neil Rylance yn eistedd wrth fwrdd gyda'i ddwylo gyda'i gilydd, gan wenu.

Mae arbenigwyr technoleg Tahdah Verified Limited wedi sicrhau buddsoddiad ecwiti o £1 miliwn ar gyfer eu platfform meddalwedd aml-denant gyda £750,000 yn dod gan AFM fel buddsoddwr arweiniol a £250,000 gan Fanc Datblygu Cymru.

Dyma gyd-fuddsoddiad cyntaf Banc Datblygu Cymru gydag arbenigwyr rheoli cronfa yn Lerpwl, Alliance Fund Managers [AFM] fel rhan o Gronfa Fenthyciad ac Ecwiti Glannau Mersi (a adwaenir yn gryno fel MSIF).

Wedi'i leoli yn Llandudno, sefydlwyd Tahdah gan y Prif Weithredwr Neil Rylance yn 2016. Gan ddarparu buddion a swyddogaethau unigryw i wahanol ddefnyddwyr, mae Tahdah yn system aml-denant sy'n seiliedig ar gymylau ar gyfer cyrff dyfarnu, darparwyr hyfforddiant, cymdeithasau aelodaeth a chlybiau, cyflogwyr ac ymgeiswyr. Mae'r system yn darparu mewnwelediad a data amser real i gleientiaid menter Tahdah, tra hefyd yn gweithredu fel cofnod gydol oes wedi'i ddilysu'n llawn o lwyddiant ar gyfer defnyddwyr terfynol. Ymhlith y defnyddwyr cyfredol mae Mountain Training, y Sefydliad Siartredig Rheolaeth ar gyfer Chwaraeon a Gweithgaredd Corfforol (adwaenir yn gryno fel CIMSPA) a Chymdeithas Achub Bywyd Frenhinol y DU.

Bydd y buddsoddiad ecwiti gwerth £1 miliwn nawr yn cael ei ddefnyddio i dyfu’r busnes gyda datblygiad pellach ymarferoldeb y platfform a chreu swyddi newydd yn Llandudno yn ogystal â swyddfa newydd yn Lerpwl.

Dywedodd y Prif Weithredwr Neil Rylance: “Rydyn ni wedi gweithio’n galed dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf i ddatblygu Tahdah fel system reoli ddiogel ar-lein llawn nodweddion y gellir ei theilwra i ddiwallu anghenion pwrpasol ein sylfaen cwsmeriaid.

“Gyda sylfaen gadarn, rydyn ni nawr yn barod i fanteisio ar y sector hwn sy’n tyfu’n gyflym ac rwy’n arbennig o falch o fod yn gwneud hyn gyda chefnogaeth MSIF a’r Banc Datblygu fel cyd-fuddsoddwyr. Gogledd Cymru yw fy nghartref ac rwy'n falch o ddweud mai Llandudno yw man geni Tahdah ac o Lerpwl mae fy rhieni yn dod yn wreiddiol. Mae hefyd yn gartref I fy nhîm i, Clwb Pêl-droed Everton.”

Dywedodd Marc Abbadie, Pennaeth Ecwiti Alliance Fund Managers: “Rydym yn falch iawn o fod yn cefnogi Neil a’r tîm gydag ehangiad Tahdah i Lerpwl. Gwnaeth y trosoledd sydd gan Tahdah gyda'i gleientiaid presennol yn ogystal â'i botensial i gynyddu graddfa gryn argraff arnom, ac rydym yn teimlo’n gyffrous ynghylch ei ddyfodol. Rydym hefyd yn falch iawn o fod yn cyd-fuddsoddi gyda Banc Datblygu Cymru, sy'n fuddsoddwyr blaengar ac ymarferol sy'n deall heriau rhedeg busnes technoleg.

Dywedodd Colin Batten, Swyddog Buddsoddi gyda Banc Datblygu Cymru: “Gyda’r gefnogaeth gywir a’r buddsoddiad ecwiti gan y Banc Datblygu ac MSIF fel buddsoddwyr, bydd Tahdah mewn sefyllfa gryfach o lawer i ddatblygu a thyfu. Mae gan MSIF enw da fel darparwr cyllid cefnogol felly rydym yn falch iawn o fod yn cyd-fuddsoddi gyda nhw am y tro cyntaf ac yn gweithio gyda'n gilydd i helpu i sbarduno twf a llwyddiant Tahdah yn y dyfodol fel menter dechnoleg arloesol o'u canolfan yn Llandudno.”

Be' nesaf?

Gwnewch ymholiad cychwynnol drwy ein ffurflen cysylltu â ni a gallwn ddechrau trafod eich opsiynau.

Cysylltu â ni