£10 miliwn yn hybu buddsoddiad mewn prosiectau ynni lleol

Nicola-Griffiths
Uwch Swyddog Portffolio
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
velodrome

Mae ffigurau a gyhoeddwyd gan Fanc Datblygu Cymru yn dangos bod £10 miliwn wedi’i fuddsoddi mewn prosiectau ynni lleol yng Nghymru.

Lansiwyd y Gronfa Ynni Lleol bytholwyrdd gwerth £12.5 miliwn yn 2016 gan Lywodraeth Cymru ac fe’i  rheolir gan Fanc Datblygu Cymru gyda’r holl arian yn cael ei ailgylchu i brosiectau newydd ar ôl i’r arian gael ei ad-dalu. 

Gan weithio mewn partneriaeth â Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru, mae Banc Datblygu Cymru bellach wedi dyfarnu cyllid i ddeg prosiect. Mae cynlluniau technoleg ynni gwynt, solar, hydro a storio batris i gyd wedi elwa o gyllid gan greu oddeutu £23.5 miliwn mewn budd cymunedol ers i’r gronfa fenthyca gychwyn.

Meddai Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: “Rwy’n falch iawn o weld sut mae ein cefnogaeth hirdymor i’r sector ynni cymunedol wedi helpu i ddatblygu mentrau lleol llwyddiannus, sy’n darparu prosiectau ledled Cymru ar raddfa drawiadol.”

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates: “Mae’n wych gweld y rhan bwysig y mae Banc Datblygu Cymru yn ei chwarae o ran cefnogi prosiectau carbon isel ac ynni adnewyddadwy a fydd yn hollbwysig o ran helpu i gyrraedd targedau Llywodraeth Cymru.

“Gall buddsoddi yn y cynlluniau hyn hefyd wneud gwahaniaeth gwirioneddol o ran ein cefnogi i greu economi gref, werdd a chynaliadwy, a fydd o fudd i’n cymunedau yn y pen draw.”

Mae prosiectau diweddar yn cynnwys benthyciad o £2.12 miliwn o’r Gronfa Ynni Lleol i Egni Co-op. Mae’r arian wrthi’n cael ei ddefnyddio i ariannu prosiect gosod paneli solar ar doeon, sef y prosiect mwyaf erioed o’i fath yn hanes Cymru.

Sefydlwyd Egni yn 2014 gan Awel Aman Tawe (AAT), elusen ynni cymunedol sydd wedi bod yn gweithredu ers 21 o flynyddoedd, ac yn 2019 enillodd y statws Prosiect Ynni Adnewyddadwy Eithriadol a chafodd Awel Aman Tawe ei gydnabod yn Sefydliad Amgylcheddol y Flwyddyn yng Ngwobrau Mentrau Cymdeithasol y DU.

Mae Egni eisoes wedi cwblhau’r prosiect gosod paneli solar ar doeon mwyaf yng Nghymru ar Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas yng Nghasnewydd ble y gosodwyd dros 2000 o baneli. Mae’r fenter gymdeithasol eisoes wedi codi £2 filiwn drwy gyfranddaliadau cymunedol. Mae Awel, sef chwaer gwmni cydweithredol Egni, yn berchen ar fferm wynt 4.7MW ger Pontardawe, prosiect a gafodd gymorth ar ffurf benthyciad gan Lywodraeth Cymru. Mae Egni’n defnyddio’r cyllid diweddaraf gan Fanc Datblygu Cymru i osod paneli solar ar 128 o adeiladau yn cynnwys adeiladau cymunedol, busnesau ac ysgolion ledled De Cymru – mae bron i 4MWp eisoes wedi’i osod, sy’n golygu mai dyma un o’r mentrau cydweithredol gosod paneli solar ar doeon mwyaf yn y DU.

Dywedodd Dan McCallum, Cyfarwyddwr Egni a Rheolwr Awel Aman Tawe: “Ein prif ysgogwyr yw mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, creu swyddi, cadw cyfoeth yn economi Cymru ac ennyn diddordeb pobl mewn ynni.

“Rydym yn cynnig gostyngiad o 20% i safleoedd ar gost trydan ac mae nifer o’n safleoedd cymunedol llai yn elwa o drydan am ddim o ganlyniad i gynhyrchu ynni solar. Yn wir, rydym wedi arbed dros £88,000 y flwyddyn i ddefnyddwyr mewn costau trydan ac wedi sicrhau gostyngiad o 1,000 o dunelli y flwyddyn mewn allyriadau carbon hyd yma.

“Bydd y cyllid gan Fanc Datblygu Cymru yn ein galluogi i gyflymu ein rhaglen osod ledled De Cymru; gan fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a lleihau allyriadau carbon yn ein cymunedau lleol.”

Dywedodd Nicola Griffiths sy’n arwain y Gronfa Ynni Lleol ar gyfer Banc Datblygu Cymru: “Mae ein cefnogaeth i Egni fel menter gymdeithasol yn enghraifft nodedig o’r modd y gall ein cyllid helpu i gynyddu’r ynni adnewyddadwy a gynhyrchir yng Nghymru.

“Fel cronfa bwrpasol, mae’r Gronfa Ynni Lleol yn cynnig cyllid datblygu a chyfalaf hygyrch ar gyfer prosiectau ynni carbon isel ac adnewyddadwy a arweinir gan y gymuned sy’n gallu darparu manteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol i ardaloedd lleol ledled Cymru.  Rydym yn gweithio’n agos â Gwasaneth Ynni Llywodraeth Cymru, gan helpu i gefnogi targed ynni adnewyddadwy Llywodraeth Cymru sef un gigawatt o gynhyrchiant mewn dwylo lleol erbyn 2030.  Rydym hefyd yn hwyluso gostyngiad mewn allyriadau carbon sydd mor bwysig wrth i ni oll edrych am gyfleoedd i fynd i’r afael ag argyfwng yr hinsawdd ac ailgodi’n gryfach ar ôl Covid-19.”

Dywedodd Jim Cardy, Uwch Reolwr Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru, “Mae’n wych gweld yr effaith uniongyrchol y mae’r buddsoddiadau hyn yn ei chael ar brosiectau ynni cymunedol ledled Cymru. Byddwn yn parhau i gefnogi grwpiau ynni cymunedol i helpu Llywodraeth Cymru gyrraedd ei tharged o sicrhau bod 1GW o ynni adnewyddadwy mewn dwylo lleol erbyn 2030.”