£15 miliwn ac yn cynyddu wrth i Fanc Datblygu Cymru gadarnhau ei ymrwymiad i Ogledd Cymru

Rhodri-Evans
Dirprwy Reolwr Cronfa
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Ashbrooks

Mae busnes ar i fyny ar draws Gogledd Cymru, gyda’r ffigurau diweddaraf gan Fanc Datblygu Cymru yn dangos cynnydd mewn buddsoddiad ledled ein rhanbarth. Buddsoddwyd £15 miliwn mewn 65 o fusnesau yng Ngogledd Cymru yn 2017. Mae’r ffigwr dair gwaith y swm a fuddsoddwyd yn 2016. 

Mae’r rhai sy’n manteisio yn cynnwys y cwmni llogi peiriannau, offer mynediad ac amaethyddol, Ashbrook. Mae Ashbrook (Bangor) Limited yn un o 14 o fusnesau yng Ngwynedd i sicrhau dros £2.7 miliwn o fuddsoddiad gan y banc datblygu. Mae’r busnes teuluol wedi sicrhau benthyciad i brynu safle newydd sy’n cyffinio eu depo presennol ym Mangor. 

Meddai’r Cyfarwyddwr Masnachol Mike Ashbrook: “Rydym wedi ehangu, rydym wedi buddsoddi ac rydym yn recriwtio.” Mae’n neges optimistaidd gan fusnes blaenllaw yn yr ardal.

“Mae Gogledd Cymru yn lleoliad pwysig ac mae’r help gan yr awdurdodau yn wych. Mae’n lle braf i weithio ac rydym yn falch iawn o’r hyn rydym wedi ei gyflawni,” ychwanegodd. “Mae’r cyllid gan y banc datblygu wedi rhoi cyfle rhagorol i ni ac mae eu cefnogaeth wedi bod yn amhrisiadwy o ran helpu ein busnes i ffynnu. Mae eu benthyciad wedi ein galluogi i fuddsoddi mewn safle newydd tra’n cadw cyfalaf i ariannu twf i’r dyfodol.”.

Roedd £2.26 miliwn yn cefnogi cynlluniau twf chwe busnes yn Sir Ddinbych yn 2017, a gwelodd Ynys Môn fuddsoddiad o £485,000 mewn naw o fusnesau. Roedd hyn yn cynnwys micro-fenthyciad o £40,000 i weithiwr gofal plant proffesiynol Lindsay Boyle i brynu Meithrinfa Blodyn Tatws. Mae’r feithrinfa yn Llangefni yn gofalu am 37 o blant yn amrywio mewn oedran o dri mis i 12 mlwydd oed.

Meddai’r Cyfarwyddwr Lindsay Boyle: “Mae’r benthyciad wedi fy ngalluogi i brynu’r busnes a pharhau i gyflogi naw aelod staff. Mae’r arweiniad a’r cymorth gan y tîm yn y banc datblygu wedi bod yn hanfodol wrth i mi gymryd fy nghamau cyntaf ar y daith i fod yn berchennog busnes a chyflogwr.”

Sicrhaodd y cwmni iogwrt rhewedig Plas Farm fuddsoddiad o £250,000. Wedi ei leoli yng Nghaerwen, defnyddiwyd benthyciad Banc Datblygu Cymru i brynu cyfarpar a pheiriannau newydd ynghyd ag ariannu ymgyrch werthu a marchnata. Rhagwelir y bydd trosiant yn dyblu i fwy na £4 miliwn yn y pum mlynedd nesaf gyda iogwrt rhewedig organig ac an-organic yn cyfrif am fwy na 50% o’r gwerthiant.

Gall busnesau yn nhair ardal parth menter y rhanbarth yn Ynys Môn, Eryri a Glannau Dyfrdwy hefyd fanteisio ar amrywiol fentrau ariannol ychwanegol, gan gynnwys cyfraddau llog is ar fenthyciadau gan y banc datblygu newydd.

Cadarnhawyd hefyd y bydd pencadlys Banc Datblygu Cymru yn fuan wedi ei leoli yn hen swyddfeydd Moneypenny ar Barc Technoleg Wrecsam. Bydd yr aelodau staff cyntaf yn dechrau gweithio o’r pencadlys newydd yn ddiweddarach eleni.

Meddai Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates: “Rwy’n falch iawn bod busnesau ledled Gogledd Cymru yn ffynnu ac yn tyfu o ganlyniad i gymorth gan Fanc Datblygu Cymru. Mae ein Cynllun Gweithredu Economaidd newydd yn cynnwys ffocws gwirioneddol ar gryfhau economi ein rhanbarthau a sicrhau bod ffrwyth ein ffyniant yn cael ei ledaenu yn fwy cyfartal ar draws Cymru, ac mae buddsoddiad y banc datblygu mewn busnesau yng Ngogledd Cymru yn enghraifft wych o sut rydym yn gweithio i gyflawni hyn.

“Bydd pencadlys newydd y banc datblygu yn Wrecsam yn gwella’r cymorth sydd ar gael i fusnesau yn y rhanbarth ac rwy’n edrych ymlaen at ei weld yn agor yn ddiweddarach eleni.”

Mae’r banc datblygu yn gweithio’n agos gyda sefydliadau megis Busnes Cymru, ynghyd â benthycwyr a grwpiau cymorth eraill.

Mae Rhodri Evans yn Rheolwr Rhanbarthol ar gyfer Banc Datblygu Cymru. Meddai ef: “Mae ein tîm, wedi ei leoli ar draws rhanbarth Gogledd Cymru, wedi dyblu mewn maint dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae rhagor o recriwtio ar y gweill wrth i ni gynyddu ein gweithrediadau i sicrhau ein bod mewn sefyllfa dda i gefnogi busnesau o bob math a maint.

“Ein targed yw cael effaith o fwy nag £1 biliwn ar economi Cymru dros y pum mlynedd nesaf. Wedi fy ngeni a’m magu yng Ngogledd Cymru, rwy’n deall yn union sut bydd hyn o fudd i’n rhanbarth wrth i ni ymdrechu i ddelio â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu busnesau yn yr ardal.”

Ychwanegodd Rhodri: “Rydym yn gwrando ar anghenion y gymuned fusnes; yn cefnogi busnesau lleol gyda mynediad at gyllid sy’n syml a chyflym. Dywedir wrthym bod ein help yn gwneud gwahaniaeth mawr i dwf a chynaliadwyedd ac rydym yn arbennig o falch o’n proses trac cyflym arlein newydd. Cafodd ei gwella ym mis Ionawr 2017, a medrwn nawr gynnig proses gwneud cais syml 2 ddiwrnod ar gyfer micro-fenthyciadau o £1,000 - £10,000 i fusnesau sydd wedi masnachu am fwy na dwy flynedd. Mae’n golygu darparu cyfalaf sydd fawr ei angen pan fo’i angen fwyaf, gyda dull masnachol a meddwl agored sydd wedi ei deilwra i ddiwallu anghenion busnesau lleol.

“Rydym yn awyddus i glywed gan fusnesau ledled Gogledd Cymru felly cysylltwch â ni.”

Mae Banc Datblygu Cymru yn cynnig benthyciadau o £1,000 i £5 miliwn ynghyd â buddsoddiadau ecwiti hyd at £5 miliwn ar gyfer cwmnïau yng Nghymru neu fusnesau sydd eisiau symud yma. Mae hefyd yn rheoli’r cynllun Cymorth i Brynu Cymru, sy’n cynnig benthyciadau ecwiti i bobl sy’n prynu cartrefi newydd yng Nghymru.