£30,000 i gefnogi cariad am pizza

Donna-Strohmeyer
Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
ffwrnes

Mae Marchnad Dan Do Caerdydd yn awr yn gartref i Smokey Pete a Sam Van Tân wedi i Ffwrnes, sydd wedi ennill gwobrau, agor eu menter ddiweddaraf yn gynharach mis yma.

Ac yntau wedi cael ei sefydlu yn 2014, crëwyd Ffwrnes o ganlyniad i gariad at pizza Neapolitan,  a thrwy hynny cyfunwyd gwybodaeth Eidaleg draddodiadol am gynhyrchu pizza gyda'r cynnyrch gorau sydd gan Gymru i'w gynnig. Enillwyd pleidlais 'Pizza Gorau Cymru' yn 2017 ganddynt ac fe wnaethon’ nhw ymddangos yn y gyfres Bois Y Pizza S4C wrth gystadlu ym Mhencampwriaethau Pizza World yn Parma yn gynharach eleni. Dechreuodd y ddau gyfaill Ieuan a Jeremy eu taith 'pizza' gyda Smokey Pete, sef cerbyd fan 'Paiggio' tair olwyn gyda thân yn ei bol sy’n meddu ar y ddawn o wneud  pizza anhygoel. Ymunodd ei frawd mwy Sam Van Tân â gang Ffwrnes ychydig yn ddiweddarach.

Nawr, bydd micro-fenthyciad o £30,000 gan Fanc Datblygu Cymru yn ariannu agoriad eu safle parhaol mewn Marchnad Dan Do yng Nghaerdydd. Esboniodd Jeremy: "Mae ein hangerdd dros gynnyrch lleol gwych a blas traddodiadol yr Eidal yn golygu mai canlyniad hynny ydi pizza blasus tu hwnt ar gyfer pobl sy'n hoffi bwyd ar hyd a lled De Cymru. Mae Smokey Pete a Sam Van Tân yn denu dilynwyr o bob cwr a gyda chymorth y banc datblygu, erbyn hyn fe allwn gynnig blas anhygoel yr Eidal i bobl bendigedig Caerdydd yn y fan hyn yn y Farchnad Dan Do. Mae'n rysáit ar gyfer llwyddiant."

Meddai Donna Strohmeyer, swyddog portffolio micro fenthyciadau: "Mae Ffwrnes yn fwy na dim ond pizza, mae'n brofiad. O briodasau i wyliau, mae Ieuan a Jeremy wedi datblygu dilynwyr go iawn ac maen nhw wedi gweithio'n hynod o galed i berffeithio'r  pizza sydd ar gael ganddyn nhw.

"Mae pobl yn gwirioni gyda'u hangerdd a'u hymroddiad, yn enwedig eu cariad tuag at  pizza. Mae'n gyfuniad penigamp ac 'rydyn ni'n hapus i'w cefnogi."