Quantum Perfaith ar gyfer rhoswyr coffi

Donna-Strohmeyer
Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Dimitri Metsios, Katia Fotiadis, Donna Strohmeyer

Mae Katia Fotiadis a Dimitri Metsios sy'n caru coffi, wedi agor eu tŷ rhostio eu hunain ym Mae Caerdydd.

Mae Quantum Coffee Roasters yn cael ei redeg gan y pensaer Katia a'i phartner Dimitri a oedd yn mwynhau gyrfa yn rhostio ffa coffi yng Ngwlad Groeg yn flaenorol. 

Mae'r cwpl hefyd yn rhedeg siop goffi boblogaidd ar Stryd Bute.

Mae benthyciad micro trac cyflym o £10,000 gan y Banc Datblygu Cymru bellach wedi galluogi'r pâr i adleoli eu tŷ rhostio o Lundain i Gaerdydd.

Esboniodd Katia: "Rydym yn frwd dros y broses gyfan a'r daith y mae'r ffa coffi yn ei gymryd. Os ydych chi'n dewis y ffa coffi gorau, mae'n hanfodol bod y broses rostio yn parchu gwaith caled y ffermwyr - rydych chi am i gynhyrfau pob ffeuan ddisgleirio. Fe all rhostio ddinistrio'r blasau hynny cyn iddi hyd yn oed fod yn agos at y broses fragu. Dyma lle rydym yn dod â chrefftau a gwyddoniaeth at ei gilydd.

"Ond fel y rhan fwyaf o fusnesau newydd, rydym wedi cael trafferth gyda llif arian. Gall hynny a cheisio cadw'r lefelau egni a'r angerdd sy'n digwydd wrth redeg busnes ddioddef yn y pendraw. Roeddem yn gwybod ein bod ni eisiau cael ein tŷ rhostio ymroddedig ein hunain yng Nghaerdydd ond doedd gennym ni mo'r arian i wneud i hynny ddigwydd.

"Dywedodd ein cynghorydd yn Busnes Cymru wrthym am y broses trac cyflym sydd ar gael gan y banc datblygu. Mae eu cefnogaeth wedi gwneud gwahaniaeth enfawr ac wedi ein galluogi i symud ymlaen yn gyflym ac yn hawdd gyda cham nesaf yn nhwf ein busnes. Mae tyfu yn organig yn wych ond weithiau mae angen chwistrelliad o gyllid ac egni i gyrraedd y cam nesaf. Yr ydym yn brawf fod cynllun busnes cadarn, agwedd benderfynol, gwaith caled, angerdd ac amynedd yn talu ar ei ganfed yn y pen draw ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni wir yn credu ynddo ond fyddai hyn ddim wedi digwydd heb gymorth y banc datblygu."

Mae Donna Strohmeyer yn swyddog portffolio yn y tîm micro-fenthyciadau yn y banc datblygu. Meddai: "Mae Katia a Dimitri yn gwbl angerddol am eu coffi ac roeddem wrth ein bodd ein bod yn gallu eu helpu gyda benthyciad bach i'w galluogi i adleoli eu tŷ rhostio o Lundain i Gaerdydd. Ar ôl masnachu dros ddwy flynedd, roedd y pâr yn addas iawn ar gyfer ein proses ymgeisio a chawsant benderfyniad o fewn dim ond dau ddiwrnod."

Mae Banc Datblygu Cymru yn cynnig cyllid o £1,000 i £5 miliwn i fusnesau yng Nghymru. Mae benthyciadau trac cyflym hyd at £10,000 ar gael i fusnesau sydd wedi bod yn masnachu am ddwy flynedd ac fe geir penderfyniad ar y cais o fewn dau ddiwrnod. Mae'r buddsoddiad yn Quantum Coffee Roasters yn un o 120 o fenthyciadau trac cyflym dros y ddwy flynedd ddiwethaf gyda 64 o'r rhain yn cael eu gwneud yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf gan y Banc Datblygu Cymru.