Mae micro-fenthyciad gwerth £12,000 gan Fanc Datblygu Cymru yn helpu i lansio academi hyfforddi newydd a gynlluniwyd i gau bylchau critigol ym maes darparu wigiau a gwasanaethau amnewid gwallt ledled Cymru.
Scarlett Jack Hairitage – The Academy, a sefydlwyd gan Anastasia Cameron, yn darparu hyfforddiant gyda sicrwydd City & Guilds gyda'r nod o godi safonau a phractis proffesiynol yn y sector, adeiladu gweithlu medrus a gwella'r gofal a gynigir i bobl sy'n cael y profiad o golli gwallt yn gysylltiedig â chyflyrau meddygol.
Bydd y buddsoddiad, a ddarperir drwy Gronfa Micro-fenthyciadau Cymru, yn cefnogi'r Academi wrth iddi baratoi ar gyfer ei lansio, gan alluogi marchnata wedi'i dargedu, prynu offer cwrs arbenigol a chyfalaf gweithio cynnar.
Gyda 18 mlynedd o brofiad mewn addysg bellach, 25 mlynedd mewn gwasanaethau trin gwallt, colli gwallt ac ailosod gwallt, a pherthnasoedd hirhoedlog â darparwyr gofal iechyd y GIG, elusennau canser a sefydliadau addysgol; mae Anastasia wedi cyfuno ei harbenigedd proffesiynol â phrofiad personol ac adborth i ddylunio rhaglenni hyfforddi sy'n mynd i'r afael â bylchau hirhoedlog mewn sgiliau technegol, cynhwysiant a gofal moesegol sy'n canolbwyntio ar y claf.
Mae ei thaith i sefydlu'r Academi wedi'i llunio'n rhannol gan ei phrofiad ei hun o golli gwallt yn ystod triniaeth canser y fron yn 2021. Drwy gyfrwng ei mewnwelediad a'i phrofiadau, ynghyd ag adborth gan gleientiaid a darparwyr gofal iechyd, tynnodd sylw at yr angen am ymarferwyr sydd wedi'u hyfforddi'n well a all gefnogi pobl sydd fwyaf bregus ac agored i niwed. Bydd cyrsiau newydd yr Academi yn ymgorffori hyfforddiant tricoleg arbenigol a gyflwynir mewn cydweithrediad â TrichoCare Education, darparwr blaenllaw o addysg tricoleg a hyfforddiant achrededig.
Dywedodd “Dros flynyddoedd lawer o gefnogi cleientiaid trwy eu profiadau o golli gwallt, gwelais y doll emosiynol y gall ei gymryd. Adroddodd cleientiaid hefyd eu bod wedi dod ar draws arferion gwael ac arweiniad anfoesegol, yn ogystal â chyngor a oedd yn brin o wybodaeth briodol, a dim ond gwaethygu eu gofid wnaeth hyn oll - ond rhoddodd mynd trwyddo fy hun a chael profiadau negyddol fy hun ddealltwriaeth llawer iawn dyfnach i mi o'r hyn y mae rhai cleifion yn ei wynebu.
“Mae cleifion yn haeddu gwasanaeth sy’n gynhwysol ac wedi’i bersonoli i gyd-fynd â’u hunaniaeth a pharchu eu hurddas, a hynny wedi ddarparu gydag empathi gwirioneddol. Yn ogystal, mae angen mwy o ffocws ar arweiniad ymarferwyr sy’n foesegol ac yn wybodus, sy’n cefnogi cleifion i wneud penderfyniadau gwybodus. Dyna pam y creais yr Academi – i sicrhau bod ymarferwyr nid yn unig yn dechnegol fedrus ond hefyd wedi’u hyfforddi mewn gofal sy’n wybodus am drawma ac sy’n canolbwyntio ar y claf.
“Mae’r gefnogaeth gan y Banc Datblygu wedi caniatáu i mi roi’r lansiad haeddiannol i’r hyfforddiant hwn. Mae’n golygu ein bod yn cyrraedd ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol cysylltiedig, a gallwn sicrhau bod y genhedlaeth nesaf o ymarferwyr wedi’u grymuso a’u cyfarparu i gynnig gofal o ansawdd uchel, medrus a thosturiol ledled Cymru. ”
Dywedodd Donna Strohmeyer, Swyddog Buddsoddi ym Manc Datblygu Cymru:
“Mae Scarlett Jack Hairitage – The Academy yn enghraifft bwerus o sut y gall profiad byw ac arbenigedd proffesiynol ddod at ei gilydd i greu newid gwirioneddol ystyrlon. Mae Anastasia wedi nodi bwlch sgiliau clir ac wedi datblygu darpariaeth hyfforddi a fydd yn gwella ansawdd y gofal sydd ar gael i bobl sy'n colli gwallt. Bydd ein buddsoddiad yn ei helpu i feithrin gallu, cryfhau'r gweithlu arbenigol a chefnogi canlyniadau gwell i gleifion a darparwyr ledled Cymru.”
Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae Cronfa Micro-fenthyciadau Cymru yn cynnig benthyciadau hyblyg o £1,000 i £100,000 i helpu busnesau Cymru i ddechrau, cryfhau a thyfu.
Am wybodaeth, ewch i weld www.datblygubanc.cymru