Mae pobl sydd ag anawsterau cyfathrebu yn elwa ar wasanaeth therapi lleferydd newydd a ddatblygwyd gan Cog-Neuro Speech Therapy Limited yng Nghaerffili.
Gyda benthyciad o £25,000 gan y Banc Datblygu Cymru a grant o £60,000 gan Innovate UK, datblygwyd yr app symudol i helpu pobl ag anawsterau cyfathrebu i adennill eu gallu i gyfathrebu, cynnal perthynas ac ailintegreiddio yn y gymuned.
Sefydlwyd Cog-Neuro yn gyntaf gan therapydd lleferydd Sheiladen Montero Aquino yn 2012. Erbyn hyn mae hi wedi datblygu app a fydd yn gwella gwasanaeth therapi lleferydd i bobl ag anawsterau cyfathrebu yn dilyn strôc, anaf i'r ymennydd, ac anhwylderau niwrolegol datblygol eraill gan gynnwys clefyd Parkinson a Sglerosis Ymledol.
Drwy ddefnyddio'r app, gall cleifion gael gafael ar wasanaethau yn ystod yr amser pan fyddant yn y cyflwr mwyaf ysgogol ar gyfer adferiad neu wrthi'n aros am apwyntiad therapi lleferydd gan y GIG. Gall cleifion a'u teuluoedd sydd angen therapi lleferydd dwys hefyd ddefnyddio'r app ochr yn ochr â sesiynau therapi lleferydd i gefnogi eu rhaglen adsefydlu gyfredol.
Mae'r app Cog-Neuro yn canolbwyntio ar bum maes iaith gan gynnwys gwrando, siarad, darllen, ysgrifennu a meddwl (semanteg). Defnyddiwyd dysgu trwy gamliwio a dysgu llechwraidd i annog rhyngweithio a chanolbwyntiad dwys, - fe ddangoswyd mai rhain yw’r ffactorau allweddol mewn niwrolalastigedd ac adfywio'r ymennydd.
Mae gemau bach yn targedu sgiliau ieithyddol penodol gyda chyfarwyddiadau gweledol ac opsiynau treialu ar ddechrau pob gêm. Rhoddir adborth i ddefnyddwyr. Yn ogystal, mae gan bob un o'r gemau dair lefel o anhawster i'w haddasu yn dibynnu ar welliant y defnyddiwr. Ar ddiwedd y gêm cynhyrchir adroddiad y gellir ei anfon drwy e-bost. Mae hefyd yn bosibl addasu'r gêm ar gyfer y cleient.
Dywedodd Sheiladen Montero Aquino, sylfaenydd Cog Neuro: Drwy gydol fy ymarfer rhyngwladol mewn therapi lleferydd, rwyf wedi bod eisiau datblygu triniaeth arloesol a fydd yn helpu pobl i gyfathrebu eto ar ôl strôc, anaf i'r ymennydd, Parkinson a Dementia.
Helpodd cyllid Innovate UK i ddatblygu'r feddalwedd symudol ond roeddem yn dal i fod angen cyllid ychwanegol. Cyflwynodd Busnes Cymru fi i Rhiannon Brewer yn y banc datblygu - roedd hi'n deall ein busnes ac roedd hi’n dangos yr awydd diffuant i ni lwyddo. Fe arweiniodd hi fi drwy'r broses a chawsom yr arian yn brydlon. Daethom o hyd i bartner dibynadwy ar gyfer y daith hon!
“Rwy'n ddiolchgar i Banc Datblygu Cymru, Busnes Cymru ac Innovate UK am eu cefnogaeth ragorol drwyddi draw.”
Dywedodd Rhiannon Brewer, Uwch Swyddog Buddsoddi gyda Banc Datblygu Cymru:
“Gweithio mewn partneriaeth â chyllidwyr a sefydliadau cefnogi busnes eraill i helpu perchnogion busnes uchelgeisiol ac angerddol i lwyddo yw'r hyn yr ydym yn ei wneud orau. Mae pob cwmni yr ydym yn gweithio â nhw yn wahanol ac mae pob cytundeb yn cael eu creu yn bwrpasol ar eu cyfer. Felly, roeddwn yn arbennig o falch o weithio gyda Busnes Cymru ac Innovate UK i gynnig pecyn ariannu sydd wir yn gwneud gwahaniaeth i'r busnes tra'n gwella bywydau pobl.
“Bydd y cynnyrch newydd gan Cog-Neuro yn helpu i roi budd i rai o'r 15,500 o bobl yng Nghymru yr amcangyfrifir eu bod yn dioddef problemau lleferydd a chyfathrebu difrifol. Mae'n werth chweil gwybod bod ein micro fenthyciad bellach yn helpu i sicrhau y bydd pobl yn derbyn y gofal sydd ei angen arnynt i gefnogi annibyniaeth ac ansawdd bywyd.”
Dywedodd David ap John-Williams, Rheolwr Rhanbarthol Busnes Cymru ar gyfer De Cymru: “Yn ogystal â chefnogi entrepreneuriaid a busnesau bach a chanolig ar hyd a lled Cymru i ddechrau ac ehangu, mae cydweithio â sefydliadau cymorth a rhanddeiliaid eraill i gynnig dull cyfannol sydd wedi'i deilwra i'r unigolyn, yn holl bwysig i ni.
“Rwyf wrth fy modd bod ein hymgynghorwyr, ynghyd â Banc Datblygu Cymru ac Innovate UK, wedi gallu cefnogi Sheiladen a Cog Neuro i greu cynllun ariannol cadarn a sicrhau'r micro fenthyciad, wrth i'r busnes barhau i ddatblygu eu prosiectau sy'n newid bywydau.”
Mae Banc Datblygu Cymru yn cynnig micro-fenthyciadau o £1,000 i £50,000 yn ogystal â benthyciadau ac ecwiti hyd at £5 miliwn.