Sicrhau dyfodol busnes yng Nghymru.

Giles-Thorley
Prif Weithredwr
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:

Efallai bod yna ansicrwydd ynghylch Brexit, ond mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi twf busnes ar hyd a lled Cymru gyda lansiad y Banc Datblygu Cymru newydd.

Meddai Giles Thorley, Prif Weithredwr Banc Datblygu Cymru newydd  "Mae'n ymwneud â thwf cymorth a datgloi'r potensial yn economi Cymru trwy gynyddu'r ddarpariaeth o gyllid cynaliadwy, effeithiol." Cafodd ei lansio ym mis Hydref, ac fe'i crëwyd yn dilyn ymgynghoriad ac adolygiad o Cyllid Cymru. 

Mae Cyllid Cymru wedi buddsoddi'n llwyddiannus mewn busnesau maint micro-i-ganolig yng Nghymru ers dros 16 mlynedd. Bydd y banc datblygu newydd yn ei gwneud hi'n haws i fusnesau gael y cyfalaf sydd ei angen arnynt i ddechrau, cryfhau a thyfu. Wedi'r cyfan, mae 95% o'r holl fusnesau ar hyd a lled Cymru yn syrthio o fewn y maint micro-i-ganolig, felly mae'r angen i ysgogi twf yn bwysicach nag erioed.

Un enghraifft yw Hilltop Honey. Yn 2014 fe wnaethon nhw fanteisio ar ficro-fenthyciad, yna daethon nhw yn ôl am fuddsoddiad pellach eleni. Mae busnes yn ffynnu, felly maent yn symud i adeiladau mwy, gan greu swyddi a rhestru eu cynnyrch yn llwyddiannus ar silffoedd archfarchnadoedd.

Busnes arall sydd wedi cael budd yw Nutrivend. Ac yntau'n cael ei redeg gan y cyn-chwaraewyr rygbi rhyngwladol Scott Morgan a Barry Davies, fe wnaed cais ganddyn nhw am micro fenthyciad yn 2012 er mwyn sefydlu'r busnes. A hwythau'n arbenigo mewn peiriannau gwerthu iechyd a maeth, roeddent yn llwyddiannus wrth wneud cais am fuddsoddiad ecwiti dilynol, gan alluogi'r busnes i fynd o nerth i nerth.

"Yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf gwnaethom 267 o fuddsoddiadau mewn 245 o fusnesau ar hyd a lled Cymru. Yn ystod y pum mlynedd nesaf, bydd y banc datblygu yn camu i fyny eto ac yn buddsoddi dros £400 miliwn, fydd yn treblu  ein benthyciadau i ficro-fusnesau," ychwanegodd Thorley.

"Gyda buddsoddiad y sector preifat ac arian cyllido trwy gyfrwng Cymorth i Brynu - Cymru bydd yn  dyblu'r ffigwr hwn a mwy, bydd y banc datblygu yn buddsoddi £1 biliwn yn economi Cymru ac yn cefnogi 1,400 o fusnesau a fydd wedyn yn creu neu'n diogelu mwy na 20,000 o swyddi yma yng Nghymru."

Ac yntau'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, dyma eu hymrwymiad tuag at gyflawni addewidion y llywodraeth ar gyfer yr economi heddiw, yn ogystal â thwf busnesau Cymru yfory. A'r newyddion gwych yw, wrth i'r busnesau hyn ffynnu ac ad-dalu'r benthyciadau, mae'r arian yn cael ei ail-fuddsoddi. Felly nid dim ond busnesau Cymru sy'n cael budd, mae hefyd yn ariannu'r genhedlaeth nesaf o straeon llwyddiant.

Felly be' mae hyn yn ei olygu i fusnesau yng Nghymru?

"Yn gyntaf, mae gennym y cyllid i'ch cefnogi chi, ar pa bynnag gam mae eich busnes," meddai Thorley. "Ac yn ail, gan fod y banc datblygu'n ariannwr hyblyg, gallwn gynnig amrywiaeth o fenthyciadau a buddsoddiadau ecwiti i chi, a ellir eu talu'n ôl dros gyfnodau o hyd at ddeng mlynedd yn ogystal â chyllid o £1,000 i £5 miliwn fesul rownd buddsoddi." 

Mae hi mor syml i wneud cais, gallwch wirio'ch a ydych yn gymwys ar-lein mewn ychydig o funudau. A chyda dros 40 o reolwyr cyfrifon ar hyd a lled Cymru, byddwch chi'n mwynhau gwasanaeth wedi'i deilwra gan rywun sydd wirioneddol yn deall eich anghenion busnes.