Siop gyffredinol Canolbarth Cymru yn lleihau ei ddefnydd o ynni diolch i gymorth Banc Datblygu Cymru

Stewart-Williams
Swyddog Portffolio
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Cynllunio busnes
Twf
Marchnata
Busnesau technoleg
Knighton Costcutter

Mae’r Costcutter Nhrefyclo yn siop gyfleustra ym Mhowys, sy’n gwasanaethu cymunedau Trefyclo a’r pentrefi cyfagos.

Mae’r siop wedi cynyddu chwarter ei gofod gwreiddiol ac wedi gosod unedau rheweiddio ac arddangos ynni-effeithlon newydd, diolch i fenthyciad o £100,000 gan Fanc Datblygu Cymru

Roedd y benthyciad – gan Gronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru – wedi caniatáu creu mwy o le manwerthu yn y siop, ac mae’r achosion newydd wedi helpu i dorri hyd at ddau draean o’i defnydd cyffredinol o ynni.

Mae'r busnes yn un o gwsmeriaid hir sefydlog y Banc Datblygu. Prynodd perchennog y busnes John Ewens y siop yn Nhref-y-clawdd ddiwedd 2019 gyda benthyciad o £200,000 gan Gronfa Benthyciadau Busnes Cymru, ac yna £60,000 trwy Gynllun Benthyciad Busnes Covid Cymru yng nghanol 2020.

Dywedodd John Ewens, perchennog: “Rwy’n ddiolchgar iawn i Fanc Datblygu Cymru am y rownd ddiweddaraf hon o gymorth buddsoddi. Mae hyn wedi rhoi'r cyfle i ni gymryd mwy o reolaeth dros ein costau ynni, ac roeddwn i eisiau gwneud yn siŵr ein bod yn cymryd camau i ddiogelu ein defnydd o ynni yn y dyfodol lle bynnag y bo modd.

“Mae’r unedau newydd wedi ein helpu i dorri i lawr ar ein holl ddefnydd o ynni yn sylweddol, ac rydym bellach yn gallu cynnig ystod ehangach o nwyddau ffres ac oer i’n cwsmeriaid.”

Dywedodd Stewart Williams, Swyddog Portffolio gyda Banc Datblygu Cymru: “Mae wedi bod yn bleser pur gweithio gyda John yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae’r gwaith y mae wedi’i wneud i sicrhau bod Costcutter Trefyclo yn parhau i fod yn gystadleuol ac yn parhau i wasanaethu cymunedau yn y rhan hon o Gymru wedi bod yn wych.

“Mae’r gwelliannau y mae John wedi’u gwneud wedi bod yn gam synhwyrol iawn i ddiogelu effeithlonrwydd ynni ei fusnes yn y dyfodol, ac rwy’n falch o fod wedi gweithio gydag o er mwyn  sicrhau’r buddsoddiad sydd ei angen.”

Ariennir Cronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru gwerth £500 miliwn gan Lywodraeth Cymru a Banc Datblygu Cymru. Mae benthyciadau, cyllid mesanîn, a buddsoddiadau ecwiti ar gael i fusnesau yng Nghymru o £25,000 i £10 miliwn.