Sut i ddefnyddio cyllid asedau i dyfu eich busnes

Nick-Stork
Rheolwr Cronfa
Newidwyd:
asset finance

Er mwyn tyfu a bod yn llwyddiannus, efallai y bydd angen i'ch busnes fuddsoddi mewn asedau, fel offer, peiriannau neu gerbydau newydd. Ond beth os nad oes gennych yr arian parod ar gael i dalu am y rhain ymlaen llaw? Neu beth os, trwy wneud hynny eich bod yn peryglu iechyd ariannol eich busnes drwy greu problemau llif arian? Dyma lle daw cyllid asedau i'r fei fel opsiwn ariannu posibl.

Yn y canllaw hwn ar gyfer cyllid asedau, rydym yn trafod beth ydi o, y buddion, y gwahanol fathau o gyllid asedau, a phryd y dylech ystyried ei ddefnyddio i dyfu eich busnes.

Beth yw cyllid asedau?

Mae cyllid asedau yn rhoi mynediad i chi at yr asedau rydych eu hangen ar gyfer rhedeg a thyfu eich busnes. Gallai hyn fod yn unrhyw beth o offer swyddfa safonol i beiriannau arbenigol neu fflyd o gerbydau. Gyda llawer o ddarparwyr a chynhyrchion cyllid asedau ar gael yn eang, mae'n bosibl dod o hyd i gyllid ar gyfer unrhyw ased busnes bron.

Yn syml, caiff yr offer / cyfarpar ei brynu gan y darparwr cyllid asedau sydd wedyn yn sicrhau bod yr asedau ar gael i'r busnes yn gyfnewid am daliadau rheolaidd dros gyfnod y cytunwyd arno. Drwy ledaenu'r gost, gallwch gael gafael ar offer neu beiriannau o ansawdd uchel na fyddech, efallai, yn gallu fforddio eu prynu yn llwyr. Mae hefyd yn golygu eich bod yn ehangu eich gweithrediadau heb roi straen ar gyfalaf gweithio. Gan fod y rhan fwyaf o gytundebau cyllid asedau yn golygu gwneud taliadau sefydlog ar gyfradd llog sefydlog, gallwch reoli llif arian a chynllunio'ch cyllideb yn fwy effeithiol.

A'i dim ond asedau newydd ydych chi'n gallu eu cyllido?

Na. Bydd darparwyr cyllid asedau yn ystyried prynu asedau ail-law, cyn belled â'u bod mewn cyflwr da, bod ganddynt fywyd defnyddadwy yn dal yn weddill, a'u bod yn cael eu gwerthu gan gyflenwr sydd ag enw da.

Efallai y gallwch hefyd ddatgloi gwerth mewn asedau y mae eich busnes yn berchen arnynt drwy ail-gyllido asedau. Gall hyn fod yn ffordd wirioneddol effeithiol o gynhyrchu symiau sylweddol o gyfalaf yn gyflym ar gyfer buddsoddi mewn twf neu i ymdopi â'r annisgwyl.

Nawr, byddwn yn trafod y gwahanol fathau o gyllid asedu yn fanylach:

Hurbwrcasu

Mae hurbwrcasu yn golygu bod y busnes yn cytuno i brydlesu ased gan ddarparwr asedau drwy gyfrwng rhandaliadau rheolaidd sefydlog ynghyd â llog dros gyfnod y cytunwyd arno, fel arfer gyda blaendal cychwynnol. Unwaith y byddwch wedi gwneud y taliadau, bydd gennych yr opsiwn i brynu a chael perchnogaeth lawn o'r ased, fel arfer am ffi fach.

Gall contractau hurbwrcasu, yn yr un modd â mathau eraill o gyllid asedau, fod yn hyblyg, hynny yw, eich bod yn aml yn gallu dewis y cyfnod, y taliad a'r strwythur llog, a swm y blaendal cychwynnol i weddu i natur eich busnes a'ch sefyllfa ariannol. Er enghraifft, weithiau gellir gwneud taliad mawr ar ddiwedd y contract a elwir yn 'daliad balŵn’ i leihau cost y rhandaliadau rheolaidd. Neu os oes gennych fusnes tymhorol, efallai y gallwch bennu amserlen taliadau tymhorol ar ddechrau'r cytundeb i'ch galluogi i reoli eich llif arian yn well.

Yn ystod y cyfnod llogi, fel arfer mae'r cyfrifoldebau yswiriant a chynnal yn eistedd gyda'r darparwr cyllid ond mae lwfansau cyfalaf ar gael i'r busnes.

Os ydych chi angen ased ar gyfer defnydd tymor hir ac eisiau bod yn berchen arno yn y pen draw, yna gallai hurbwrcasu fod yn opsiwn da i'ch busnes.

Prydlesu offer

Mae'r math hwn o gyllid asedau yn cynnwys y cwmni cyllid (y prydleswr) yn prynu ased yr ydych ei angen a'i rentu i chi dros gyfnod penodol o amser. Mae dau brif fath o brydlesu offer:

Prydlesau cyllid

Mae prydlesau cyllid, a elwir hefyd yn brydlesau cyfalaf, yn eich galluogi i gaffael defnydd unigryw o ased am y rhan fwyaf o'i fywyd gwaith defnyddiol heb fod yn berchen arno. Mae'n golygu talu cyfres o randaliadau neu renti sy'n rhan fawr o neu'n gost lawn yr ased, ynghyd â llog - gelwir hyn yn brif gyfnod y brydles. Ar ddiwedd y cyfnod hwn mae gennych nifer o wahanol opsiynau, sy'n cynnwys:

  • Ymestyn y brydles i gyfnod eilaidd a pharhau i ddefnyddio'r ased yn ôl yr angen
  • Dychwelyd yr ased i'r prydleswr
  • Gwerthu'r ased ar ran y prydleswr a chael budd o gyfran o'r enillion gwerthiant

 

Mewn sawl ffordd mae prydlesau ariannol yn debyg i hurbwrcasu. Er nad ydych chi mewn gwirionedd yn berchen ar yr eitem gyda phrydles cyllid, rydych chi'n ymgymryd â llawer o risgiau a gwobrwyon perchenogaeth, fel cyfrifoldeb am atgyweirio a chynnal a chadw. Fodd bynnag, mae gan brydlesi hurbwrcasu a chyllid wahanol driniaethau o ran cyfrifyddu a goblygiadau treth. Nid yw lwfansau cyfalaf ar gael ond mae dibrisiant fel arfer yn gost sy'n ddidynadwy o ran treth.

Prydlesau gweithredu

Dyma lle rydych chi'n rhentu ased am ran o'i fywyd gwaith defnyddiol. Mae prydlesau gweithredu fel arfer yn cynnwys cyfnodau prydlesu byrrach ac nid oes raid i chi ysgwyddo risgiau a gwobrwyon perchenogaeth. Gallant fod yn opsiwn mwy hyblyg na phrydlesi hurbwrcasu neu gyllid. Maent yn arbennig o addas os oes angen i chi uwchraddio eich offer yn aml er mwyn cael y dechnoleg ddiweddaraf. Ar ddiwedd y brydles, gallwch ddewis ymestyn y cytundeb neu ddychwelyd yr ased i'r prydleswr. Gan fod hwn yn drefniant rhentu, mae'r costau yn gallu cael ei ddidynnu o dreth refeniw ac felly nid oes unrhyw lwfansau cyfalaf ar gael.

Casgliad

Gall cyllid ased fod yn opsiwn da os ydych chi'n bwriadu hyrwyddo twf eich busnes drwy gael mynediad at yr offer diweddaraf neu ddatgloi arian parod o asedau sydd gennych eisoes. Gyda gwahanol fathau ar gael a natur 'wedi'i theilwra' llawer o gytundebau cyllid asedau, mae hwn yn faes ariannu sy'n aml yn cynnig dewis a hyblygrwydd. I archwilio'r opsiynau ariannu eraill sydd ar gael, edrychwch ar ein canllaw. Am wybodaeth ar sut i dyfu eich busnes gyda benthyciadau a / neu ecwiti, ewch i weld ein tudalen ar dyfu busnes.