Sut i gadw gweithwyr: astudiaeth achos

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Rachel and Ross, Directors of Ouma

Derbyniodd Ouma gyllid gennym ni yn 2019 i ariannu allbryniant rheolwyr. A hwythau yn un o asiantaethau marchnata digidol mwyaf cydnabyddedig Abertawe, fe wnaethant ennill Gwobr Cyflogwr y Flwyddyn yng Ngwobrau Busnes Bae Abertawe 2021.

Buom yn siarad â Rachel Lyndon-Jones, Cyfarwyddwr yn Ouma , am y mesurau cadw staff y maent wedi’u rhoi ar waith, pam mae cadw staff yn bwysig iddynt, a’r awgrymiadau da y byddent yn eu rhoi i fusnesau eraill.

Os oes angen cyllid arnoch ar gyfer eich busnes, boed hynny er mwyn ehangu eich tîm neu at ddiben arall, yna cysylltwch â ni i gael gwybod mwy, neu gwnewch gais nawr.

Faint o weithwyr sydd gennych chi? Sut mae hyn wedi tyfu dros amser?

Pan lansiodd Ross a minnau Ouma, dim ond y ddau ohonom oedd yn rhan o’r busnes. Roedd twf y busnes yn gymharol araf a chyson yn yr ychydig flynyddoedd cyntaf. Nawr, a ninnau yn ein pumed flwyddyn o gynnal busnes, mae Ouma yn gwneud yn well nag erioed. Er bod Covid-19 wedi cyflwyno ei heriau yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, erbyn dechrau 2022 roeddem wedi dyblu nifer ein staff ers 2021, ac mae gennym bellach dîm o 11. Mae’r unigolion o fewn ein tîm wedi tyfu yn eu rolau, gyda thri o’n tîm allan o 11 aelod wedi cael eu dyrchafu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Pam ydych chi’n meddwl ei bod yn bwysig canolbwyntio ar recriwtio a chadw staff?

Mae amser ynddo’i hun yn adnodd cwbl anadnewyddadwy; dyma'r un peth nad ydym yn cael mwy ohono. Mae Ross a minnau'n ymdrechu i rymuso ein tîm i wneud y gorau o'u hunig gynnig anhygoel ar fywyd. Beth bynnag sydd gan y dyfodol i’w gynnig i aelodau ein tîm, rydym am eu gweld yn llwyddo yn yr hyn maen nhw'n ei garu, beth bynnag fo hynny – boed hynny gydag Ouma, neu mewn meysydd eraill.

Rydym yn deall yn yr oes sydd ohoni, nad yw pobl o reidrwydd yn chwilio am 'swydd am oes'. Mae hyn yn ymddangos yn arbennig o gyffredin gyda’r cenedlaethau iau o bobl y mae ein busnes yn dueddol o’u denu. Rwy’n ei weld fel ein cyfrifoldeb i ddarparu man gwaith lle gall ein tîm ffynnu. Rydym yn ymdrechu i wneud Ouma yn fan lle gall pobl ddeffro yn y bore ac edrych ymlaen at y diwrnod sydd i ddod yn hytrach na deffro ac wynebu’r 'Dydd Llun Llwm'. Nid ein lle ni yw ceisio dal gafael ar unigolion o fewn ein tîm os ydynt yn dymuno symud ymlaen a chael profiadau bywyd yn rhywle arall.

Gallai hyn ymddangos yn anymarferol, oherwydd wrth gwrs gallai hyn olygu ein bod yn gorfod rhoi mwy o ymdrech i recriwtio yn y pen draw. Fodd bynnag, mae rhoi’r rhyddid i’n tîm allu byw a mwynhau eu bywyd go iawn, a’u hannog i ymestyn eu hunain i dyfu a dysgu pethau newydd yn aml i’w weld yn arwain at fwynhau eu profiadau yn y gwaith a’r awydd i fod eisiau aros. Ochr yn ochr â hyn, rydym wedi adeiladu seilwaith trawiadol ar gyfer rheoli mynediad a llwyth gwaith, sy'n golygu bod angen llai o amser ac egni ar gyfer y broses recriwtio ac ymuno ar y bwrdd fel petai.

Mae canolbwyntio ein hymdrechion ar gefnogi lles ac iechyd ein tîm wedi bod yn bwysig i ni ymhell cyn y pandemig, ond yn sicr fe wnaeth Covid-19 i ni feddwl mwy am beth arall y gallem fod yn ei wneud. Er ein bod bellach yn gweithio yn ein swyddfa newydd sbon danlli gydag oriau hyblyg ac opsiynau i 'Weithio o Unrhyw Le', trwy gydol ein cyfnod o weithio o bell fe wnaethom fynd ati i ddechrau prosesau newydd i sicrhau y gallai ein tîm deimlo mor gysylltiedig â phosibl, ac mae llawer o’r elfennau hyn yn dal i gael eu defnyddio heddiw. Mae pethau fel cysylltu gyda’n gilydd gyda 'gair y dydd' wedi cael ei gyflwyno fel ein bod ni’n deall sut mae'r tîm yn teimlo, gyda sgyrsiau 1:1 dilynol gydag unrhyw aelod o'r tîm sydd wedi cyflwyno gair a oedd yn ymddangos fel pe bai nhw angen cefnogaeth bellach.

Sut aethoch chi ati i ddatblygu eich pecyn buddion?

Pan ddechreuon ni greu ein pecyn buddion, yn wreiddiol, tynnodd Ross a minnau ar ein profiadau ein hunain o weithio i bobl eraill ac ystyried yr hyn y byddem wedi hoffi ei gael wedi’i ddarparu i ni ein hunain, ond dros y ddwy flynedd ddiwethaf rydym wedi cynnwys y tîm yn y drefn o addasu ac ehangu'r manteision a gynigir. Rydym wedi creu arolygon mewnol ar gyfer ein tîm sy'n gwbl ddienw lle gallant rannu eu barn onest am ein buddion a chyflwyno eu hawgrymiadau eu hunain. Rydym hefyd yn trafod ein pecyn buddion yn agored fel grŵp yn ystod ein 'Sesiynau Ouma'.

Wrth ychwanegu at y pecyn buddion, rydym yn ystyried Hierarchaeth Anghenion Maslow. Mae hyn yn ein helpu i fod yn ymwybodol o'r amrywiaeth ehangach o anghenion sylfaenol, seicolegol a hunan gyflawni ein tîm.

I ni, ni fydd y pecyn buddion byth yn 'orffenedig'. Bydd yn rhywbeth y byddwn yn gweithio arno'n barhaus ac yn ei wella flwyddyn ar ôl blwyddyn.

Beth yw'r prif fanteision rydych chi'n eu cynnig?

Mae ein pecyn buddion braidd yn eang. O opsiynau gweithio hyblyg a Sesiynau lles o dan arweiniad Hyfforddwr Arwain, i absenoldeb Pawternity ar gyfer mabwysiadu aelod newydd o’r ‘teulu blewog’, a chynnig estynedig i bobl feichiog a’u partneriaid, a’r rhai sydd am dyfu eu teuluoedd.

Rydym yn darparu buddion ariannol ar ffurf taliadau bonws a chodiadau cyflog aml, ac yn ddiweddar rydym wedi cyflwyno ‘Hey Taco’, ein harian caredigrwydd. Mae ein tîm yn rhoi emojis taco i’w gilydd trwy gyfrwng Slack bob dydd, yna mae’r gweithiwr sydd a’r mwyafrif o’r tacos ar ddiwedd y mis yn derbyn eu dewis o daleb £100 neu ddiwrnod o wyliau blynyddol.

Rydym hefyd yn cynnal digwyddiadau tîm rheolaidd a digwyddiadau cymdeithasol, ynghyd â dau  ‘Ddiwrnod Hwyl Ouma' bob blwyddyn, lle mae'r tîm yn cael diwrnod i ffwrdd o'r gwaith i fwynhau rhai gweithgareddau ar gyfer bondio’r tîm.

Yn ddiweddar rydym wedi sefydlu gorsaf rhoddion STOPP (Swansea Takes On Period Poverty) yn ein swyddfa, ac rydym yn darparu cynhyrchion misglwyf ecogyfeillgar, di-blastig am ddim gan Hey Girls i'n tîm eu defnyddio.

Yn ogystal â'r uchod, rydym yn rhoi cryn dipyn o amser ac arian i gyfleoedd dilyniant ar gyfer ein tîm; mae hyn yn cynnwys hyfforddiant arweinyddiaeth gyda'r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth, coffis misol a sesiynau dal i fyny gyda'r cyfarwyddwyr, ac adolygiadau datblygiad personol chwarterol. Rydym hefyd wedi cyflwyno Sesiynau Ouma; sef cyfarfodydd tîm 30 munud wythnosol lle byddwn yn trafod amrywiaeth o bynciau sy'n ymwneud â lles, iechyd meddwl, twf busnes neu hyfforddiant.

Os hoffech weld y rhestr lawn o fuddion rydym yn eu cynnig (diweddarwyd hwn ddiwethaf Ionawr 2022), gallwch edrych ar ein llyfryn buddion.

Sut mae Ouma wedi elwa o weithredu mesurau cadw a recriwtio staff?

Trwy ddarparu arlwy mor sylweddol i’n tîm, a thrwy siarad am hyn yn agored ar gyfryngau cymdeithasol rydym yn sicr wedi gallu denu rhai o’r talentau gorau o fewn ein diwydiant. Pan fyddwn yn recriwtio ar gyfer rolau newydd o fewn y busnes mae ein cronfa ymgeiswyr yn cynyddu bob tro.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i fusnesau eraill sy’n ceisio gwella recriwtio a chadw staff?

Fy nghyngor i fyddai gofyn i'ch tîm yn agored pa welliannau yr hoffent eu gweld a bod yn barod i wneud addasiadau bach i'ch pecyn buddion yn barhaus, yn hytrach na'i weld fel tasg orffenedig.

Cynnwys fy nhîm yn y sgyrsiau hyn oedd y penderfyniad gorau a wneuthum. Efallai y bydd hyn yn teimlo’n anghyfforddus iawn ar y dechrau, ond yr unig ffordd o wella yw darparu lle diogel i’ch cyflogeion siarad yn agored am yr hyn sy’n gweithio iddynt a’r hyn nad yw’n gweithio iddynt. Eglurwch eich disgwyliadau, eglurwch eich ffiniau, byddwch yn glir ynghylch yr hyn sy'n gyraeddadwy a'r hyn na ellir ei gyflawni. Ni allwch blesio pawb; bydd angen i'r tîm, a'r busnes, fod yn agored i gyfaddawdu.

Yn dilyn y sgyrsiau hyn a gawsom yn Ouma, fe wnes i ddarganfod nad yw gwobr ariannol o gymaint o werth i fy nhîm â theimlo'n fodlon, cael eu gwerthfawrogi a chynnig hyblygrwydd.