Talkative yn cwblhau rownd ariannu cyfres a

Carl-Griffiths
Rheolwr Cronfa Sbarduno Technoleg
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
talkative

Rydyn ni'n rhannu straeon trydydd parti perthnasol ar ein gwefan ni. Ysgrifennwyd a chyhoeddwyd y datganiad hwn gan Talkative.

Mae'r cwmni cyfathrebu Talkative sy'n seiliedig yng Nghasnewydd, yn falch o gyhoeddi ei fod wedi cwblhau rownd ariannu Cyfres A, gan godi dros £350,000. Mae Pencadlys Talkative yng Nghanolfan Arloesi Wesley Clover.

Roedd y tîm a sefydlodd Talkative i gyd yn aelodau o Raglen Entrepreneuriaeth Graddedigion yr Alacrity Foundation. Roedd y Cwmni eisoes wedi sicrhau cyllid sbarduno yn y Gwanwyn, 2016, ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus. Hyd yn hyn mae'r Cwmni wedi codi dros £500,000 o'r marchnadoedd cyfalaf preifat. Ymarferodd Wesley Clover, buddsoddwyr angel gwreiddiol ac aelodau'r tîm sefydlu eu hawliau i danysgrifio i'r fargen. Denodd y cytundeb Banc Datblygu Cymru fel buddsoddwr newydd hefyd.

Mae'r Cwmni yn arloesi datblygiad gwe-alw. Mae llwyfan meddalwedd Talkative wedi cael ei greu i wella cyflymder ac effeithiolrwydd cyfathrebu ar y we. Fel rheol mae angen i gwsmeriaid sy'n cysylltu â staff canolfan alwadau i fynd ati i lawr lwytho meddalwedd wedi'i addasu neu app. Mae Talkative yn cael gwared â'r angen i wneud hyn ac yn galluogi cwsmeriaid i gysylltu gydag asiant mewn canolfan alwadau yn uniongyrchol trwy borwr gwe a hynny trwy ddefnyddio gwasanaethau llais, fideo neu negeseuon.

Bydd yr arian cyllido sydd newydd gael ei godi yn cael ei gymhwyso i gyflymu datblygiad y Cwmni. Bydd Talkative yn ehangu nifer ei gwsmeriaid trwy gyfuniad o werthiannau uniongyrchol a phartneriaid gwerthu, sy'n gwerthu'r llwyfan ar ran Talkative. Bydd yr arian hefyd yn cael ei ddefnyddio i gynyddu soffistigedigiaeth dechnegol y llwyfan.

Wrth sôn am y rownd ariannu lwyddiannus dywedodd y cyd-sylfaenydd a'r Cyfarwyddwr Felix Winstone, "Rydym wrth ein bodd ein bod wedi codi'r arian ychwanegol hwn. Mae twf gweithgarwch canolfannau galwadau wedi bod yn enfawr dros y ddau ddegawd diwethaf. Nid ydym yn credu bod hyn yn debygol o arafu wrth i fwy o ddiwydiannau a mathau o weithgaredd symud tuag at y dull gweithredu hwn. Mae lefelau uwch o wasanaeth cwsmeriaid yn allweddol i'w llwyddiant wrth i gwsmeriaid canolfannau galw chwilio am fwy o nodweddion. Mae'r arian cyllido hwn yn ein galluogi i ddenu staff allweddol a all helpu'r Cwmni i ehangu a chynnal a chadw ein harweinyddiaeth dechnolegol."

Ar hyn o bryd, mae'r datrysiad Talkative hwn yn cael ei ddefnyddio ar draws meysydd Teithio, Modurol, Manwerthu a Gwasanaethau Ariannol, gan yrru trawsnewidiadau gwe a darparu profiad gwell i gwsmeriaid.

Wrth sôn am y buddsoddiad dywedodd Dr Carl Griffiths, Rheolwr Cronfa Sbarduno Technoleg Banc Datblygu Cymru; "Mae hwn yn gyfle cyffrous i ni fod yn rhan ohono, oherwydd mae ein buddsoddiad yn helpu'r cwmni i fanteisio ar y datblygiadau parhaus mewn technoleg. Mae'r Alacrity Foundation a Wesley Clover yn gwneud gwaith gwych trwy gydweddu entrepreneuriaid graddedig gyda mentoriaid o'r radd flaenaf ac mae Talkative yn enghraifft ragorol o'u gwaith gyda chwmnïau technoleg."