Teithio gyda Coastline Coaches

Anna-Bowen
Uwch Swyddog Datblygu Eiddo
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
jws cars

Bydd JWS Cars Limited, sy'n masnachu fel Coastline Coaches, yn cyflawni gwasanaeth dwy o fysiau newydd wrth iddynt baratoi i ddechrau ar ddau gytundeb cyflawni gwasanaeth bws newydd gyda Chyngor Sir Ddinbych.

Bydd benthyciadau o £100,000 gan Fanc Datblygu Cymru a HSBC yn galluogi'r busnes sy'n cael ei rhedeg gan deulu i uwchraddio eu depo yn Ffordd Las, Y Rhyl fel bod lle yno ar gyfer y cerbydau newydd ac ar gyfer datblygu ymhellach eu gwasanaethau teithio mewn cerbydau preifat, tacsis a choetsis. Gall Coastline Coaches hefyd ddarparu ceir o safon uwch ar gyfer teithiau corfforaethol a busnes.

Mae'r ddau fws Optare newydd wedi cael eu cymeradwyo gan y DGSA ac maent yn hygyrch ar gyfer cadeiriau olwyn. Byddant yn gwasanaethu llwybr ffyrdd rhif 55 ac X5 sy'n rhedeg rhwng Rhuthun, Corwen, Llangollen a Wrecsam, ynghyd â llwybr 40 sy'n cynnwys llwybr ffyrdd rhif 61 a 56 o Ddinbych i'r Rhyl.

Fe'i sefydlwyd yn 2004, ac mae Coastline Coaches yn cael ei redeg gan y Cyfarwyddwr Wendy Parker a'r Rheolwr Trafnidiaeth Les Peake. Gyda 30 o weithwyr, mae ganddynt 24 o gerbydau yn eu fflyd a 14 o yrwyr berchnogion.

Meddai Les Peake: "Rydym yn gwmni uchelgeisiol sydd wastad yn chwilio am y gwerth gorau i'n cleientiaid. Bydd y buddsoddiad diweddaraf hwn yn ein galluogi i ehangu ein hargaeledd i ddiwydiant sy'n tyfu trwy gyfrannu at y gefnogaeth a ddarperir gan HSBC a Banc Datblygu Cymru.

"Rydym yn arbennig o ddiolchgar i HSBC a'n rheolwr perthynas, Gavin Jesse am ein cyflwyno i'r tîm yn y banc datblygu oherwydd gyda'i gilydd maent wedi rhoi chwistrelliad o arian parod i ni sydd wedi ei deilwra i ddiwallu ein hanghenion. Mae hefyd yn galonogol gwybod eu bod wrth law pryd bynnag y bydd arnom angen cymorth ac roedd y broses i gyd yn gyflym iawn hefyd."

Ychwanegodd Martin Lyons, Cyfarwyddwr Ardal HSBC ar gyfer Gogledd Cymru: "Rydym wedi bod yn gweithio gyda JWS Cars ers tua 18 mis ac yn y cyfnod hwnnw mae'r busnes wedi mynd o nerth i nerth, gan esblygu o gwmni tacsi i mewn i fusnes sy'n cynnig teithiau bws a theithiau ysgol. Bydd y cylch cyllido diweddaraf hwn yn helpu'r busnes i barhau i dyfu ac rydym yn edrych ymlaen at ei gefnogi yn ei ymdrechion yn y dyfodol, gan gynnwys mynd ar drywydd a sicrhau cytundebau newydd.

"Mae Anna Bowen yn Swyddog Buddsoddi gyda Banc Datblygu Cymru. Ychwanegodd: "Mae ein buddsoddiad yn Coastline Coaches yn enghraifft wych o sut y gallwn ni weithio gyda'n gilydd gyda chyllidwyr lleol ac ymgynghorwyr busnes i sicrhau'r fargen orau i'r cleient. Gyda HSBC, rydym wedi strwythuro pecyn a fydd yn darparu llwyfan cryf ar gyfer twf yn y dyfodol."

Dywedodd Clive Barnard, sy'n Rheolwr Perthynas gyda Busnes Cymru: "Roeddem wrth ein bodd bod Coastline Coaches wedi dewis cymryd rhan yn hyn gydag agwedd mor frwdfrydig a'u bod wedi elwa o'n rhaglen cefnogi Gweithredwyr Bws. Mae’r prosiect hwn wedi golygu bod Busnes Cymru, Banc Datblygu Cymru, Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill wedi dod ynghyd gyda'r nod o ddarparu ystod o gymorth wedi'i dargedu ar gyfer y sector. Gweithredwyr fel Les a Wendy fydd yn sicrhau bod ansawdd y gwasanaethau yng Nghymru yn addas ar gyfer y dyfodol."