Diweddariad pwysig: mae angen cwblhau pob cais erbyn 9am 18 Medi 2025 os ydych chi am ddefnyddio ein system ymgeisio bresennol. Darganfod mwy.

Teulu Jenkins ar fin tyfu busnes Capel Hendre fel gwneuthurwr blaenllaw'r DU o systemau simnai a systemau ffliw

Richard-Easton
Swyddog Portffolio
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Twf
Technoleg busnesau
Midtec

Mae Midtec, un o gynhyrchwyr mwyaf blaenllaw y DU ym maes systemau simnai a systemau ffliw, wedi cwblhau’r gwaith o adeiladu 2500 troedfedd sgwâr o ofod gweithgynhyrchu ychwanegol ar Ystâd Ddiwydiannol Capel Hendre ger Rhydaman, gan ddefnyddio benthyciad o £220,000 gan Fanc Datblygu Cymru.

Ffurfiwyd Midtec yn 2003 gan y Rheolwr Gyfarwyddwr, Trefor Jenkins, a chafodd Midtec fudd am y tro cyntaf o fuddsoddiad gan y Banc Datblygu yn 2005. Ers hynny maent wedi cael sawl rownd o gyllid gan y Banc Datblygu i gefnogi cynlluniau twf ac mae’r genhedlaeth nesaf yn edrych i’r dyfodol gyda’r gofod newydd hwn yn cael ei ddefnyddio i gartrefu peiriant torri laser ENSIS o'r radd flaenaf, a gyflenwir gan Amada.

Dywedodd Trefor: “Mae cefnogaeth barhaus y Banc Datblygu yn golygu ein bod wedi gallu tyfu’r busnes, ysgogi arbedion effeithlonrwydd a buddsoddi mewn cyfleoedd marchnad newydd. Rydyn ni hefyd wedi cyflwyno cynhyrchion newydd gan gynnwys y MidCat, datrysiad arloesol ar gyfer lleihau’r llygredd sy’n cael ei greu gan stofiau llosgi coed a’r unig un o’i fath yn y DU.”

“Mae ein buddsoddiad diweddaraf yn ein technoleg yn golygu y gallwn nawr gynnig gwasanaeth torri laser a fydd yn helpu i wella ein hansawdd a’n prosesau cynhyrchu ac yn arbed amser ar y broses o gyflenwi archebion cwsmeriaid. Gobeithiwn y bydd hyn yn chwarae rhan bwysig yn ein twf yn y dyfodol. Yn wir, mae ein trosiant ar y trywydd iawn i fod yn fwy na £2 filiwn eleni ac rwy’n falch iawn bod fy mab Thomas a’m merch Hannah eisoes yn chwarae rhan hanfodol yn y busnes wrth i ni ganolbwyntio ar ein cynaliadwyedd hirdymor.”

Dywedodd Richard Easton, Swyddog Portffolio gyda’r Banc Datblygu: “Mae Midtec yn fusnes teuluol sy’n adnabyddus am ei ansawdd uchel a’i wasanaeth rhagorol i gwsmeriaid. Gyda’n cefnogaeth barhaus, mae Trefor, Thomas, Hannah a’r tîm wedi creu cyfleuster gweithgynhyrchu modern sydd â dyfodol cyffrous iawn o’u blaenau.”

Daeth y benthyciad o £204 miliwn o Gronfa Busnes Cymru a ariennir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Llywodraeth Cymru. Mae benthyciadau, cyllid mesanîn, a buddsoddiadau ecwiti ar gael ar gyfer bargeinion rhwng £50,000 a £2 filiwn gyda thelerau’n amrywio o un i saith mlynedd ar gyfer busnesau bach a chanolig (y rhai sydd â llai na 250 o weithwyr) sydd wedi’u lleoli yng Nghymru, neu sy’n barod i adleoli i Gymru.

Cwmni adeiladu TRJ o Rydaman wnaeth y gwaith adeiladu, tra bod Jamie Reynolds o Cennen Solutions hefyd wedi bod yn darparu cefnogaeth strategol.