Thalia DA yn denu buddsoddiad o $2m i dyfu llwyfannau ailddefnyddio IP analog

Carl-Griffiths
Rheolwr Cronfa Sbarduno Technoleg
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:

Rydyn ni'n rhannu straeon trydydd parti perthnasol ar ein gwefan ni. Ysgrifennwyd a chyhoeddwyd y datganiad hwn gan Thalia Design Automation.

Heddiw, cyhoeddodd Thalia Design Automation ei fod yn cynllunio twf sylweddol yn ei weithrediadau byd-eang, ar ôl cwblhau cylch ariannu $2m (£1.52m) dan arweiniad Deepbridge Capital a chydag ymrwymiad newydd gan ddatblygwr presennol y cwmni Banc Datblygu Cymru (Cyllid Cymru gynt).

Bydd y cylch cyllido diweddaraf hwn yn galluogi i ddatrysiadau Llwyfan Ail-ddefnyddio fel Gwasanaeth (LlAfG) Thalia ar gyfer ailddefnyddio IP analog gael eu datblygu yn gyflymach, bydd yn mudo dylunio ac yn ymestyn y portffolio, ac yn ehangu gweithgareddau masnachol a pheirianneg yn y DU, UDA a chyfandir Ewrop trwy gyfrwng dull ymosodol.

“Mae Deepbridge wedi ymrwymo i feithrin arloesedd a thwf mewn busnesau sydd â photensial tarfu gwirioneddol yn y farchnad, ac rydym ni'n bendant yn credu fod Thalia yn disgyn i'r categori hwnnw,” meddai Ray Eugeni, Partner yn Deepbridge Capital. “Rydym yn edrych ymlaen at helpu'r cwmni hwn sy'n canolbwyntio'n fyd-eang i wireddu potensial ei asedau technoleg craidd unigryw mewn marchnadoedd ar hyd a lled y byd.”

Wrth siarad ar ran Thalia, dywedodd Rodger Sykes, y Cadeirydd a'r Prif Weithredwr: “Mae dylunio analog yn un o'r heriau anoddaf yn y diwydiant electroneg heddiw. Credaf fod Thalia yn creu newid ar sail enfawr yn y farchnad allweddol hon, gan alluogi ein cwsmeriaid i symud tuag at fodel ‘IP ar alw ', a chynnig arbedion amser a chost o hyd at 50%.”

Dywedodd Dr Carl Griffiths, Rheolwr Cronfa gyda Banc Datblygu Cymru: “Ar ôl bod yn rhan o Thalia ers camau cynnar ei ddatblygiad, rydym yn falch iawn o weld y cynnydd gwych y mae'r cwmni eisoes wedi'i wneud yn y gofod technoleg byd-eang gwerth uchel. Mae ein buddsoddiad dilynol yn y cylch ariannu diweddaraf hwn yn dangos ein cred gref bod gan Thalia yr holl arfau i wneud y gorau o gyfle enfawr yn y farchnad.”

Fel rhan o'i ehangiad parhaus, mae Thalia yn cynllunio i dyfu ei alluoedd datblygu technoleg yn y DU ac yn Yr India, yn ogystal â sefydlu presenoldeb cryf ar Gyfandir Ewrop a'r Unol Daleithiau. Mae datrysiad Llwyfan-Ailddefnyddio-fel-Gwasanaeth (LlAfG) y cwmni yn cyfuno methodoleg arloesol, technoleg awtomeiddio dylunio uwch ac adnoddau peirianneg analog profiadol. Mae'n helpu darparwyr IP analog i ailddefnyddio eu portffolio cynnyrch presennol i'r eithaf, i greu amrywiadau cynnyrch newydd yn gyflym ac yn hawdd, ac i addasu eu dyluniadau ar gyfer gweithgynhyrchu gan ddefnyddio unrhyw wasanaeth ffowndri lled-ddargludyddion.