Tyfu eich busnes gyda chyllid ecwiti: 5 cwestiwn y dylech ofyn i chi eich hun

Chris-Griffiths
Cyfarwyddwr Buddsoddi Technegol
Newidwyd:
Ecwiti
Cyllid
Twf
question mark

Fel dilyniant i'n postiad blog blaenorol, 'Pedwar arwydd bod eich busnes yn barod am gyllid ecwiti', rydym yn edrych ar ddefnyddio ecwiti i dyfu eich busnes unwaith eto.

Gall perchnogion busnes weithiau fod yn amharod i gymryd ecwiti oherwydd y syniad ei fod yn golygu 'rhoi cyfranddaliadau i ffwrdd' yn eich busnes. Ond y gwir yw eich bod chi'n eu gwerthu yn gyfnewid am dwf ac i greu gwerth. Fel dull o godi cyfalaf heb orfod gwneud ad-daliadau, gall cyllid ecwiti fod y ffordd orau i gynyddu maint eich busnes yn gyflym. Ond sut ydych chi'n gwybod os mai dyma'r opsiwn iawn i chi?

Mae Chris Griffiths, Cyfarwyddwr Buddsoddi Technegol gyda Banc Datblygu Cymru, yn trafod y pum cwestiwn allweddol y dylech ofyn i chi eich hun wrth ystyried ecwiti.  

1.) Ydych chi a'ch tîm rheoli yn chwilio am dwf uchelgeisiol?

Mae unrhyw fuddsoddwr ecwiti yn ceisio gwella gwerth eu cyfranddaliad dros amser. Mae hyn fel arfer yn golygu y byddant yn chwilio am gynllun deniadol ar gyfer twf wedi'i gyflymu. Os ydych chi a'ch tîm wirioneddol eisiau gwireddu eich dymuniad i dyfu, gallai buddsoddwr ecwiti eich helpu i gyflawni hyn. Gyda phrofiad gwerthfawr ac arbenigedd yn y sector, gallant weithio gyda chi ar strategaeth ac ar wneud penderfyniadau, a darparu cefnogaeth benodol.

2.) Oes gennych chi syniad clir ynghylch lle'r ydych chi eisiau bod yn y pendraw?

Fel perchennog busnes, mae'n bwysig eich bod yn glir ynghylch eich amcanion personol a sut rydych chi'n bwriadu gwireddu gwerth allan o'ch busnes yn y pen draw. A yw hyn yn debygol o fod yn werthiant masnach, y rheolwyr yn prynu'r cwmni a beth yw'r amseriad tebygol ar gyfer hyn? A fydd yna rowndiau cyllido yn y dyfodol neu restriad a fydd yn atgyfnerthu'r gwerth? Bydd yr ystyriaethau hyn yn bwydo gwybodaeth i lwybr ymadael tebygol y buddsoddwr ac yn pennu ar gamau gweithredu clir wrth hybu twf a chreu gwerth.

3.) A oes gan eich busnes wahaniaethydd amlwg sy'n ei wneud yn ddeniadol?

Wrth chwilio am fuddsoddiad mae angen i chi feddwl beth sy'n eich gwahanu chi "oddi wrth weddill y dorf". Pam fyddai gan bobl fwy o ddiddordeb mewn buddsoddi yn eich busnes chi yn hytrach nac mewn busnes cystadleuydd? Bydd cael gwahaniaethydd clir hefyd yn helpu i ddenu opsiynau ymadael posibl yn y dyfodol felly mae'n bwysig eich bod yn rhoi ystyriaeth briodol i hyn.

Ar gyfer busnesau sy'n eu cyfnodau cynharach, fe all hyn fod yn fater o ddatblygu cynnyrch neu wasanaeth newydd sydd wirioneddol yn "torri tir newydd". Yn nodweddiadol ar gyfer busnesau sefydledig, bydd y gwahaniaethydd yn seiliedig ar y ffordd rydych chi'n gwneud busnes - efallai trwy safonau gwasanaeth neu brisio cystadleuol. Yn y pen draw, y cwestiwn ddylech chi geisio ei ateb yw, pam y byddai cleientiaid neu gwsmeriaid yn eich dewis chi yn hytrach na'ch cystadleuwyr?

4.) Ydych chi'n hoffi'r syniad o brynu i mewn i "gael darn llai o gacen fwy"?

Mae derbyn buddsoddiad ecwiti yn lleihau lefel eich cyfranddaliad. O ganlyniad, mae angen i chi fod yn glir sut y bydd effaith buddsoddiad yn darparu twf a gwella gwerth busnes. Cyfeirir at y syniad hwn yn aml fel "cael darn llai o gacen fwy". Bydd buddsoddwr am weld cynnydd yng ngwerth eu cyfranddaliadau ac, o ganlyniad, dylai'r busnes yn gyffredinol fod werth llawer mwy yn y dyfodol - gan wneud eich cyfran chi o'r busnes yn llawer mwy gwerthfawr.

5.) Ydych chi wedi taro'r "nenfwd gwydr" o ran twf?

Wrth i fusnesau dyfu, gallant fel arfer daro nenfwd gwydr lle mae'r systemau a'r prosesau a fu'n helpu i gyflawni'r twf, yn dechrau bod yn rhwystr. Sut ydych chi'n gwybod os ydi hyn yn berthnasol i chi? Wrth edrych ar eich busnes fe welwch y dangosyddion. A yw pobl yn treulio llawer o amser yn "ymladd tanau"? A yw staff yn teimlo nad oes digon o oriau yn y dydd? A yw gwybodaeth y busnes yn anodd ei chael am ei bod yn cael ei chadw ar ormod o daenlenni?

Os mai'r 'ie neu ydi' yw'r ateb i unrhyw un o'r cwestiynau hyn, yna mae angen i chi ystyried a oes angen buddsoddi yn eich systemau a'ch seilwaith. Yn ystod y cam hwn, mae'n bosib iawn y bydd gennych ddyled o fenthyciadau yn y busnes ac mae angen i chi ystyried ffynonellau cyllid eraill er mwyn gwneud y buddsoddiad i wella cynhyrchiant ac elw. Gall cyllid ecwiti fod yn opsiwn gwych o dan yr amgylchiadau hyn. Mae'r holl gyfalaf yn cael ei ddefnyddio ar fuddsoddiad yn hytrach na gorfod ad-dalu dyledion gwasanaeth sy'n cyflymu ad-dalu ac yn gwella gwerth busnes.

 

Mae Banc Datblygu Cymru yn fuddsoddwr ecwiti ymysg y 5 uchaf yn y DU, sy'n darparu cefnogaeth barhaus i fusnesau wrth iddynt dyfu. Gallwn hefyd weithio ochr yn ochr â'n rhwydwaith eang o fuddsoddwyr a chynghorwyr busnes eraill i sicrhau'r fargen orau i'ch busnes. Cysylltwch â ni heddiw os ydych chi eisiau gwybod mwy.