Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Wagonex Limited yn cyhoeddi cylch cyllido ecwiti sylweddol wrth iddo anelu at dyfu yn y DU a thu hwnt

Richard-Thompson
Uwch Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
wagonex

Mae'n bleser gan Wagonex Limited, llwyfan marchnadle tanysgrifio ceir gyhoeddi cylch cyllido ecwiti sylweddol wrth iddo geisio hybu twf yn yr Unol Daleithiau a thu hwnt.

Arweiniwyd y rownd fuddsoddi gan dîm mentrau technoleg Banc Datblygu Cymru gan gyd-fuddsoddi gyda buddsoddwyr o'r Unol Daleithiau ac angylion yn y DU ac fe fydd y rownd gyllido olaf yn cau ar ôl yr haf.

Mae Wagonex wedi bod yn enw blaenllaw ym maes tanysgrifiadau cerbydau ers ei sefydlu ac mae bellach yn gweithio'n agos gyda sawl gweithgynhyrchydd cerbydau byd-eang.

Dywedodd y Prif Weithredwr a’r Sylfaenydd Toby Kernon, “Rydym yn falch iawn o gael y cyfle i weithio gyda chwmni buddsoddi mor brofiadol a gweithredol â Banc Datblygu Cymru a’u bod yn cydnabod y potensial ar gyfer Wagonex. Mae ein buddsoddwyr rhyngwladol a'n sylfaen cleientiaid byd-eang yn cynnig cyfle anhygoel o gyffrous i adeiladu busnes llwyddiannus a chynaliadwy.

“Rydym yn falch iawn ein bod wedi ein lleoli yng Nghymru ac wedi ein plesio yn arw gyda'n Prif Swyddfa newydd yn Tramshed Tech yng Nghaerdydd. Gyda'r buddsoddiad hwn gallwn gyflymu datblygiad y busnes, ehangu ein cyfres o gynhyrchion a pharhau i fod yn enw blaenllaw yn y farchnad ym maes tanysgrifiadau cerbydau.”

Ychwanegodd Dr Richard Thompson, Uwch Swyddog Buddsoddi gyda thîm mentrau technoleg y Banc Datblygu, “Yn dilyn cyflwyniad gan Lywodraeth Cymru, rwyf wedi gweithio gyda Toby ers cryn amser i ddenu’r busnes cyffrous hwn i sefydlu ei bencadlys yng Nghymru. Mae Wagonex yn gweithio gyda rhai o wneuthurwyr ceir mwyaf y byd ac yr un fath â sectorau eraill, dylai fod gan danysgrifiadau ran bwysig i'w chwarae mewn byd sy'n newid yn gyflym lle mae defnyddwyr yn disgwyl cael mynediad cyflym at gynhyrchion.”

Dywedodd Gweinidog Economi Llywodraeth Cymru, Ken Skates: “Mae Banc Datblygu Cymru yn rhan fawr o’r dirwedd cymorth y gallwn ei gynnig i fusnesau ac mae wedi dod yn un o’r buddsoddwyr ecwiti mwyaf yn y DU yn gyflym.

“Rwy’n falch iawn bod Llywodraeth Cymru a’r Banc Datblygu wedi gallu denu Wagonex i Gymru ac maent bellach yn darparu buddsoddiad pellach amhrisiadwy. Trwy gyfrwng ein Cynllun Gweithredu Economaidd byddwn yn parhau i greu'r amodau cywir i fusnesau dyfu a ffynnu."