Wagonex yn pweru gwasanaeth tanysgrifio cerbydau newydd mycardirect

Richard-Thompson
Uwch Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
wagonex

Rydyn ni'n rhannu straeon trydydd parti perthnasol ar ein gwefan ni. Ysgrifennwyd a chyhoeddwyd y datganiad hwn gan Wagonex.

Heddiw, cyhoeddodd Wagonex bartneriaeth newydd gyda mycardirect. Mae'r bartneriaeth hon wedi galluogi i wefan sy'n seiliedig ar danysgrifiadau mycardirect i 1gael ei lansio, gan ddatgloi tanysgrifiad i gwsmeriaid ledled y wlad.

Mae Wagonex, cwmni newydd ddechrau sy'n seiliedig yng Nghaerdydd sy'n adeiladu platfformau tanysgrifio ar gyfer y diwydiant moduro, yn falch o fod wedi pweru safle newydd mycardirect. Trwy ddefnyddio technoleg Wagonex, mae eu partner diweddaraf wedi lansio gwasanaeth ar-lein 100% gyda phrofiad tanysgrifio unigryw.

Gall gyrwyr ddewis o ystod o gerbydau, gan gynnwys y ceir trydan a hybrid diweddaraf, a gallant ddewis cyfnod tanysgrifio sy'n addas iddyn nhw, o 1 mis hyd at 24. Yn ystod yr amser hwnnw, gall gyrwyr brofi nifer o wahanol gerbydau, os ydyn nhw'n dymuno gwneud hynny.

“Mae'r cydweithrediad hwn â mycardirect yn gam arall tuag at fodel perchnogaeth newydd,” meddai Toby Kernon, Prif Weithredwr Wagonex. “Rydyn ni eisoes wedi gweld y diwydiant yn symud yn gyflym tuag at ddigideiddio yn dilyn digwyddiadau'r flwyddyn. Rydyn ni wir wedi mwynhau dod â'r brand newydd ac uchelgeisiol hwn i'r farchnad ac edrychwn ymlaen at eu cefnogi wrth iddyn nhw barhau i dyfu.”

Dywedodd Dr. Richard Thompson, o dîm Mentrau Technoleg Banc Datblygu Cymru: “Mewn sector modurol sy’n newid yn gyflym mae platfform Wagonex yn enghraifft wych o’r hyn y gellir ei gyflawni gyda buddsoddiad ecwiti. Mae'r bartneriaeth gyda mycardirect yn cynnig  tanysgrifiad car hyblyg ar adeg pan mae defnyddwyr yn chwilio am yr hyblygrwydd mwyaf posibl."

Ychwanegodd Prif Weithredwr Mycardirect, Duncan Chumley, “Rwy’n hynod falch o lansio ein cynnig newydd i yrwyr, mycardirect. Rwy’n hyderus iawn y bydd cwsmeriaid wrth eu bodd â’r profiad hyblyg, didrafferth, 100% ar-lein a’r pecyn tanysgrifio arloesol, hollgynhwysol.”

Sefydlwyd Wagonex yn 2016, ac mae wedi tyfu'n gyflym ers hynny. Maent yn partneru gydag arweinwyr yn y diwydiant modurol i ddarparu platfformau tanysgrifio pwrpasol i'w cwsmeriaid. Mae Wagonex yn darparu marchnad ar gyfer dosbarthu partneriaid fflyd, ac injan rheoli fflyd sy'n galluogi i restrau segur i gael eu cylchredeg, gan gynnig dewis arall hyblyg i ddefnyddwyr yn lle perchnogaeth.

Sefydlwyd Mycardirect yn 2020 gan Duncan Chumley i symleiddio bywydau pobl gyda dewis arall haws yn lle cost rhentu tymor byr, ymrwymiad prydlesu tymor hir, a chymhlethdod perchnogaeth ceir. Gyda phedwar lleoliad ledled y wlad a phrif swyddfa wedi'i lleoli yn Hemel Hempstead, mae mycardirect yn cefnogi cwsmeriaid ledled y Deyrnas Unedig. Wedi'i ysbrydoli gan lwyddiant mawrion tanysgrifio fel Amazon a Netflix, mae mycardirect yn cynnig y ffordd fwyaf cyfleus a hyblyg i gwsmeriaid allu gyrru.