Wild Horse yn buddsoddi yn Llandudno

Chris-Hayward
Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
wild horse brewing

Rydyn ni'n rhannu straeon trydydd parti perthnasol ar ein gwefan ni. Ysgrifennwyd a chyhoeddwyd y datganiad hwn gan Wild Horse Brewing Company.

Mae The Wild Horse Brewing Company wedi dyblu eu capasiti bragu blynyddol ac wedi agor ystafell oer newydd i gwrdd â'r galw cynyddol am gwrw crefft.

Wedi'i leoli yn Llandudno, mae'r bragdy wedi cwblhau prosiect buddsoddi cyfalaf gwerth £134,000 sy'n cael ei ariannu'n rhannol gan Fanc Datblygu Cymru ac Is-adran Bwyd Llywodraeth Cymru. Mae'n cynnwys prynu pedwar tanc eplesu newydd, gan ychwanegu at y pedwar epleslwyr presennol, yn ogystal â disodli'r hen danciau hylif poeth ac oer gyda dau gerbyd newydd sy'n fwy effeithlon o ran defnyddio ynni. Cynyddodd y capasiti blynyddol o 175,000 litr (308,098 peint) i 350,000 litr (616,197 o beintiau) ac mae’r ystafell oergell 3C sy’n 600 troedfedd sgwâr newydd gael ei chwblhau hefyd.

Gyda chymorth Is-adran Bwyd Llywodraeth Cymru a Banc Datblygu Cymru, disgwylir i Wild Horse greu pedair swydd llawn amser newydd dros y tair blynedd nesaf o ganlyniad i'r capasiti cynyddol.

Dywedodd Dave Faragher, sy'n Fragwr ac yn Sylfaenydd Wild Horse: "Rydym yn hynod o gyffrous i weld yr ehangiad hwn yn gyflawn ar ôl sawl mis o gynllunio. Rydym wedi ei chael yn anodd i sichrau bod ein cwrw craidd a thymhorol i gyd ar gael dros y pedwar mis diwethaf felly bydd y capasiti mwy hwn yn cael ei groesawu yn fawr. Rydyn ni hefyd yn edrych ymlaen at ryddhau cwrw untro newydd yn y flwyddyn newydd, a rhai nad oedd gennym y capasiti i'w bragu ers mis Mai."

Dywedodd Adran Bwyd Llywodraeth Cymru: "Cefnogwyd y prosiect gydag arian gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, o'r grant Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Gwledig – Bwyd (CBBG). Mae'r cynllun CBBG yn cwmpasu costau buddsoddi cyfalaf ac yn cefnogi prosiectau sy'n darparu manteision clir i'r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru. Mae'r cynllun yn cefnogi busnesau Micro a Bwyd a Diod Bach yng Nghymru yn benodol, gan gefnogi twf busnes, gan annog cyfleoedd busnes newydd a chreu swyddi newydd mewn ardaloedd gwledig."

Meddai Chris Hayward o Fanc Datblygu Cymru: "Daeth y cyllid ar gyfer y fargen hon o Gronfa Busnes Cymru a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru. Mae bob amser yn werth chweil i gefnogi entrepreneuriaid lleol ac yn arbennig o galonogol i weld bod busnesau fel Wild Horse Brewing yn datblygu ac yn ffynnu. Bydd ein benthyciad yn cefnogi prynu'r tanciau bragu newydd a chreu uned storio oer well a fydd yn arwain at gyflwyno llinellau cynnyrch newydd a mwy o werthiannau. Fel busnes twf cyffrous a chyflym yn Llandudno, rydyn ni'n dymuno pob llwyddiant iddynt!"

Sefydlwyd y Wild Horse Brewing Company yn Ystâd Ddiwydiannol Cae Bach, yn ardal Builder Street, Llandudno, gan dîm sy'n ŵr a gwraig -  Dave ac Emma Faragher ym mis Mawrth 2015. Wedi'i ysbrydoli gan chwyldro cwrw crefft Gogledd America, dechreuodd Dave fragu ar system 'hanner gasgen 'sy'n cynhyrchu dim mwy na 250 litr yr wythnos.

Ym mis Ebrill 2016, ehangodd Wild Horse i system fragu 16-hectolitr gyda dros 9000 litr o gapasiti eplesu. Mae Wild Horse ers hynny wedi cyflogi 4 aelod o staff llawn amser ac mae ar gael ar dap ac mewn poteli mewn mwy na 100 o dafarndai, bwytai a lleoliadau manwerthu ar draws Gogledd Cymru yn ogystal â thu hwnt.