Y Banc Datblygu yn ariannu ehangiad caffi hanesyddol Cymru

Nakeja Howell
Swyddog Portffolio
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Twf
Marchnata
Caffi Beca

Mae caffi a redir gan deulu sydd â’i wreiddiau yn etifeddiaeth gwrthryfeloedd hanesyddol Cymru wedi cymryd cam beiddgar ymlaen, gan symud i ofod mwy a modern gyda chefnogaeth o £260,000 gan Fanc Datblygu Cymru.

Mae Caffi Beca, yn Efailwen, Sir Gaerfyrddin, wedi cael ei redeg gan y perchennog presennol Robert James ers 1993. Mae'n darparu bwyd cartref a golygfa o gefn gwlad Gorllewin Cymru.

Mae'r busnes bellach wedi cwblhau ailddatblygiad mawr, yn dilyn dymchwel ei hen adeilad ac adeiladu caffi mawr, mwy newydd. Yn ddiweddar, derbyniodd micro fenthyciad o £50,000 gan y Banc Datblygu i gefnogi ei dwf ar ôl symud i'w adeilad newydd. Mae hyn wedi iddo gael benthyciad o £160,000 a ddefnyddiwyd i ariannu'r gwaith adnewyddu, ynghyd â benthyciad o £50,000 drwy'r Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd a ganiataodd i Caffi Beca osod pwmp gwres aer a phaneli solar ar ei adeilad newydd fel rhan o'r gwaith uwchraddio.

Mae Efailwen yn nodi safle Terfysgoedd cyntaf Rebecca, a ddigwyddodd yng nghanol y 19eg ganrif pan y gwelwyd ffermwyr lleol yn protestio yn erbyn trethi a thariffau annheg  trwy chwalu tollffyrdd tra eu bod nhw wedi gwisgo fel merched, gan arwain at eu henwi'n Merched Beca. Mae murlun sy'n darlunio un o'r terfysgoedd wedi'i baentio ar wal y caffi cynharach hefyd wedi'i symud i'r adeilad newydd.

Yn ogystal â'i leoliad a'i enw hanesyddol, mae'r caffi wedi bod yn ffefryn cymunedol ers dros 60 mlynedd, ac fe'i prynwyd gan Robert ym 1993.

Meddai Robert James, perchennog Caffi Beca: “Rwy’n falch iawn o’r hyn rydym wedi gallu ei gyflawni gyda’r gefnogaeth rydym wedi’i chael gan Fanc Datblygu Cymru. Mae’r adeilad caffi newydd yn rhoi lle mwy i ni groesawu ciniawyr, tra hefyd yn cadw’r hyn y mae pobl leol wedi’i fwynhau yng Nghaffi Beca ers dros 30 mlynedd, gyda’n 33ain flwyddyn yn yr adeilad newydd.

“Mae’r micro fenthyciad diweddar wedi ein galluogi i dyfu ein busnes ar y cyflymder sy’n iawn i ni, ac wedi rhoi cyfle i ni ddatblygu ymhellach, tra bod y Benthyciad Busnes Gwyrdd wedi golygu ein bod wedi gallu gosod mesurau arbed ynni fel rhan o greu’r adeilad newydd.”

Meddai Nakeja Howell, Swyddog Portffolio Banc Datblygu Cymru: “Roedd yn bleser gweithio gyda Robert a phawb yng Nghaffi Beca. Maen nhw’n darparu cyrchfan poblogaidd mewn lleoliad hardd a hanesyddol, ac mae’r micro fenthyciad wedi caniatáu iddyn nhw dyfu heb aflonyddu fawr ddim ar eu busnes.”

Daeth y benthyciadau ar gyfer Caffi Beca o Gronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru a'r Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd. Wedi'i hariannu gan Lywodraeth Cymru, mae Cronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru ar gyfer bargeinion rhwng £25,000 a £10 miliwn. Mae benthyciadau, cyllid mesanîn, a buddsoddiadau ecwiti ar gael i fusnesau Cymru gyda thelerau hyd at 15 mlynedd.

Mae’r CynllunBenthyciadau Busnes Gwyrdd yn cynnig cyfraddau llog gostyngol a chyfalaf amyneddgar i gefnogi busnesau sy'n ymgymryd â phrosiectau effeithlonrwydd ynni a datgarboneiddio. Mae cyllid o £1,000 hyd at £1.5 miliwn ar gael ac mae'r Cynllun hefyd yn darparu mynediad at gefnogaeth ymgynghori wedi'i hariannu'n llawn ac yn rhannol i gynnal archwiliadau ynni penodol i fusnesau.