Y Banc Datblygu yn galluogi tîm o reolwyr i brynu cwmni tecstilau yn Wrecsam

Scott-Hughes
Uwch Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Prynu busnes
Busnesau technoleg
Riva

Yn dilyn buddsoddiad saith ffigur gan Fanc Datblygu Cymru, mae tîm o reolwyr wedi gwireddu eu huchelgais drwy brynu cwmni tecstilau yng Ngogledd Cymru.

Sefydlwyd Riva UK, sydd wedi cael ei leoli yn Stad Ddiwydiannol Wrecsam, gan Rita Bird yn 1993 – mae hi bellach yn gyd-berchennog ar y busnes gyda’i mab Carl. Erbyn hyn, maent yn cyflogi dros 50 o bobl ac yn cyflenwi tecstilau unigryw i amrywiaeth o gwmnïau o’r radd flaenaf. Mae’r cwmnïau hyn yn y sector modurol, y sector gwasanaethau brys, y sector awyrofod a'r sector diwydiannol.

Mae Joe Quinlan yn rheolwr gweithrediadau gyda’r cwmni ers 2017. Bydd Joe yn cymryd yr awenau gan Carl Bird, sy’n gadael ei swydd fel Rheolwr Gyfarwyddwr, ond sydd wedi cytuno i aros ymlaen i weithredu fel ymgynghorydd.

Dywedodd Joe: “Mae Carl a Rita Bird wedi gweithio’n ddiflino i ddatblygu’r busnes dros y blynyddoedd, ac rydw i’n edrych ymlaen at barhau â’r gwaith ac i adeiladu ar eu llwyddiant.

“Rydyn ni’n cael ein cefnogi gan dîm ffyddlon a gweithgar iawn, ac rydw i’n edrych ymlaen at y cyfleoedd sydd ar gael fel rhan o’r swydd.

“Rwy’n hynod ddiolchgar i Fanc Datblygu Cymru am eu cefnogaeth i sicrhau bod y rheolwyr yn gallu prynu’r cwmni. Roedd eu dealltwriaeth a’u harbenigedd yn hanfodol er mwyn i mi a’r tîm allu gwireddu ein huchelgais. Fues i erioed drwy drafodiad fel hyn o’r blaen, felly rwy’n ddiolchgar am eu mewnbwn a’r cymorth a gefais gan Chris Thomas yn SME Finance Partners, a fu wrth fy ochr bob cam o’r ffordd.”

Scott Hughes, Uwch Swyddog Buddsoddi, a Chris Hayward, Swyddog Buddsoddi, fu’n gyfrifol am strwythuro’r buddsoddiad.

Dywedodd Scott: “Rydyn ni’n falch iawn o allu cefnogi Joe gyda’r gwaith o brynu Riva. Mae Joe wedi bod yn rhan allweddol o lwyddiant y busnes dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’r busnes hwn yn darparu cynnyrch o ansawdd heb ei ail. Mae hefyd wedi dod o hyd i gyfleoedd newydd a fydd yn arwain at dwf pellach ac yn creu rhagor o swyddi yn y dyfodol.”

Daeth y cyllid ar gyfer y pryniant o Gronfa Olyniaeth Rheoli Cymru a Chronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru. Wrth gwblhau’r cytundeb, Geldards fu’n gweithredu ar ran Banc Datblygu Cymru, gyda Betsan Powell a Zoe Fletcher o JCP Solicitors a Chris Thomas o SME Finance Partners yn gweithredu ar ran y prynwr.

Ychwanegodd Chris Thomas, cyd-sefydlydd SME Finance Partners, “Rwy’n falch iawn o Joe, ac rwy’n falch o fod wedi ei helpu i wireddu ei uchelgais o brynu’r busnes y mae wedi rhoi ei holl egni i mewn iddo dros y chwe blynedd diwethaf. Roedd hyn yn ganlyniad da i’r holl randdeiliaid, ac roedd yn galluogi Joe i yrru’r busnes yn ei flaen ac i Rita a Carl allu mwynhau mwy o amser gyda’r teulu. Mae wedi bod yn bleser cael cyd-weithio â’r Banc Datblygu, ac mae Scott a Chris wedi ymdrechu’n galed iawn i gwblhau’r cytundeb hwn yn llwyddiannus”.

Mae Cronfa Olyniaeth Rheoli Cymru ar gael i reolwyr neu dimau rheoli sydd eisiau bod yn berchen ar eu busnes eu hunain a’i redeg. Mae’r gronfa wedi ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Bensiwn Clwyd, ac mae’n darparu benthyciadau a buddsoddiadau ecwiti rhwng £500,000 a £3 miliwn gyda thelerau sy’n amrywio rhwng un a saith mlynedd.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i developmentbank.wales/cy