Y Banc Datblygu yn helpu Blendini i dyfu

Richard-Jenkins
Swyddog Portffolio
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Cynllunio busnes
Twf
Marchnata
Blendini

Mae Blendini, y busnes chwaraeon modur proffesiynol, wedi symud i Landŵ ym Mro Morgannwg ar ôl prynu’r hen Uned Harris Pye. Mae’r cytundeb wedi cael ei ariannu’n rhannol gan fenthyciad saith ffigur sylweddol gan Fanc Datblygu Cymru.

Sefydlwyd Blendini Motorsport yn 2010 gan y gyrrwr llwyddiannus, Tom Roche, ac mae’r cwmni wedi symud o Barc Busnes Edwards yn Llantrisant i’r safle 135,000 troedfedd sgwâr yn Llandŵ. Gyda dwy sied awyrennau a saith uned ddiwydiannol, mae lle i dyfu ar y safle newydd ac mae’n lleihau costau gweithredu oherwydd mae lle i wasanaethu cerbydau ar y safle, gan gynnwys cerbydau nwyddau trwm.

Mae gan Blendini Motorsport dîm rasio proffesiynol sy’n gweithredu ac yn cynnal a chadw dros 30 o geir rasio ledled y byd ar gyfer Car Chase Heroes, darparwr rasio ceir cyflym. Gyda thîm o 25, mae’r gwasanaethau’n cynnwys pecynnau cyrraedd a gyrru, hyfforddiant, a thrwsio ceir moethus cyflym.

Dyma ail fenthyciad Blendini gan y Banc Datblygu gan fod y cwmni hefyd wedi cael cymorth gan Gynllun Benthyciadau Busnes Covid-19 Cymru yn ystod y pandemig.

Dywedodd Tom Roche, Rheolwr Gyfarwyddwr Chwaraeon Modur Blendini: “Ers fy nyddiau cynnar yn rasio, rydw i bob amser wedi credu bod angen ymdrech tîm i lwyddo, boed hynny ar y trac rasio neu yn ystafell y bwrdd. Mae gennym ni dîm gwych yn Blendini, a gyda chefnogaeth barhaus y Banc Datblygu, mae gennym ni’r safle iawn i hybu ein twf a lleihau costau gweithredol. Mae pawb ar ei ennill wrth i ni barhau i weld cynnydd yn y galw am ein diwrnodau profiad a gwasanaethau cysylltiedig.”

Mae Richard Jenkins yn Swyddog Gweithredol Portffolios gyda’r Banc Datblygu. Dywedodd: “O oedran ifanc, mae Tom wedi bod yn frwd dros geir ac mae’n mwynhau rhannu ei angerdd â phobl sy’n rhannu ei gariad at geir cyflym ac sydd eisiau rhoi cynnig ar wahanol gerbydau. Rydyn ni bob amser yn canolbwyntio ar feithrin perthnasoedd hirdymor, felly, ar ôl helpu Tom i gael y busnes drwy Covid a gweld y potensial ar gyfer twf hirdymor, roeddem yn awyddus i barhau i gefnogi’r busnes hwn sy’n arwain y farchnad. Ar ben hynny, mae ein buddsoddiad yn gosod seiliau cadarn i Blendini yng Nghymru wrth iddynt barhau i ehangu ledled y DU.”

Daeth y cyllid ar gyfer Blendini Motorsport o Gronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru, sy’n werth £500 miliwn. Mae benthyciadau, cyllid mesanîn a buddsoddiadau ecwiti rhwng £25,000 a £10 miliwn ar gael i fusnesau yng Nghymru, am gyfnodau o hyd at 15 mlynedd.