Yard Caerdydd yn gyrru trawsnewidiad digidol gyda statws B Corp

Sam-Macallister-Smith
Swyddog Portffolio
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Prynu busnes
Ecwiti
Twf
Mentrau tech
Technoleg
Yard

Mae asiantaeth marchnata a thechnoleg sy’n cael ei gyrru gan ddata, Yard, wedi ennill statws B Corp a hynny ddwy flynedd yn unig ar ôl cwblhau mewnbryniant rheolwyr saith ffigwr a ariannwyd gan Fanc Datblygu Cymru.

Sefydlwyd Yard Associates am y tro cyntaf yn 2006 yng Nghaerdydd gan y Cyfarwyddwyr sefydlu Stephan Briggs a Paul Newbury a gyfarfu wrth weithio gyda’i gilydd ym Manc Lloyds. Daeth y Prif Weithredwr Collette Easton yn gyfranddaliwr gyda rhan yn y busnes yn 2021 ochr yn ochr ag Owen Davies fel Cyfarwyddwr Cleient pan wnaeth y Banc Datblygu ei drydydd buddsoddiad yn Yard gyda chyfran ecwiti gwerth 16%.

Gan arbenigo mewn darparu dadansoddiadau wedi’u gyrru gan ddata o ymddygiad defnyddwyr, mae Yard bellach yn cyflogi 55 o bobl a nhw yw dim ond yr ail asiantaeth ddigidol ardystiedig B Corp yng Nghymru. Ymhlith y cwsmeriaid mae Banc Sainsbury Bank, Sage, Camelot, British Gas Business a VisitScotland.

Dywedodd y Prif Weithredwr, Collette Easton: “Rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein bod ni bellach yn Gorfforaeth Ardystiedig B Corp yn ymuno â chymuned fyd-eang o fusnesau sy'n ymdrechu i gael effaith gymdeithasol ac amgylcheddol gadarnhaol. Gyda chefnogaeth ariannol y Banc Datblygu, rydym wedi canolbwyntio ar strwythuro ein busnes ar gyfer y dyfodol er mwyn ein galluogi i gyflawni ein gweledigaeth. Mae cynaliadwyedd yn chwarae rhan allweddol yn y ffordd yr ydym yn gweithredu a byddwn yn parhau i ymdrechu i esblygu ein diwylliant gwaith i gefnogi ein staff, i feithrin timau hapus ac uchel eu cymhelliant, a darparu arloesedd i’n cleientiaid.”

Ychwanegodd Stephan Briggs, Cyd-sylfaenydd Yard: “Rwy’n falch iawn bod Yard bellach yn fusnes Ardystiedig B Corp – mae’n destament i’n gwaith caled a’n hymrwymiadau hir dymor. Nid yw dod yn B Corp yn ymwneud â chyrraedd cyrchfan a stopio yn y fan honno. Mae'n debycach i stop pwysig ar y ffordd i ddod yn fusnes sy'n fwy hunanymwybodol yn fewnol ac yn allanol. Rwy’n gobeithio, o fewn yr ychydig flynyddoedd nesaf, y bydd mwyafrif y busnesau wedi gwneud math tebyg o ymrwymiad y gallant ei ddangos mewn ffordd dryloyw. Yn sicr, mae llawer mwy y gall pawb ei gyflawni.”

Dywedodd Sam Macalister-Smith, Swyddog Portffolio gyda Banc Datblygu Cymru: “Fel buddsoddwr hir dymor yn Yard, rydym wedi gweld refeniw ac elw yn fwy na threblu ers ein buddsoddiad cyntaf wrth i’r busnes fanteisio ar y galw cynyddol yn y DU am wasanaethau trawsnewid digidol a datblygu meddalwedd. Mae’n wych gweld eu hymrwymiad i lywodraethu da ac arferion busnes cyfrifol yn cael eu cydnabod.”

Ariennir Cronfa Olyniaeth Rheolaeth Cymru gwerth £25 miliwn gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Bensiwn Clwyd. Mae benthyciadau a buddsoddiadau ecwiti rhwng £500,000 a £3 miliwn ar gael i fusnesau yng Nghymru.