Ymddiriedolaeth Perchnogaeth Gweithwyr yn sicrhau 50 o swyddi gyda Cwmni Da

Rhodri-Evans
Dirprwy Reolwr Cronfa
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
cwmni da

Mae 50 o swyddi wedi cael eu diogelu yn un o brif gwmnïau cynhyrchu teledu Cymru ar ôl i berchnogaeth y cwmni drosglwyddo i'w weithwyr, yn dilyn cefnogaeth gan Fanc Datblygu Cymru.

Bu'n bosib gwneud y symudiad i roi perchnogaeth Cwmni Da i staff y busnes trwy Ymddiriedolaeth Perchnogaeth Gweithwyr yn sgil buddsoddiad o £750,000 gan y banc datblygu. Disgwylir i'r datblygiad hwn, y cyntaf o'i fath i gael ei gefnogi gan Gronfa Busnes Cymru, hefyd ganiatáu i'r cwmni greu 10 o swyddi newydd.

Mae Cwmni Da, sy'n seiliedig yng Nghaernarfon, a sefydlwyd ym 1996, yn gynhyrchydd pwysig sydd â hanes hir o wneud rhaglenni ffeithiol, adloniant, plant a drama, yn bennaf trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg ar gyfer S4C. Ymhlith ei gynyrchiadau mae rhai o ymgyrchoedd mwyaf y sianel, gan gynnwys Fferm Ffactor, Ffit Cymru, Noson Lawen, Dim Byd a Deian a Loli.

Mae Cwmni Da hefyd yn creu cynnwys ar gyfer y BBC, Channel 4 yn ogystal â phartneriaid rhyngwladol o'i ganolfan gynhyrchu sy’n cynnwys y cyfarpar a’r offer diweddaraf yn Noc Fictoria.

Cyd-sylfaenydd a rheolwr gyfarwyddwr Dylan Huws fu unig berchennog y cwmni ers mis Rhagfyr 2017, pan gamodd dau o'i gyd-gyfarwyddwyr i lawr. Bydd yn parhau fel rheolwr gyfarwyddwr am dair blynedd tra bydd y newid i'r strwythur newydd yn digwydd.

Credir mai'r ymddiriedolaeth hon yw'r cyntaf o'i bath yn y diwydiant darlledu ym Mhrydain. Mae'r prosiect yn cael ei reoli gan Ganolfan Gydweithredol Cymru gyda chyngor cyfreithiol gan gwmni cyfreithiol Geldards yng Nghaerdydd.

Roedd Mr Huws yn awyddus i sicrhau bod y cwmni'n aros yn nwylo rhywun Cymreig ac y byddai'r bobl a oedd yn gweithio i’r cwmni yn elwa yn sgil unrhyw drosglwyddiad perchnogaeth.

Meddai Mr Huws: "Rydym yn hynod ddiolchgar i Fanc Datblygu Cymru am eu cefnogaeth amhrisiadwy ar adeg gyffrous yn hanes Cwmni Da.

"Mae'r arian rydym wedi ei dderbyn wedi ein galluogi i drawsnewid y cwmni i mewn i Ymddiriedolaeth Perchnogaeth Gweithwyr.

"Gyda chymorth y banc datblygu, rydym yn gwreiddio Cwmni Da hyd yn oed yn fwy cadarn yng Nghaernarfon fel y gall y cwmni barhau i ffynnu o ddifri, gan ddarparu swyddi da, sy'n talu'n dda a chyfrannu at yr economi leol."

Meddai Rhodri Evans, Rheolwr Rhanbarthol Banc Datblygu Cymru: "Mae hwn wedi bod yn gyfle cyffrous i'r banc datblygu er mwyn helpu i alluogi'r Ymddiriedolaeth Perchnogaeth Gweithwyr cyntaf yn y diwydiant darlledu ym Mhrydain. Rydym yn deall pwysigrwydd sicrhau a chreu swyddi lleol a darparu cyllid olynol ar gyfer y genhedlaeth nesaf o berchnogion rheolwyr, yn enwedig yn y diwydiannau creadigol.

"Rwy'n siŵr y bydd y cam cyffrous hwn yn hanes Cwmni Da yn dod ag ymdeimlad mawr o berchnogaeth ymhlith gweithwyr presennol ac fe fydd yn fudd deniadol i staff newydd posibl."

Dyma'r busnes cyntaf i dderbyn cyllid o'r math hwn ar gyfer trosglwyddo perchnogaeth o Gronfa Busnes Cymru a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (CDRhE) drwy gyfrwng Llywodraeth Cymru. Fe'i cynlluniwyd i ddarparu benthyciadau busnes a phecynnau ecwiti o £50,000 hyd at £2 filiwn.

Be' nesaf?

Cysylltwch gyda’n tîm buddsoddi ymroddedig i ddarganfod sut y gallem gefnogi'ch busnes neu os ydych chi'n meddwl eich bod yn barod i gael cyllid, gwnewch gais heddiw.

Cysylltwch â'n tîm Ymgeisio nawr