Lumberjack Axe Throwing

Nakeja Howell
Cynorthwyydd Portffolio

Fyddwn i ddim wedi gallu mynd i safle Abertawe pe na bawn i wedi cael yr arian gan y Banc Datblygu. I unrhyw un yng Nghymru sy’n bwriadu agor cwmni, rwy’n teimlo bod y Banc Datblygu a Busnes Cymru yn rhoi’r cymorth gorau un sydd ar gael.

Matthew Griffin, Sylfaenydd

Agorodd Matthew Griffin, 24 oed, y Lumberjack Axe Throwing cyntaf yng Nghaerdydd yn 2019, pan oedd ond yn 21 oed. Y lleoliad yng Nghaerdydd oedd y ganolfan taflu bwyell drefol gyntaf yng Nghymru.

Darllenwch ymlaen i gael gwybod sut y gwnaeth Matthew feddwl am y syniad, a sut y mae wedi defnyddio micro-fenthyciad gan Fanc Datblygu Cymru i ehangu’r busnes.

Saer i entrepreneur

Dechreuodd Matthew hyfforddi fel saer coed yn syth o’r ysgol. Dechreuodd sylwi bod ochr fusnes i’w waith a dyma le'r oedd ei frwdfrydedd mwyaf.

Tra oedd yn ymweld â’i frawd yn Llundain, aeth y ddau i ddigwyddiad taflu bwyell un noson. Yn gamp a sefydlwyd yn wreiddiol yn America, gwelodd Matthew nad oedd dim byd tebyg iddi yng Nghymru, ac felly penderfynodd achub ar y cyfle i lenwi bwlch yn y farchnad.

Agorodd y safle Lumberjack cyntaf yng Nghaerdydd ganol 2019, gan barhau i weithio fel saer coed hunangyflogedig a gweithio tuag at ei radd brifysgol.

Ehangu i Abertawe

Ar ôl llwyddo i lywio’r busnes drwy’r anawsterau a achoswyd gan bandemig Covid-19, aeth Matthew ati i ehangu Lumberjack ddiwedd 2021. Roedd y galw’n uchel ac roedd safle Caerdydd yn mynd yn rhy fach i nifer y cwsmeriaid, felly roedd eisiau tyfu’r busnes drwy gyflwyno taflu bwyell i ardal newydd.

Gyda help micro-fenthyciad o £35,000 gan Fanc Datblygu Cymru mae Matthew bellach wedi agor ail safle Lumberjack ar Dillwyn Street yn Abertawe. 

Roedd y micro-fenthyciad yn caniatáu iddo gadw’r busnes yn sefydlog yn ystod gwaith o adnewyddu’r safle newydd. Mae’r datblygiad hefyd yn cael ei gefnogi gan Grant Gwella Eiddo Cyngor Dinas Abertawe. 

Dywedodd Matthew: “Mae rhedeg cwmni wrth geisio adeiladu adeilad ddwywaith maint yr un sy’n dod â’r refeniw i mewn yn gallu lleihau cronfeydd cyfalaf yn sylweddol, felly roedden ni’n chwilio am rywbeth i helpu gyda’r llif arian wrth i ni wneud y gwaith adeiladu.

“Fyddwn i ddim wedi gallu mynd i safle Abertawe pe na bawn i wedi cael yr arian gan y Banc Datblygu. I unrhyw un yng Nghymru sy’n bwriadu agor cwmni, rwy’n teimlo bod y Banc Datblygu a Busnes Cymru yn rhoi’r cymorth gorau un sydd ar gael. Rwy’n teimlo ei fod yn gyfle gwych i entrepreneuriaid ifanc gael y gefnogaeth sydd arnyn nhw eu hangen.”

Mae Matthew, a enillodd wobr Person Busnes Ifanc y Flwyddyn yng Ngwobrau Busnes Caerdydd 2020, yn bwriadu agor “ystafelloedd  torri tensiwn” yn y lleoliad newydd yn ddiweddarach eleni. Bydd y rhain yn rhoi cyfle i gwsmeriaid leddfu eu straen drwy falu llestri ac eitemau eraill.

Gwyliwch y fideo i gael rhagor o wybodaeth gan Matthew am ei daith fusnes.

I ddarllen fwy am sut gall y Banc Datblygu helpu mentergarwyr ifanc, ewch i https://developmentbank.wales/cy/mentergarwyr-ifanc 

Be' nesaf?

Gwiriwch i weld a yw'ch busnes yn gymwys neu dechreuwch ar eich cais ar-lein nawr. Y digwyddiadau a'r newyddion dechrau busnes diweddaraf.

Gwiriwr cymhwysedd Ymgeisiwch nawr