Fe wnaethom gefnogi dros 100 o bobl ifanc yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, a gallech chi fod nesaf.

Cyllid hyblyg ar gyfer mentergarwyr ifanc

Chwilio am fenthyciad o hyd at £50k i ddechrau busnes?

Gellir defnyddio benthyciad dechrau busnes at lawer o ddibenion megis rhentu neu brynu eiddo, offer a stoc newydd neu logi staff. Mae'r Banc Datblygu yn cynnig benthyciadau o £1k hyd at £50k i helpu'ch busnes i ddechrau.

Siaradwch gydag un o'n hyrwyddwyr mentergarwyr ifanc heddiw i drafod eich anghenion a darganfod beth fydd ei angen arnom gennych chi - pethau fel cynllun busnes a rhagolygon ariannol. Gallwch hefyd edrych ar ein tudalen Benthyciadau Dechrau Busnes am ragor o wybodaeth.

Chwilio am chwistrelliad o gyllid?

Dechreuwch neu tyfwch eich busnes gyda benthyciad o dros £50k gan Fanc Datblygu Cymru. Bydd angen i ni weld eich cynllun busnes ac ychydig o ddatganiadau ariannol, ond gallwn drafod hyn i gyd yn fanylach. Cysylltwch â'n hyrwyddwyr mentergarwyr ifanc ymroddedig heddiw.

Ecwiti ar gyfer eich busnes technoleg sy’n dechrau, cam cynnar neu sefydledig

Os ydych chi'n bwriadu lansio neu dyfu o fewn y diwydiant technoleg, bydd ein tîm buddsoddiadau menter technoleg arbenigol yn gallu trafod eich anghenion a gweld a allwn ni eich helpu i gyrraedd yno. Mae ein cyllid sbarduno yn darparu buddsoddiad ecwiti o £50k i £250k. Os ydych yn ystod eich camau cynnar neu wedi sefydlu, rydym yn cynnig benthyciadau ac ecwiti hyd at £2 filiwn.

Mae llawer o opsiynau ar gael i fentergarwyr ifanc sy’n seiliedig yng Nghymru sydd â diddordeb mewn technoleg, felly mae'n well siarad ag un o'n tîm neu edrychwch ar ein tudalen mentrau technoleg am ragor o wybodaeth.

Ddim yn hollol barod am gyllid? Gall Syniadau Mawr Cymru eich helpu i gyrraedd yno

3,000 o fentergarwyr ifanc wedi cael cymorth gan Syniadau Mawr Cymru

  • Cymorth busnes un-i-un
  • Digwyddiadau a chystadlaethau rheolaidd
  • Gweminarau ar gyfer pob cam yn eich taith fusnes
  • Darperir y gweithdai gan feddyliau busnes arweiniol Cymru
  • Grant Dechrau Busnes Pobl Ifanc o hyd at £2k

Cysylltiadau defnyddiol

I gael rhagor o wybodaeth am fentora neu’r Grantiau Dechrau Busnes i Bobl Ifanc, ewch i weld Syniadau Mawr Cymru 

Mae Ymddiriedolaeth y Tywysog hefyd yn cefnogi mentergarwyr ifanc i baratoi ar gyfer buddsoddiad.

Be’ sy’ nesaf?

Os ydych chi'n fentergarwr ifanc 18-30 oed ac yn chwilio am gyllid busnes, siaradwch ag un o'n tîm i drafod eich anghenion neu, os ydych chi'n barod, gwnewch gais am fenthyciad heddiw.

Ymgeisio nawr