Mae gwaith wedi dechrau ar y datblygiad cyntaf o gartrefi cynaliadwy a ariennir gan Gymhelliant Tai Gwyrdd Banc Datblygu Cymru am bris gostyngol.
Mae benthyciad datblygu eiddo gwerth £1.2 miliwn ar gyfer Wellspring Homes yng Nghaerdydd yn cael ei ddefnyddio i ran-ariannu adeiladu wyth cartref cynaliadwy yn Pearson Way, Castell-nedd. Ychydig funudau o goridor yr M4, bydd y datblygiad yn cynnig pedwar cartref teulu sengl 4 ystafell wely ochr yn ochr â phedwar eiddo pâr 2 ystafell wely. Gyda graddfa ynni Gradd A, bydd pympiau gwres ffynhonnell aer yn cael eu gosod ar bob un a byddant yn cael eu hadeiladu gan ddefnyddio Hempcrete, deunydd naturiol “gwell na sero-carbon”.
Am ei fod yn ddeunydd sy’n gallu anadlu sydd wedi'i wneud o gymysgedd o gywarch a chalch, mae Hempcrete yn caniatáu i fwy o garbon atmosfferig gael ei gloi i ffwrdd yn y deunydd am oes yr adeilad nag a ddefnyddiwyd wrth ei gynhyrchu a'i ddefnyddio. Mae ei briodweddau yn helpu i storio a rhyddhau gwres o waliau'r adeilad, gan gyfyngu ar amrywiadau mewn tymheredd a lleihau'r defnydd o ynni ac mae ei anadladwyedd yn golygu bod y waliau'n rhyddhau lleithder mewnol, gan ddileu anwedd a'r twf llwydni cysylltiedig.
Hadleigh Hobbs yw Rheolwr Gyfarwyddwr Wellspring Homes. Meddai: “ Fel gyda’n holl ddatblygiadau, bydd yr eiddo hyn yng Nghastell-nedd yn cynnig y safon byw uchaf addas ar gyfer y dyfodol, gan ymgorffori dulliau adeiladu arloesol. Rydym yn defnyddio’r deunyddiau mwyaf cynaliadwy sydd ar gael oherwydd bod ar Gymru angen cartrefi newydd sydd wedi’u hadeiladu’n dda, yn hardd i fyw ynddynt ac sy’n helpu ein hamgylchedd naturiol i ffynnu.
“O’r cysyniad cychwynnol hyd at y cyffyrddiadau terfynol, rydym yn defnyddio contractwyr lleol sy’n deall ein hethos ac mae gennym bellach gefnogaeth partner ariannu sy’n rhannu ein hymrwymiad i gynyddu nifer y cartrefi mwy effeithlon o ran thermol a charbon is yng Nghymru. Mae anogaeth y Banc Datblygu ynghyd â'u hymagwedd gymwynasgar a'u telerau benthyca deniadol yn golygu bod gennym bellach y gofod a'r hyder i gynyddu a darparu cartrefi mwy cynaliadwy.”
Dywedodd James Brennan o Fanc Datblygu Cymru: “ Mae ymchwil yn dangos bod gweithrediad adeiladau yn cyfrif am tua 30% o allyriadau yn y DU, yn bennaf o wresogi, oeri a defnyddio trydan. Ar gyfer adeiladau newydd, gall yr allyriadau ymgorfforedig o adeiladu gyfrif am hyd at hanner yr effeithiau carbon sy'n gysylltiedig â'r adeilad dros ei gylch oes.
“Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i ni fynd i’r afael â’r dulliau adeiladu a ddefnyddir gan ddatblygwyr cartrefi newydd a chynnig y cymorth ariannol sydd ei angen i’r rhai sy’n barod i wneud y newid i helpu i leihau allyriadau carbon. Mae Hadleigh a’r tîm yn Wellspring Homes yn enghraifft wych o’r math o ddatblygwyr yr ydym am eu cefnogi gyda’n Cymhelliant Cartrefi Gwyrdd. Maen nhw wir yn arwain chwyldro mewn byw’n gynaliadwy.”
Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae'r Cymhelliant Cartrefi Gwyrdd ar gael ar fenthyciadau datblygu preswyl o gronfeydd datblygu eiddo'r Banc Datblygu ac mae'n cynnwys gostyngiad mewn ffioedd benthyciad o hyd at 2%. Mae cyllid ar gyfer hyd at 100% o gostau adeiladu ar gael gyda llog yn cael ei gronni drwy gydol tymor y benthyciad. Bydd cymhwysedd yn dibynnu ar feini prawf cymhwyso sy'n cynnwys statws EPC A / Passivhaus, strwythurau nad ydynt yn goncrid a systemau gwresogi tanwydd nad ydynt o fath tanwydd ffosil.