John Henry Flowers

Donna-Strohmeyer
Swyddog Buddsoddi

Roedd agwedd hyblyg a chyfeillgar y Banc Datblygu yn golygu ein bod wedi cael yr union swm yr oedd ei angen arnom, pan oedd ei angen arnom, felly rydyn ni nawr ar waith yn ein siop newydd ac rydym wrth ein bodd.

John Sartain, Cyfarwyddwr, John Henry Flowers

Trosolwg o’r busnes

Mae John Henry Flowers yn darparu blodau ar gyfer pob achlysur fel priodasau ac angladdau, ac mae’n gweithio gyda chwsmeriaid corfforaethol i addurno digwyddiadau.

Cafodd y cwmni ei sefydlu yng Nghaerdydd ym mis Gorffennaf 2021 ac mae’n cynnig tuswau blodau o’r siop sy’n cynnwys tuswau a threfniadau i gwsmeriaid, tuswau a threfniadau parod, planhigion, potiau, fasau ac ategolion addurniadol.

Sylfaenwyr

John Henry Flowers

 

John Sartain a Michael Webb - Mae’r busnes yn cael ei redeg gan y pâr priod John a Michael, sy’n darparu amrywiaeth eang o flodau a phlanhigion i’w cwsmeriaid. Mae gan John dros 30 mlynedd o brofiad fel gwerthwr blodau ac mae wedi darparu gwaith i Madam Tussaud's.

Gweithio gyda ni

Joh

 

Roedd blwyddyn fasnachu gyntaf John Henry Flowers yn llwyddiannus, ac roedd mwy a mwy o alw am blanhigion tŷ, potiau, fasau ac ategolion addurniadol yn golygu bod angen mwy o le ar y busnes.

Roedd gan eu landlord presennol eiddo mwy i’w osod ar ochr arall Wellfield Court, a oedd yn darparu mwy o le ac a oedd mewn lleoliad da lle gallai’r busnes fanteisio ar siop fwy gyda mwy o gwsmeriaid yn mynd heibio. Er mwyn gallu symud, fe ddaeth John Henry Flowers atom i gael cyllid.

Cyllid

John Henry Flowers

 

Gyda busnes yn ffynnu ar gyfer y busnes blodau poblogaidd, gwnaethom ddarparu benthyciad o £15,000 i helpu John Henry Flowers i adleoli i Uned 10, Wellfield Court, Caerdydd. Byddai’r arian yn talu am addasu’r siop, gan gynnwys arwyddion, silffoedd newydd, lloriau newydd a pheintio mewnol, a rhoi cyfalaf gweithio ychwanegol i’r busnes.

Beth mae pobl yn ei ddweud

Busnesau bach yw anadl einioes ein heconomi, felly rydyn ni’n gweithio’n galed i ddarparu benthyciadau sy’n helpu perchnogion busnesau i fanteisio ar gyfleoedd newydd a hwyluso llif arian. Mae John a Michael wedi gwneud gwaith gwych yn dodrefnu eu siop newydd ac erbyn hyn mae ganddyn nhw’r lle ffisegol ac ariannol i dyfu.

Donna Strohmeyer, Swyddog Buddsoddi, Banc Datblygu Cymru

Fe wnaethon ni’r symiau a chanfod yn gyflym bod angen £15,000 arnom i dalu i addasu’r siop a rhoi cyfalaf gweithio ychwanegol i ni brynu mwy o stoc a thalu’r rhent uwch. Efallai nad yw hynny’n ymddangos yn llawer o arian i rai perchnogion busnes, ond i ni, roeddem yn gwybod y byddai’n gwneud byd o wahaniaeth drwy dalu am y symud a rhoi lle inni dyfu. Roedd agwedd hyblyg a chyfeillgar y Banc Datblygu yn golygu ein bod wedi cael yr union swm yr oedd ei angen arnom, pan oedd ei angen arnom, felly rydyn ni nawr ar waith yn ein siop newydd ac rydym wrth ein bodd.

John Sartain, Cyfarwyddwr, John Henry Flowers

Be' nesaf?

Gwnewch ymholiad cychwynnol drwy ein ffurflen cysylltu â ni a gallwn ddechrau trafod eich opsiynau.

Cysylltu â ni